Cathy Hewins

Uwch Ddarlithydd Iechyd

Picture of staff member

Rwyf wedi bod yn nyrs gofrestredig ers mis Ebrill 1995. Dechreuais fy addysg nyrsio gychwynnol yn 1992 ym Mhrifysgol Keele lle cwblheais Ddiploma mewn Addysg Uwch, Nyrsio (Adain Oedolion) yn llwyddiannus. 

Yn 1999 dechreuais ar fy ngradd israddedig mewn Nyrsio Uwch yn yr hyn a oedd bryd hynny yn NEWI. Graddiais yn 2001 gyda BSc (Anrh) mewn Nyrsio Uwch gyda thystysgrif arfer arbenigol. Mae gennyf hefyd gymhwyster dysgu a thystysgrif ôl-raddedig mewn e-ddysgu.

Dechreuodd fy mywyd gwaith fel nyrs yn 1992 yn Ymddiriedolaeth GIG Ysbyty North Staffordshire, lle cwblheais fy addysg nyrsio. Sicrheais swydd fel nyrs gymwysedig yn 1995 yn Ysbyty Wrecsam Maelor lle gweithiais ar y ward derbyniadau meddygol. Ym mis Ionawr 1997, dechreuais weithio fel nyrs staff yn Ysbyty Glan Clwyd ar yr Uned Arennol. Datblygais arbenigedd mewn nyrsio arennol ac yn benodol hemodialysis. Gadewais yr Uned Arennol ym mis Hydref 2003 i ddechrau ar fy swydd ym Mhrifysgol Wrecsam yn y tîm Nyrsio yn dysgu’r Diploma Israddedig mewn Nyrsio Oedolion a BN (Anrh) mewn Nyrsio Oedolion.  

Yn 2013 dois yn arweinydd rhaglen ar gyfer FDA mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol am gyfnod byr cyn ymgymryd ag arweinyddiaeth ardal raglen Blwyddyn Sylfaen ar gyfer yr holl fyfyrwyr BSc Iechyd, Lles a Chymyned yn ogystal â dechrau dysgu ac arwain modiwl ar y rhaglen BSc Iechyd, Lles a Chymuned.  Rwyf wedi cynorthwyo i ysgrifennu ac ymgymryd â dilysu cyfres newydd o gyrsiau iechyd a lles a chymerais arweinyddiaeth y rhaglen Diploma mewn Iechyd a Lles Cymdeithasol, tra’n parhau i arwain ar yr hen flwyddyn sylfaen. Yn fwy diweddar rwyf wedi cyd-ysgrifennu’r Flwyddyn Sylfaen newydd ar draws y gyfadran ac rwy’n cyd-arwain y rhaglen hon.

Rwyf wedi bod yn rhan o’r Tîm Datblygiad Academaidd ers iddo ddechrau ychydig flynyddoedd yn ôl.  Yn wreiddiol roeddwn yn aelod o’r grŵp Mentora Cyfoedion Myfyrwyr ac rwyf wedi arwain Mentora Cyfoedion Myfyrwyr yn y tîm Iechyd a Lles dros y 6 mlynedd ddiwethaf.  Gall myfyrwyr sydd wedi bod yn astudio yn y brifysgol am o leiaf 1 flwyddyn academaidd ymgymryd â’r rôl ac mae myfyrwyr newydd wedi canfod bod y gefnogaeth mentora gan gyfoedion yn amhrisiadwy.  Rwyf nawr yn aelod o’r edefyn Cyflogadwyedd.  Mae gen i ddiddordeb mawr i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd ein myfyrwyr ac rwy’n gweithio’n agos gyda Jenny Whitaker yn Gyrfaoedd ar hyn.  Rwyf wedi ysgrifennu ac arwain y modiwl cyflogaeth lefel 6 lle rwyf wedi datblygu asesiad cyfweld arloesol.

Yn fy amser rhydd, rwy’n hoffi treulio amser yn mynd â fy merch yma ac acw; rwyf hefyd yn mwynhau dawnsio ac rwy’n aelod o garfan Cystadleuaeth Oedolion ein hysgol ddawns.

Prosiectau Ymchwil

Teitl Rol Disgrifiad O/I
Prosiect Seilwaith Gwyrdd Cyfwelydd Cymerais ran wrth gyfweld cyfranogwyr y Prosiect Seilwaith Gwyrdd, casglu'r canlyniadau ac ysgrifennu'r adroddiad. 01/2025 - 01/2025

Anrhydeddau a Gwobrau

Dyddiad Teitl Corff dyfarnu
06-2013 Tystysgrif Ôl-raddedig mewn e-Ddysgu Prifysgol Wrecsam
04-1995 Diploma mewn Addysg Uwch mewn Nyrsio Oedolion Keele University
06-2004 Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Datblygiad Proffesiynol Prifysgol Wrecsam
06-2001 BSc Anrhydedd Nyrsio Cymhwysol Prifysgol Cymru

Cymdeithasau Proffesiynol

Cymdeithas Swyddogaeth O/I
Nursing and Midwifery Council Nursing regulator  

Pwyllgorau

Enw Disgrifiad Dyddiad
Uniondeb academaidd   09/2013

Cyflogaeth

Cyflogwr Safle O/I
Wrexham Maelor NHS Trust Nyrs Staff 04/1997 - 09/1996
Glan Clwyd NHS Trust Nyrs Staff 09/1997 - 09/2003
North East Wales Institute Ddarlithydd 10/2003 - 07/2008
Prifysgol Glyndwr Uwch Ddarlithydd 07/2008 - 05/2016
Prifysgol Glyndwr  Uwch Ddarlithydd 05/2016 - 09/2023
Prifysgol Wrexham  Uwch Ddarlithydd 09/2023 - 01/2025

Addysg

Sefydliad Cymhwyster Pwnc O/I
Prifysgol Glyndwr  Tystysgrif Ôl-raddedig mewn E-Ddysgu E-Ddysgu 09/2011 - 06/2012
North East Wales Insitute PGCPD Tystysgrif ôl-raddedig mewn datblygiad proffesiynol - cymhwyster addysgu 09/2002 - 06/2004
Keele University Diploma mewn Nyrsio Oedolion Nyrsio Oedolion 04/1992 - 04/1995
North East Wales Insitute BSc Hons in Applied Nursing Gwobr Astudiaethau Nyrsio gydag Ymarfer Arbenigol 09/1999 - 06/2001

Ieithoedd

Iaith Darllen Ysgrifennu Siarad
Saesneg Hyfedredd Brodorol / Dwyieithog Hyfedredd Brodorol / Dwyieithog Hyfedredd Brodorol / Dwyieithog

Gweithgareddau Proffesiynol Eraill

Teitl Disgrifiad O/I
Advance HE Aurora Leadership Programme  
Hyfforddwr Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl  

Rhaglenni / Modiwlau Cydlynu

Teitl Pwnc
Fundamentals of Anatomy and Physiology HLT306
Applied Physiology in Wellbeing HLT417
Preparing for Employment in Health, Mental Health and Wellbeing HLT613
Health, Wellbeing and the Body HLT427
Professionalism and Personal Learning in a Work Based Context HLT514
Study Skills for Success FY312
Professional Communication in the Workplace FY311
Policy and Practice in Public Health HLT528