Catrin Darlington
Darlithydd mewn Addysg Gynradd gyda SAC
![Wrexham University](https://wrexham.ac.uk/media/marketing/campuses/wrexhamcampus/tower.jpg)
Cyn ymuno â Phrifysgol Wrecsam, bu Catrin yn dysgu mewn sawl ysgol wahanol ar draws Gogledd Cymru, yn amrywio o'r Dosbarth Derbyn i Flwyddyn 6. Bu Catrin yn dysgu mewn Addysg Gynradd Cyfrwng Cymraeg ac mae ganddi angerdd dros y Gymraeg, mae hi'n credu y dylai pob plentyn gael cyfle i gael addysg ddwyieithog.
Yn ystod ei chyfnod fel Athro Ysgol Gynradd, roedd Catrin yn fentor i fyfyrwyr dan hyfforddiant ac yn cynnig cefnogaeth ac arweiniad iddynt yn yr ystafell ddosbarth. Roedd hi hefyd yn fentor i fyfyrwyr gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, gan roi arweiniad iddynt ar eu camau nesaf i yrfa addysgu ar ôl cwblhau eu gradd.
Mae Catrin yn byw yn lleol, yn ei hamser hamdden fel arfer fe welwch hi mewn siop goffi neu'n cerdded gyda'i gŵr a'u cockapoo, Ani.
Anrhydeddau a Gwobrau
Dyddiad | Teitl | Corff Dyfarnu |
---|---|---|
08-2017 | BA Anrh Addysg Gynradd gyda SAC | Prifysgol Bangor |