Cwblhaodd Christabel ei hyfforddiant nyrsio yn 2000 ym Mhrifysgol Central England yn Birmingham lle cymhwysodd fel Nyrs Plant. Mae wedi gweithio mewn nifer o ysbytai aciwt, ysbytai cyffredinol ac ysbytai trydyddol, gan gynnwys Ysbyty Plant Birmingham ac Ysbyty Great Ormond Street yn Llundain. Mae wedi gweithio ar draws ystod o oedrannau o fewn nyrsio plant, o fabanod newyddenedigol i’r glasoed. Mae hefyd wedi treulio amser yn gweithio fel nyrs arbenigol yn y gwasanaeth poen aciwt tra’n gweithio yn Ysbyty Plant Birmingham.
Ers iddi symud i Swydd Amwythig yn 2013 mae Christabel wedi gweithio’n bennaf gyda phlant a phobl ifanc gydag anghenion iechyd cymhleth ac anableddau dysgu. Mae hyn wedi bod mewn rolau yn Hosbis Hope House ac o fewn yr adran gomisiynu yn y Grŵp Comisiynu Clinigol Swydd Amwythig. Cyn ymuno gyda Phrifysgol Wrecsam, gweithiodd Christabel fel Nyrs Ysgolion Arbennig o fewn canolfan darparu adnoddau mewn ysgol gynradd yn Wrecsam Roedd ei swydd hefyd yn ymgorffori rôl nyrs ysgol iechyd cyhoeddus ar gyfer yr ysgol gyfan.
Y tu allan i’r gwaith, mae merch Christabel yn ei chadw’n brysur.