Christine Cartwright
Uwch Ddarlithydd Nyrsio Iechyd Meddwl
Mae Christine wedi bod yn uwch-ddarlithydd mewn nyrsio iechyd meddwl ers 2013. Ymysg ei rolau blaenorol mae arweinydd maes ar gyfer rhaglenni nyrsys iechyd meddwl cyn-gofrestru ac arweinydd cwrs llwybrau Gradd Sylfaen/Prentisiaeth ar gyfer gweithwyr Iechyd Meddwl ar draws Canolbarth Lloegr.
Fel nyrs iechyd meddwl gofrestredig sydd wedi gweithio am dros 25 o flynyddoedd mewn ymarfer glinigol, mae Christine wedi gweithio gan fwyaf yn y gymuned gyda phobl hŷn. Yn ystod ei gyrfa mae wedi cael ystod o gyfleodd gan gynnwys arwain a datblygu gwasanaethau cymunedol, gwaith rhyngasiantaethol, cleifion mewnol ac unedau cymunedol, a gwasanaethau cyswllt â’r ysbyty. Ymysg y rolau bu arweinydd prosiect, metron fodern, ymarferydd nyrs arbenigol ac arwain gwasanaethau iechyd meddwl wedi eu lleoli yn y gymuned leol ar gyfer pobl hŷn.