Christine Woolford

Darlithydd mewn Addysg

Picture of staff member

Mae gan Christine dros 18 mlynedd o brofiad o weithio ym maes addysg, gan gynnwys y sectorau Blynyddoedd Cynnar, Cynradd ac AU, gan ganolbwyntio’n benodol ar gynnwys ADY/AAA. Mae ganddi gymhwyster ALSA gan Gymdeithas Dyslecsia Prydain, a chyn hynny gweithiai i elusen plant, gan weithio gyda phobl ifanc yn galaru, wedi dioddef colled neu brofedigaeth.

Wedi derbyn Gradd Sylfaen mewn Ymarfer Integredig Plant a’r Blynyddoedd Cynnar, cwblhaodd ei BA (Anrh) Addysg ym Mhrifysgol Wrecsam. Dychwelodd i gwblhau ei chwrs TAR (AHO), a’i MA Addysg (Addysgu a Dysgu).

Mae Christine yn gweithio ym Mhrifysgol Wrecsam ar sawl lefel, gan gynnwys datblygu a darparu cyrsiau byr, addysgu ar y rhaglenni Addysg Israddedig, ac Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol. Ar hyn o bryd, mae ei meysydd ymchwil yn cynnwys archwilio sut i ddatblygu’r ymdeimlad o gymuned a pherthyn mewn dysgu ar-lein, a sut mae chwarae a dysgu yn yr awyr agored yn cyfrannu at ddatblygiad cyfannol plentyn.

Anrhydeddau a Gwobrau

Dyddiad Teitl Corff Dyfarnu
06-06-2017 Cynorthwyydd Cymorth Dysgu Achrededig CDP (ALSA) Cymdeithas Dyslecsia Prydain
17-11-2020 Arloesi mewn Technoleg Gwobrau Staff Tu Hwnt i’r Galw Prifysgol Wrecsam
01-06-2012 Tyfu trwy’r Tymhorau, Cydymaith Galar, Colled a Phrofedigaeth i Blant Cymdeithas Gatholig y Plant

Cyflogaeth

Cyflogwr Swydd Blwyddyn
Prifysgol Wrecsam Darlithydd mewn Addysg  2017 - 2025

Addysg

Sefydliad Cymhwyster Pwnc
Prifysgol Edge Hill 

FDSc mewn Ymarfer Integredig Plant a’r Blynyddoedd Cynnar

Ymarfer Integredig Plant 
Prifysgol Glyndwr

Tystysgrif Raddedig Broffesiynol mewn Addysg (AHO), TAR

(AHO), TAR
Prifysgol Glyndwr

MA Addysg (Addysgu a Dysgu)

Addysg
Prifysgol Glyndwr BBA (Anrh) Astudiaethau Addysg Addysg

Rhaglenni/ Modiwlau wedi'u Cydlynu

Teitl Pwnc
Introduction to Health and Wellbeing ECS306
Inclusion and Diversity EDN502
Preparing to Teach in Post Compulsory Education and Training (L4) EDS418
Introduction to Skills for the Workplace ECS308
Social Justice, Equality and Welfare EDC628
The Confident Learner EDS405
Connecting Theories of Learning, Teaching and Assessment (L6) EDS610
Enhancing Learning through Creative and Innovative Practice (L6) EDS612
Preparing to Teach in Post Compulsory Education and Training (L6) EDS619
Child Development and Play EDN401
Inclusion and Diversity EDN502
Play and Outdoor Learning EDY406