Dr Christopher White
Darlithydd mewn Iechyd, Iechyd Meddwl a Lles
Ymunodd Chris gydag Adran Iechyd a Lles Prifysgol Wrecsam ym mis Chwefror 2021 (wedi iddo fod yn dysgu cyn hynny ym Mhrifysgol Caer, Prifysgol Fetropolitan Manceinion a Phrifysgol Newman). Cwblhaodd ei PhD drwy Brifysgol Caer yn 2023, wedi iddo hefyd gwblhau MSc mewn Cymdeithaseg Chwaraeon ac Ymarfer Corff a BSc mewn Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn yr un sefydliad. Roedd traethawd hir ei ddoethuriaeth yn archwilio teithio llesol fel mater iechyd cyhoeddus ymysg amrywiol ymarferwyr iechyd cyhoeddus.
Mae ei weithgarwch ymchwil diweddar yn cynnwys rôl arweiniol sefydliadol gydag Athrofa Cymru ar Gyfer Gweithgarwch Corfforol, Iechyd a Chwaraeon a phrosiectau ochr yn ochr gyda sefydliadau megis Cyngor Sir y Fflint, a Chymdeithas Bêl-droed Wrecsam.
Oddi allan i addysg uwch, mae Chris wedi arwain nifer o Ysgolion Haf preswyl ac mae’n rhedwr brwdfrydig (er nad yw’n gyflym iawn) ac yn arweinydd rhedeg.
- Teithio llesol
- Dylunio a gweithredu polisïau
- Y modd y mae awdurdodau lleol a grwpiau iechyd cyhoeddus yn gweithio o’r tu mewn
- Y modd y mae systemau’n gweithio
- Hunaniaeth
- Cymdeithaseg ddarluniadol
Cyhoeddiadau
Blwyddyn | Cyhoeddiad | Math |
---|---|---|
2023 | Perspectives on relative energy deficiency in sport (RED-S): A qualitative case study of athletes, coaches and medical professionals from a super league netball club, [DOI] O'Donnell, Justine;White, Chris;Dobbin, Nick |
Cyfnodolyn a Adolygwyd gan Gymheiriaid |
2022 | Are you lookin' at me? A mixed-methods case study to investigate the influence of coaches' presence on performance testing outcomes in male academy rugby league players, INTERNATIONAL JOURNAL OF SPORTS SCIENCE & COACHING. [DOI] Richardson, Ben;Dobbin, Nick;White, Christopher;Bloyce, Daniel;Twist, Craig |
Cyfnodolyn a Adolygwyd gan Gymheiriaid |
Rhaglenni/Modiwlau wedi'u Cydlynu
Teitl | Pwnc |
---|---|
Cysyniadau Allweddol mewn Iechyd, Iechyd Meddwl a Lles | HLT428 |
Dulliau ymchwil ar gyfer iechyd, iechyd meddwl a lles | HLT710 |
Cyflwyniad i Les | HLT430 |
Ymddygiad Iechyd ar draws y cwrs bywyd | HLT524 |
Paratoi ar gyfer Ymchwil y Byd Go Iawn mewn Iechyd | HLT529 |
Sgiliau Astudio ar gyfer Llwyddiant | FY312 |