Danielle Leboutte

Darlithydd mewn Ymarfer Clinigol Brys

Picture of staff member

A minnau wedi gweithio dros 19 mlynedd yn cael profiad penodol mewn gofal brys, rwyf wedi meithrin diddordeb arbennig mewn gofal brys pediatrig. Dechreuais fy nhaith yn gweithio i’r GIG mewn adran frys ddeinamig, ac yn dilyn hynny treuliais 3 1/2 mlynedd yn arbenigo mewn gofal dwys Pediatrig ac ennill fy Nhystysgrif Ôl-raddedig mewn gofal nyrsio dwys Pediatrig, yn mireinio sgiliau mewn rheoli gofal plant sy’n ddifrifol wael a datblygu dealltwriaeth ddofn o gymhlethdodau Iechyd pediatrig. 

Fe wnes i wedyn symud yn ôl i ofalu am oedolion a’r boblogaeth Bediatrig, gan feithrin diddordeb arbennig yng ngofal y claf sy’n ddifrifol wael yn ogystal â gofal trawma, gan adlewyrchu fy ymrwymiad i ddarparu gofal cynhwysfawr a chydymdeimladol mewn sefyllfaoedd o fod o dan bwysau uchel. Fel Uwch Hyfforddwr Cefnogi Bywyd ac Uwch Hyfforddwr Cefnogi Bywyd Pediatrig, rwy’n parhau i fod yn angerddol dros addysgu fy nghydweithwyr gofal iechyd proffesiynol, gan sicrhau bod safonau gofal uchel yn cael eu cadw o fewn lleoliadau brys.

Ar hyn o bryd rwy’n defnyddio fy mhrofiad helaeth o fewn r ôl datblygu ymarfer o fewn y GIG, gan ganolbwyntio ar arferion gofal brys mewn gofal brys.

Rwy’n ymroddedig i symud ansawdd darpariaeth gofal brys yn ei flaen, gan hyrwyddo strategaethau arloesol sy’n gwella ac yn cefnogi deilliannau i’r claf a chefnogi timau gofal iechyd.

Rwy’n gobeithio y byddaf yn parhau bob diwrnod i wneud gwahaniaeth i fywydau plant a’u teuluoedd mewn argyfwng, ac rwy’n anelu i ymgorffori gwerthoedd tosturi, rhagoriaeth ac arweinyddiaeth mewn nyrsio.

Gofal Trawma - Oedolion a Phediatreg 

Blinder Tosturio o fewn y lleoliad gofal Brys 

Cleifion sy’n Ddifrifol Wael - Oedolion a Phediatreg

Anrhydeddau a Gwobrau

Dyddiad Teitl Corff Dyfarnu
09-2002 BSc (Anrh) Seicoleg Athrofa Addysg Uwch y Gogledd Ddwyrain
09-2006 BN Nyrsio Prifysgol Bangor
09-2012 Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Nyrsio Gofal Dwys Pediatrig Prifysgol John Moores 

Cymdeithasau Proffesiynol

Cymdeitha Ariennir gan
Resuscitation Council UK Addysg Cefnogaeth Bywyd Uwch

Gofal Trawma (Oedolion a Phediatreg)

Gofalu am gleifion sy’n Enbyd o Wael (Oedolion a Phediatreg)

Gofal Trawma (Oedolion a Phediatreg)

Cefnogaeth Bywyd Uwch (Oedolion a Phediatreg) 

Gofal Dwys (Arbenigedd Pediatreg) 

Rhaglenni/Modiwlau wedi'u Cydlynu

Teitl Pwnc
Nyrsio Brys Rhan 2 NHS7E3
Nyrsio Brys Rhan 1 NHS7E2