Dr Dawn Jones

Uwch Ddarlithydd Gofal Cymdeithasol

Picture of staff member

Graddiodd Dawn yn 1990 gyda BA (Anrh) mewn Cymdeithaseg (Dosbarth Cyntaf) o Brifysgol Bangor, Prifysgol Cymru. Yna aeth ymlaen i gwblhau PhD mewn Cymdeithaseg gyda Phrifysgol Caerlŷr.

Gweithiodd Dawn fel Uwch Ddarlithydd mewn Cymdeithaseg ym Mhrifysgol Liverpool Hope o 1995 hyd 2007, gan ddarparu’r rhaglen ar lefel israddedig ac ôl-raddedig.

Mae Dawn wedi bod yn aelod o’r tîm Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Wrecsam ers 2007 ac mae’n dysgu ar y rhaglen Gwaith Cymdeithasol. Mae hi wedi bod yn Arweinydd Rhaglen ar gyfer y radd BA (Anrh) Polisi Cyhoeddus a Chymdeithasol, ac ar gyfer y cynllun gradd Sylfaen mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Mae Dawn yn gymdeithasegydd sy’n weithredol o ran ymchwil ac wedi cyhoeddi ar draws maes polisi cymdeithasegol, polisi cymdeithasol a chymdeithaseg risg. Yn fwyaf diweddar, mae wedi rhedeg tri phrosiect ymchwil sydd wedi’u comisiynu gan Gwelliant Cymru sydd wedi archwilio ansawdd y gofal a’r gefnogaeth a dderbynnir gan blant a phobl ifanc gydag anableddau dysgu yng Nghymru. Mae Dawn hefyd yn gweithredu fel ymgynghorydd academaidd allanol i nifer o brifysgolion ar draws y DU, gan asesu ansawdd y ddarpariaeth ar gyfer graddau israddedig ac ôl-raddedig mewn gwaith cymdeithasol, iechyd a gofal cymdeithasol ac iechyd cyhoeddus.

Diddoredebau Ymchwil

Fel cymdeithasegydd rwy’n angerddol dros ddefnyddio fy nychymyg cymdeithasegol i archwilio mewn modd beirniadol y cysylltiadau rhwng profiadau cymdeithasol a strwythurau cymdeithasol ehangach. Roedd fy ngradd PhD (1998) yn archwilio’r ffyrdd y gall polisïau gwleidyddol ac economaidd weithio’n ideolegol drwy ddisgwrs cenedl a pherthyn, er mwyn atgyfnerthu grym grwpiau elitaidd. Yna es ymlaen i ymchwilio ac i gyhoeddi ym maes cymdeithaseg risg, unwaith eto wedi fy nghymell i ddeall sut mae rhai naratifau ymwthiol penodol o amgylch risg yn berthnasol i strwythurau gwleidyddol a diwylliannol ehangach, gan edrych ar ddisgwrs risg o amgylch anabledd a beichiogrwydd. Mae fy ngwaith ymchwil cyfredol wedi’i gomisiynu gan Gwelliant Cymru, ac mae wedi archwilio, dros dri phrosiect ymchwil, fodelau ac egwyddorion gofal yng Nghymru i blant a phobl ifanc gydag anabledd dysgu. Er ei fod yn ymadael â fy ngwaith ymchwil cynharach sy’n seiliedig ar theori, mae’r prosiect cyfredol yma’n parhau i edrych ar ffyrdd y gall gwerthoedd a gweledigaethau yn gweddu (neu beidio!) gyda’r realiti a brofir gan blant, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol ym maes anableddau dysgu. 

Prosiectau Ymchwil

Teitl Rôl Disgrifiad Blwyddyn
‘An evaluative literature review of National Care Models and Frameworks providing Care for children and young people with learning disabilities in Wales. Improvement Cymru, 2023. Prif Arolygwr Adolygiad o lenyddiaeth werthusol yn archwilio modelau ac egwyddorion gofal ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru ag anabledd dysgu. 2023 - 2023
‘It sounds really good in theory’: Exploring parents’ and carers’ experiences of accessing care and support services for their child with a learning disability. Prif Arolygwr Ymchwil sylfaenol yn archwilio profiadau a chanfyddiadau rhieni a gofalwyr o'r gofal a'r gefnogaeth a dderbynnir ar gyfer eu plentyn ag anabledd dysgu yng Ngogledd Cymru. 2023 - 2024
Exploring professionals’ experiences of working with children and young people with a learning disability in Wales. Prif Arolygwr Gan dynnu ar ganfyddiadau fy ngwaith blaenorol a gynhaliwyd ar gyfer Gwelliant Cymru, mae’r prosiect hwn yn archwilio profiadau gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg ledled Cymru sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc ag anabledd dysgu. 2024 - 2025

 

Cyhoeddiadau

Blwyddyn Cyhoeddiad Math
2015 "Dangerous conversations": a case study involving language, EQUALITY DIVERSITY AND INCLUSION, 34. [DOI]
Madoc-Jones, Iolo;Jones, Dawn;Parry, Odette;Dubberley, Sarah
Cyfnodolyn a Adolygwyd gan Gymheiriaid
2015 "Dangerous conversations”: a case study involving language, [DOI]
Madoc-Jones, Iolo;Jones, Dawn;Parry, Odette;Dubberley, Sarah
Cyfnodolyn a Adolygwyd gan Gymheiriaid

Anrhydeddau a Gwobrau

Dyddiad Teitl Corff Dyfarnu
1990 John Robert Jones Award Prifysgol Cymru

Pwyllgorau

Enw Disgrifiad Hyd/O
Panel Asesu: panel asesu arholwr allanol ac adolygydd allanol. Cyfrifoldeb am adolygu ceisiadau ar draws y brifysgol ar gyfer ceisiadau arholi allanol a cheisiadau aseswyr allanol. 2024
Pwyllgor Cywirdeb Academaidd   2023
Pwyllgor Moeseg y Brifysgol   2023
Pwyllgor Iechyd a Diogelwch y Brifysgol Cynrychiolydd y Gyfadran dros y Gwyddorau Cymdeithasol a Bywyd, yn adrodd am bryderon a godwyd gan aelodau staff fy Nghyfadran. 2023
Pwyllgor Apeliadau'r Brifysgol Asesiad o apeliadau sydd fel arfer yn ymwneud ag ymestyn hyd mwyaf y cwrs. 2024

Cyflogaeth

Cyflogwr Swydd Hyd/O
Liverpool Hope University Uwch Ddarlithydd mewn Cymdeithaseg 1996 - 2007

Addysg

Sefydliad Cymhwyster Pwnc
Lancaster University PhD Cymdeithaseg/Damcaniaeth y Wladwriaeth
University of Wales, Bangor BA (Hons) Sociology Cymdeithaseg

Adolygydd neu Olygydd Cylchgronau

Enw'r Cyfnodolyn Gweithgaredd
Gender, Sex and Sexuality - Frontiers in Sociology Bwrdd Golygyddol

Gweithgareddau Proffesiynol Eraill

Teitl Hyd/O
Arholwr Allanol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol - John Moores University 2024 - 2028
Arholwr Allanol BSc Iechyd a Gofal Cymdeithasol Integredig - University of Bedfordshire 2024 - 2028

Diddordebau Addysgu

Mae fy mhrif feysydd o ddiddordeb yn berthnasol i bolisi cymdeithasol a dulliau ymchwil. Mae fy agweddu tuag at bolisi cymdeithasol yn feirniadol, gyda ffocws ar feddwl yn feirniadol ac edrych yn fanwl ar ideolegau sy’n sail i bolisi cymdeithasol a sut mae’r rhain yn berthnasol i rôl y gweithiwr cymdeithasol.
Fel cymdeithasegwr sy’n weithredol o ran ymchwil, rwy’n tynnu ar fy nghefndir fy hun a’m profiadau ymchwil i fod yn sail i waith dysgu dulliau ymchwil ar lefel 5. Mae hyn yn parhau i lefel 6 lle rwy’n arweinydd modiwl ar gyfer y Traethawd Hir mewn Gwaith Cymdeithasol, gan ddarparu deunydd ar gyfer y dosbarth yn ogystal â goruchwylio traethodau hir israddedig.

Rhaglenni/ Modiwlau wedi'u Cydlynu

Teitl Pwnc
Dissertation SWK615
Research for Social Work Practice SWK523
Introduction to Social Policy and Poverty SWK418
Health and Social Policy in Wellbeing HLT517
Conflicts and Dilemmas SWK519