Diana Hughes-Morris
Uwch Ddarlithydd, Nyrsio
Dechreuais fy ngyrfa nyrsio o fewn sector ddifrifol Ysbyty Ardal Cyffredinol. Treuliais sawl blwyddyn yn gweithio ym meddyginiaeth oedolion yn cwrdd anghenion iechyd y rhai hynny gyda cyflyrau meddygol gwahanol. Arbenigedd y ward yn ystod fy nghyflogaeth oedd methiant arennol ond roedd yn cynnwys ystod eang o gyflyrau.
Rwyf wedi parhau i ddatblygu gwybodaeth bersonol a sgiliau’n ymwneud a’r ardal o ymarfer drwy gydol fy 28 mlynedd o nyrsio ac ennill profiad mewn sefyllfaoedd difrifol a chymunedol yn cynnwys Ymarferwr Arbenigol yn Iechyd Cymuned/ Nyrsio Ysgol a Athrawes Ymarfer gyda profiad ychwanegol yn cefnogi mentoriaid yn gwneud y Rhaglen Ymarfer Dysgu.
Ces BSc yn NEWI (rŵan Prifysgol Wrecsam) yn cael 2:1 yn Iechyd Cymunedol/Nyrsio Ysgol ac ers hynny rwyf wedi cwblhau MSc mewn Datblygiad Proffesiynol.
Rhoddodd y PGCPD y wybodaeth ynglŷn a dysgu a chefnogi dysgu, cynhwysedd, cynllunio a dylunio gweithgaredd dysgu, ansawdd addysg a phrosesau asesu. Tra’n gwneud hyn cymrais y cyfle i ddysgu myfyrwyr cyn-cofrestredig. Y pynciau oedd rheolaeth, arweinyddiaeth, gwaith tîm, Polisi Cymdeithasol, ymarfer adfyfyriol, camweithredu teuluol, pob agwedd o’r rhaglen bydwreigiaeth a’r rhaglen Nyrs Cymunedol Plant cyn-cofrestredig.
Wnes i barhau i weithio mewn lleoliad clinigol yn cadw fy sgiliau tra’n datblygu fy hun fel uwch ddarlithydd yma ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam.
Rwyf nawr yn arwain y llwybr Nyrsio Ysgol o fewn y rhaglen Nyrsio Iechyd Cyhoeddus. Rwyf yn arwain ar y modiwl datblygais sef ‘Atal Cenhedlu, Perthnasau Iach a Rhywioldeb Iach.
Rwyf ar y grŵp gweithio ar gyfer y Fframwaith Nyrsio Ysgol a’r grŵp recordiau electronig ac yn hybu cysylltiadau gyda’r Fforwm Cenedlaethol i Addysgwyr Iechyd Ysgol.
Rwyf wedi cychwyn ysgrifennu pennod llyfr ar Fentora ac wedi cyhoeddi fy ymchwil yn Siwrnal Prydeinig Nyrsio Ysgol.
Heblaw am fy nheulu, fy niddordebau y tu allan i’r gwaith yw cynnal ffitrwydd drwy cerdded a rhedeg.