Graddiodd Diane yn 2011 gyda gradd mewn Nyrsio Iechyd Meddwl o Brifysgol John Moores, Lerpwl. Mae Diane hefyd wedi cwblhau Tystysgrif Ôl-radd mewn Gwella Mynediad at Therapïau Seicolegol ac wedi gweithio fel ymarferydd llesiant seicolegol mewn gofal cynradd yn Lerpwl. Yn fwyaf diweddar mae Diane wedi gweithio fel nyrs hŷn mewn gwasanaethau CAMHS yng ngogledd Cymru.
Ar hyn o bryd mae Diane yn gweithio tuag at Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg Uwch. Mae Diane yn teimlo’n gyffrous cael gweithio ar Gampws Llaneurgain a darparu cefnogaeth i fyfyrwyr a nyrsys y dyfodol o fewn ei hardal leol.
Yn ei hamser hamdden, mae Diane yn mwynhau mynd i weld cerddoriaeth fyw a threulio amser gyda’i phlant.