Rwy'n gweithio fel darlithydd mewn nyrsio oedolion ar Gampws Llaneurgain.
Dechreuais fy nhaith nyrsio yn y coleg technegol (Prifysgol Wrecsam erbyn hyn) yn astudio cwrs gyrfa cyn-wasanaeth yn 1984.
Cymhwysais yn 1989 yn ysbyty'r Royal Shrewsbury ac rwyf wedi cael gyrfa amrywiol, yn gweithio ar wardiau Orthopedig, ysbytai cyffredinol ac fel Nyrs Cyn-lawdriniaeth.
Dros y pedair blynedd ar ddeg ddiwethaf rwyf wedi gweithio o fewn Gofal Cynradd fel Nyrs Practis ac yn oherwydd fy angerdd tuag at ofal diwedd bywyd, rwyf wedi gweithio yn yr hosbis fel Nyrs Glinigol Arbenigol.
Yn ystod yr amser yma, astudiais ar gyfer Diploma mewn Addysg Uwch mewn Therapi cyflenwol ar gyfer Addysg, Baglor yn y Gwyddorau mewn Gofal Cynradd a Thystysgrif Ôl-raddedig mewn Arweinyddiaeth Iechyd, y cyfan ym Mhrifysgol Wrecsam. Ar hyn o bryd rwy'n astudio ar gyfer fy Nhystysgrif Addysg i Raddedigion.
Ymunais â'r tîm yn Llaneurgain ym mis Rhagfyr 2023 ac rwy'n mwynhau dysgu'r genhedlaeth nesaf o Nyrsys Cofrestredig.
Rwy'n briod gyda dau fab; does dim yn well gen i na threulio amser gyda fy nheulu a'n dau gi gwyllt a gwallgof.