Dr Emma Harrison

Rheolwr Effaith Ymchwil / Cymrawd Ymchwil Ymweld mewn Seicoleg

Picture of staff member

Dechreuais weithio ym Mhrifysgol Wrecsam yn 2021 fel Rheolwr Effaith Ymchwil, ar ôl gweithio fel Swyddog Ymchwil yn Uned Cydweithredu Iechyd y Cyhoedd Prifysgol Bangor yn Wrecsam gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru. 

Cyn hynny, fe wnes i gwblhau ymchwil ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol Keele yn ymwneud ag arloesedd addysgu ar ôl gorffen fy ngraddPhD yn 2019 gyda thesis a oedd yn dwyn y teitl ‘Exploring student victimisation and wellbeing in the UK higher education context’. 

Yn ystod y tair blynedd a dreuliais yn cwblhau fy ngradd PhD, cefais fy nghyflogi fel Cynorthwyydd Ymchwil ar nifer o brosiectau seicoleg ac addysg ochr yn ochr â’m rôl fel Llysgennad Digidol yng Ngwasanaethau Myfyrwyr Keele. 

Rwyf hefyd yn Gymrawd Ymchwil Ymweld mewn Seicoleg ac rwy’n mynd ati i gynnal ymchwil. Mae fy niddordebau ymchwil yn cynnwys polisi addysg uwch, llesiant, bwlio, trawma, cam-drin a niwroamrywiaeth, ynghyd â seicoleg datblygiad, seicoleg gymdeithasol a seicoleg cwnsela. Ar hyn o bryd, rwy’n cydweithio gyda chydweithiwr ym Mhrifysgol Keele ar brosiect sy’n archwilio canfyddiadau myfyrwyr y brifysgol o bolisïau gwrth-fwlio, ochr yn ochr â chymorth i staff niwrowahanol mewn addysg uwch. Hefyd, rwy’n cydweithio gyda chydweithiwr o UCLan a nifer o ymarferwyr cwnsela ar brosiect yn ymwneud â chwnselwyr GSRD/LHDT mewn hyfforddiant. 

Rwy’n aelod o’r Rhwydwaith Staff LHDT+, grŵp y Siarter Cydraddoldeb Hil, gweithgor y Concordat Datblygu Ymchwilwyr, a’r Rhwydwaith Staff Niwroamrywiaeth sydd ar ddod. 

Rwy’n gweithio gyda chriw gwych o bobl yn y Swyddfa Ymchwil ac rwy’n helpu gyda datblygiad y staff, gwaith yn ymwneud â chynnwys ymchwil, y cyfryngau cymdeithasol a blogiau er mwyn cyfleu gwaith gwych ein hymchwilwyr a helpu cydweithwyr sy’n gweithio’n bennaf yn y Gyfadran Gwyddorau Cymdeithasol a Bywyd i wireddu effaith go iawn eu gwaith rhagorol. Wrth baratoi ar gyfer Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2029, rwy’n cynorthwyo academyddion i ddatblygu allbynnau ac astudiaethau achos yn y Gyfadran Gwyddorau Cymdeithasol a Bywyd. 

Diddordebau Ymchwil 

Pynciau
  • Damcaniaeth ymlyniad, seicoleg datblygiad, trawma a cham-drin, bwlio 
  • Llesiant Seicolegol a Seicoleg Cwnsela 
  • Niwroamrywiaeth 
  • Polisi Addysg Uwch 
  • Anabledd 
  • LHDTC+ 
  • Cydraddoldeb a Thegwch 
Dulliau 
  • Holiaduron/Arolygon Ar-lein 
  • Grwpiau ffocws (ar-lein ac wyneb yn wyneb) 
  • Caffis y Byd 
  • Cyfweliadau 

Cyn bo hir, bydd modd imi gynorthwyo-goruchwylio myfyrwyr PhD yn y meysydd uchod. 

Prosiectau Ymchwil 

Teitl Rôl Disgrifiad Dyddiad
Hyfforddiant i Gwnselwyr LHDT/GSRD  Ymchwilydd

Archwilio profiadau hyfforddeion a hyfforddwyr cwnselwyr LHDT/GSRD mewn perthynas â chyrsiau hyfforddi cwnsela yn y DU. 

2024
Cymorth i staff Niwrowahanol mewn Addysg Uwch  Ymchwilydd

Archwilio profiadau staff niwrowahanol mewn addysg uwch. 

2023
Prifysgol y Plant Ymchwilydd

Ymchwilio i gariad plant at ddysgu a deilliannau anwybyddol ar ôl bod yn gysylltiedig â Phrifysgol y Plant. 

2023 - 2024
Defnydd o Bolisïau Gwrth-fwlio’r Brifysgol  Ymchwilydd

Mae fy nghydweithiwr a minnau’n archwilio barn y myfyrwyr ynglŷn â pholisïau gwrth-fwlio, pa mor fuddiol ydynt a’r modd y cânt eu defnyddio. 

2020

Cydweithwyr

Enw Rôl Sefydliad
Dr Nicola Marsh Co-I Prifysgol Keele 
Dr Julie Hulme Co-I Prifysgol Trent Nottingham 
Dr Claire Fox Co-I Prifysgol Fetropolitan Manceinion 
Dr Tegan Brierley-Sollis Ymchwilydd Prifysgol Wrecsam
Nettie Thomas Ymchwilydd Y Coleg Nyrsio Brenhinol 
Yasmin Washbrook Ymchwilydd Prifysgol Wrecsam
Lisa Formby Ymchwilydd Prifysgol Wrecsam
Fiona Falkingham Ymchwilydd Prifysgol Wrecsam
Jayne Rowe Facilitator Prifysgol Wrecsam
Dr Kirsty Fuller Ymchwilydd Prifysgol Wrecsam
Rachael Peacock Co-I Sefydliad Metanoia 
Dr LJ Potter Ymchwilydd Prifysgol Canol Swydd Gaerhirfryn 
Dr Gwennan Barton Ymchwilydd Prifysgol Wrecsam
Jess Achilleos Ymchwilydd Prifysgol Wrecsam

Cyhoeddiadau

Blwyddyn Cyhoeddiad Math
2022 Development of a measure for assessing victimisation at UK universities, [DOI]
Harrison, Emma; Fox, Claire; Hulme, Julie
Cyfnodolyn a Adolygwyd gan Gymheiriaid
2021 A Thematic Analysis of Students’ Perceptions and Experiences of Bullying in UK Higher Education, EJOP. [DOI] Cyfnodolyn a Adolygwyd gan Gymheiriaid
2021 Experiences of higher education for students with chronic illnesses, Disability & Society. [DOI]
Pippa R. Hamilton; Julie A. Hulme; Emma D. Harrison
Cyfnodolyn a Adolygwyd gan Gymheiriaid
2021 Health and financial costs of adverse childhood experiences in 28 European countries: a systematic review and meta-analysis [DOI] 
Hughes, Karen; Ford, Kat; Bellis, Mark A.; Glendinning, Freya; Harrison, Emma; Passmore, Jonathon
Cyfnodolyn a Adolygwyd gan Gymheiriaid
2021 Individual coping strategies and ways of supporting victims, Wiley Handbook Blackwell Handbook of Bullying Volume 2. [DOI]
Claire Fox; Emma Harrison
Pennod
2020 Student anti-bullying and harassment policies at UK universities, Journal of Higher Education Policy and Management. [DOI]
Emma D. Harrison; Claire L. Fox; Julie A. Hulme
Cyfnodolyn a Adolygwyd gan Gymheiriaid
2020 Evaluation of the Mentors in Violence Prevention (MVP) programme in the West Midlands.
Fox, C. L.; Ralph, N. F.; Harrison, E. D.; McElwee, J. D.; Bagnall, C. L.; Garnett, N. J.
Adroddiad Cyhoeddedig
2017 A review of the literature on bullying amongst students within higher education. Under Construction at Keele. 
Harrison, E. D.
Adolygydd

Anrhydeddau a Gwobrau

Blwyddyn Teitl Corff Dyfarnu
2024 Gwobrau Staff Tu Hwnt i’r Galw (enwebwyd) Prifysgol Wrecsam
2024 Gwobr Datblygiad Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar Cymdeithas Ddysgedig Cymru
2019 Gwobr Arwain Myfyrwyr Prifysgol Keele
2019 Gwobr Gyntaf ar gyfer Cyflwyniad Poster Prifysgolion Keele a Swydd Stafford
2019 Ail Wobr ar gyfer Cyflwyniad Poster Sefydliad Gwyddorau a Chelfyddydau Breiniol Keele
2017 Gwobr Gyntaf ar gyfer Cyflwyniad Poster Prifysgol Swydd Stafford
2017 Ail Wobr ar gyfer Cyflwyniad Poster Ail Wobr ar gyfer Cyflwyniad Poster
2017 Gwobr Gyntaf ar gyfer Cyflwyniad Poster Prifysgol Keele
2017 Gwobr Gyntaf ar gyfer Cyflwyniad Poster Prifysgol Northymbria
2016 Ail Wobr ar gyfer Cyflwyniad Poster Prifysgol Keele
2016 Ysgoloriaeth Ymchwil ac Ariantal PhD Prifysgol Keele
2013 Gwobr Meistri Seicoleg ar gyfer Traethawd Estynedig Eithriadol Prifysgol Caer

Cymdeithasau Proffesiynol

Cymdeithas Ariennir gan Blwyddyn
Cymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain Aelodaeth myfyriwr 2022 - 2023

Pwyllgorau 

Enw Blwyddyn
Rhwydwaith Staff LHDTC+  2023-
Gweithgor y Concordat Datblygu Ymchwilwyr  2022-
Y Grŵp Cydraddoldeb Hil  2022-
Tîm Hunanasesu Athena Swan yr Ysgol Seicoleg | Keele  2017 - 2020

Cyflogaeth 

Cyflogwr Swydd Blwyddyn
Prifysgol Wrecsam Rheolwr Effaith Ymchwil 2021 - 2024
Prifysgol Wrecsam Cymrawd Ymchwil Ymweld mewn Seicoleg 2021 - 2024
Prifysgol Bangor Swyddog Ymchwil 2020 - 2021
Prifysgol Keele Ymchwilydd Ôl-ddoethurol 2019 - 2020
Prifysgol Keele Gweinyddwr 2019 - 2020
Prifysgol Keele Cynorthwyydd Ymchwil 2020 - 2020
Prifysgol Keele Llysgennad Digidol 2018 - 2020
Prifysgol Keele a Phrifysgol Fetropolitan Manceinion Cynorthwyydd Ymchwil 2019 - 2020
Prifysgol Caer Darlithydd Ymweld 2020 - 2020
Prifysgol Keele Marciwr 2017 - 2019
Prifysgol Keele Cynorthwyydd Ymchwil 2019 - 2019
Prifysgol Keele Cynorthwyydd Ymchwil 2018 - 2019
Prifysgol Keele Ymchwilydd PhD 2016 - 2019

Addysg

Sefydliad Cymhwyster Pwnc Blwyddyn
Prifysgol Keele PhD Seicoleg  2016 - 2019
Coleg Amwythig Level 3 Cwnsela 2013 - 2014
Prifysgol Caer MSc Seicoleg Teuluoedd a Phlant 2012 - 2013
Prifysgol Caer BSc Seicoleg  2009 - 2012

Adolygydd Cylchgrawn

Enw'r Cyfnodolyn Gweithgaredd
Sage Open Nursing Adolygydd Cymheiriaid
International Journal of Bullying Prevention Adolygydd Cymheiriaid
Discover Public Health Adolygydd Cymheiriaid
BMC Public Health Adolygydd Cymheiriaid
Journal of Social and Personal Relationships Adolygydd Cymheiriaid
Sexuality Research and Social Policy Adolygydd Cymheiriaid
Cyberpsychology, Behavior, and Social Networking Adolygydd Cymheiriaid
Current Psychology Adolygydd Cymheiriaid
Social Psychology of Education Adolygydd Cymheiriaid
BMC Medical Education Adolygydd Cymheiriaid

Gweithgareddau Proffesiynol Eraill

Teitl Dyddiad
Cynhadledd Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar, Cymdeithas Ddysgedig Cymru | Cynadleddau a Fynychwyd  2024
Uwchgynhadledd Effaith Ymchwil  | Cynadleddau a Fynychwyd  2024
Cynhadledd Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar,, Cymdeithas Ddysgedig Cymru | Cynadleddau a Fynychwyd  2023
Uwchgynhadledd Effaith Ymchwil  | Cynadleddau a Fynychwyd  2023
Priodweddau Cwiar mewn Dull sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn | Cynadleddau a Fynychwyd 
The Person-Centred Association, Prifysgol Coventry 
2023

Cynhadledd Ymchwil Flynyddole | Cynadleddau a Fynychwyd 
Cymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain (BACP)

2023
Uwchgynhadledd Effaith Ymchwil  | Cynadleddau a Fynychwyd  2022
Uwchgynhadledd Effaith Ymchwil  | Cynadleddau a Fynychwyd  2021
Cysylltiadau Ymchwil Vitae  | Cynadleddau a Fynychwyd  2021
Student Bullying at University: The Pursuit of Power
Ail Wobr ar gyfer Cyflwyniad Poster, £50
Keele Institute of Liberal Arts and Sciences Disrupting Disciplines Conference
2019
Student Bullying at University: The Pursuit of Power
Gwobr Gyntaf ar gyfer Cyflwyniad Poster, £20
Keele-Staffordshire University joint PGR conference
2019

Student Bullying in Higher Education: The Story So Far
Dynamic Cyflwyniad Poster
Keele Natural Sciences PGR conference

2018

Student Bullying in Higher Education: The Story So Far
Ail Wobr ar gyfer Cyflwyniad Poster, £50
Keele Institute of Liberal Arts and Sciences Turning Heads Conference

2018
Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol y De-orllewin – Y Tu Hwnt i Ymchwil: Cymdeithas, Cydweithredu ac Effaith, Bristol  | Cynadleddau a Fynychwyd  2018

Bullying at University: The Student Voice
Cyflwyniad Poster
Abusive Behaviour Conference, University of Birmingham

2017
Bullying at University: The Student Voice
Gwobr Gyntaf ar gyfer Cyflwyniad Poster, £50
PsyPAG conference, Northumbria University, Newcastle-Upon-Tyne
2017
Bullying at University: What do Undergraduates Think?
Gwobr Gyntaf ar gyfer Cyflwyniad Poster, £100, & a video segment about my research
Keele Institute of Liberal Arts and Sciences Crossing Paths Conference
2017
Bullying at University: What do Undergraduates Think?
Gwobr Gyntaf ar gyfer Cyflwyniad Poster, £75
Staffordshire University PGR conference
2017
Bullying at University: What do Undergraduates Think?
Ail Wobr ar gyfer Cyflwyniad Poster, £50
Keele Natural Sciences PGR conference
2017
Cymdeithas Trawma a Datgysylltiad Ewrop Wynebu’r Her: Gwella Gwasanaethau i Bobl â Datgysylltiad sy’n Gysylltiedig â Thrawma | Cynadleddau a Fynychwyd  2017