Mae Fern yn aelod staff amser llawn yn Adran Seicoleg Prifysgol Wrecsam. Mae wedi bod yn gweithio fel Gweinyddwr yr Adran ers 2017 ac yn awr mae’n gwneud y rôl hon yn rhan-amser ochr yn ochr â bod yn Arweinydd Rhaglen ar gyfer tair o raglenni Seicoleg MSc Ar-lein Prifysgol Wrecsam. Mae Fern yn Ddarlithydd ar y rhaglen BSc Seicoleg a achredir gan Gymdeithas Seicolegol Prydain. Enillodd BSc (Anrh) mewn Seicoleg ym Mhrifysgol Bangor.
Ar hyn o bryd, mae Fern yn gweithio tuag at gwblhau ei gradd MPhil; gan ddefnyddio Dadansoddiad Ffenomenolegol Deongliadol i archwilio profiadau rhieni o ddysgu gwyddoniaeth anffurfiol ac ymgysylltu â theuluoedd mewn canolfan darganfod gwyddoniaeth. Dros yr un flynedd ar ddeg ddiwethaf, mae Fern wedi ysgwyddo gwahanol rolau mewn Addysg Uwch yn cynnwys Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd, Gwasanaethau Cynhwysiant, Gweinyddu, Ansawdd a Rheoliadau, Ymchwil a Darlithio. Oddi allan i’w rôl ym Mhrifysgol Wrecsam, mae Fern wedi gwirfoddoli i sefydliadau sy’n cynorthwyo myfyrwyr mewn argyfwng a phobl sydd wedi goroesi trais rhywiol a cham-drin rhywiol. Ar hyn o bryd, mae Fern yn aelod o Fwrdd Cyfarwyddwyr Menter Gymdeithasol yng Nghymru sy’n cynnig gwasanaethau seicolegol i deuluoedd mewn angen.
Anrhydeddau a Gwobrau
Dyddiad |
Teitl |
Corff Dyfarnu |
2023 |
Cyflwyniad Gorau: Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore!: Archwiliad ansoddol o brofiadau rhieni o ddysgu gwyddoniaeth anffurfiol. |
Gymdeithas Seicolegol Prydain |
2024 |
Enillydd y Gystadleuaeth Delweddu Ymchwil (2022) |
Prifysgol Wrecsam |
2019 |
Derbynnydd Cyllid y Gronfa Datblygu Addysg, Dysgu, Addysgu ac Asesu (DELTA) |
Prifysgol WrecsamUniversity |
Cymdeithasau Proffesiynol
Cymdeitha |
Ariennir gan |
Gymdeithas Seicolegol Prydain |
Graddedig |
Pwyllgorau
Enw |
Disgrifiad |
Dyddiad |
Concordat Datblygu Ymchwilwyr- Prifysgol Wrecsam |
|
2022 - Presennol |
Keystones Family Support Ltd |
Ysgrifennydd ac Aelod o Fwrdd Cyfarwyddwyr: Cymorth gweinyddol i fenter gymdeithasol sy’n anelu at hyrwyddo llesiant, diogelwch ac iechyd meddwl da ymhlith plant, teuluoedd a gofalwyr |
2021-2024 |
Cyflogaeth
Cyflogwr |
Swydd |
Dyddiad |
Prifysgol Wrecsam |
Gweinyddwr Seicoleg |
2017 - 2024 |
Prifysgol Wrecsam |
Ddarlithydd mewn Seicoleg |
2022 - 2024 |
Prifysgol Wrecsam |
Gynorthwyydd Ymchwil (Secondiad) |
2020 - 022 |
Prifysgol Wrecsam |
Uwch-swyddog Ansawdd a Rheoliadau (Secondiad) |
2019 - 2020 |
Addysg
Institution |
Qualification |
Subject |
Dyddiad |
Prifysgol Wrecsam |
Ymgeisydd Meistr Athroniaeth |
Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! Cyflwynydd mewn cynhadledd: Archwiliad ansoddol o brofiadau rhieni o ddysgu gwyddoniaeth anffurfiol |
2020 |
Prifysgol Bangor |
BSc (Hons) Seicoleg |
Seicoleg |
2012 - 2015 |
Gweithgareddau Allgymorth
Teitl |
Disgrifiad |
Cyflwynydd mewn cynhadledd: Archwiliad ansoddol o brofiadau rhieni o ddysgu gwyddoniaeth anffurfiol |
Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore!: Archwiliad ansoddol o brofiadau rhieni o ddysgu gwyddoniaeth anffurfiol ar gyfer cynhadledd Cangen Cymru o Gymdeithas Seicolegol Prydain, sef Cysylltu Cymunedau, a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, De Cymru |
Cyflwynydd ‘Sgyrsiau Seicoleg’ |
Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore!: Archwiliad ansoddol o brofiadau rhieni o ddysgu gwyddoniaeth anffurfiol ar gyfer cyfres seminarau’r Adran Seicoleg, ‘Sgyrsiau Seicoleg’, ym Mhrifysgol Wrecsam, Wrecsam, Gogledd Cymru. |
Rhannu Swyddi’n Llwyddiannus |
‘Rhannu Swyddi’n Llwyddiannus’ a gyflwynwyd ar y cyd â Nicola Sciarrillo ar gyfer cynhadledd staff ‘ENGAGE!’ Prifysgol Wrecsam.
|
Pam y mae graddedigion Seicoleg mor gyflogadwy |
Siaradwr yn ystod Wythnos Gyfoethogi Adran Seicoleg Prifysgol Wrecsam: ‘Pam y mae graddedigion Seicoleg mor gyflogadwy’, a gynhaliwyd yn 2021. |
Dull ansoddol o ymdrin â dulliau ymchwil, gan ddefnyddio Dadansoddiad Ffenomenolegol Deongliadol (IPA) |
‘Dull ansoddol o ymdrin â dulliau ymchwil, gan ddefnyddio Dadansoddiad Ffenomenolegol Deongliadol (IPA)’ gogyfer y symposiwm Cynyddu Gwaith Ymchwil ar gyfer nyrsio, bydwreigiaeth a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, a gynhaliwyd yn Holt Lodge, Wrecsam, Gogledd Cymru. |
‘Xplore! Paratoi ar gyfer Cenhedlaeth y Dyfodol: Datblygu model gwerthuso parhaus’ |
‘Xplore! Paratoi ar gyfer Cenhedlaeth y Dyfodol: Datblygu model gwerthuso parhaus’ ar gyfer cynhadledd staff ENGAGE! Prifysgol Wrecsam. |
Rôl Cerddoriaeth o ran Adfer a Lles mewn Iechyd Meddwl |
Hwyluso gweithdy ar gyfer myfyrwyr Lefel 6 Iechyd Meddwl a Lles ym Mhrifysgol Wrecsam er mwyn archwilio pa mor werthfawr yw ysgrifennu caneuon a cherddoriaeth i Iechyd Meddwl. Gweithiodd y myfyrwyr mewn grwpiau i greu geiriau’n ymwneud â chynnwys y modwl a chasglais y syniadau i greu cân a berfformiwyd ar ddiwedd y sesiwn. |
Rhaglenni/ Modiwlau wedi'u Cydlynu
Teitl |
Pwnc |
Y Sgiliau Rydych eu Hangen |
FY301 |
Astudiaethau Cyd-destunol |
FY302 |
Dysgu Seiliedig ar Waith |
PSY621 |
Sgiliau Astudio ar gyfer Seicoleg |
PSY406 |