Gillian Danby
Uwch Ddarlithydd Astudiaethau Teuluoedd a Phlentyndod
Cyn addysgu yn y Brifysgol, roeddwn yn gweithio o fewn y sector wirfoddol yn gofalu am blant o dan 5 mlwydd oed. Cychwynnodd fy ngyrfa fel ymarferwr gofal plant yn ystod yr 80au hwyr/ 90au cynnar fel nyrs meithrinfa.
Drwy gydol y blynyddoedd rwyf wedi ymddiddori mewn iechyd a lles plant a sut all profiadau cynnar plentyn effeithio ar hyn, ac mae gen i ddiddordeb mawr mewn gweithio’n agos gyda rhieni i geisio gwella deilliannau ar gyfer plant.
O ganlyniad, ymgymerais ag ymchwil ar lefel Meistr yn canolbwyntio ar iechyd meddwl a llesiant plant oed ysgol gynradd a sut mae strategaethau o fewn ysgol yn meithrin hyn. Mae erthygl cyfnodolyn wedi ei chyhoeddi o ganlyniad i’r ymchwil hwn.
Pan fydd gennyf funud rwy’n hoffi treulio amser gyda fy nheulu a mynd â’r ci am dro.