Gillian Wilde
Darlithydd Gwaith Ieuenctid a Chymuned
Ar hyn o bryd yn astudio Doethuriaeth Broffesiynol mewn Addysg ym Mhrifysgol Caerdydd, bydd ymchwil Gillian yn canolbwyntio ar ehangu cyfranogiad. Mae ganddi fwy na 20 mlynedd o brofiad mewn gwaith ieuenctid a chymuned a datblygiad gweithlu ac mae'n ddarlithydd cydymaith ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd. Cwblhaodd Gillian radd Meistr yn Dysgu Gydol Oes ym Mhrifysgol Abertawe yn 2010 yn ymchwilio sut mae sefydliadau yn gweithredu polisi. Mae hi'n ymarferwr ieuenctid a chymuned wedi'i chymeradwyo'n broffesiynol gan JNC a graddiodd yn 2003 o Brifysgol Cymru Casnewydd.
Mae Gillian yn hyfforddwr ardystiedig ar gyfer prosiectau ieuenctid Ewrop ac wedi cymryd rhan mewn prosiectau yn Estonia, Croatia, Gwlad Belg, Iwerddon a'r senedd ieuenctid ym Mrwsel.
Yn ogystal mae Gillian yn hyfforddwr, aseswr a gwiriwr mewnol gyda phrofiad estynedig o arwain a chydlynu prosesau sicrwydd ansawdd o fewn meysydd arbenigol o ddysgu a gwaith, digartrefedd, gwasanaethau pobl ifanc a chymwysterau galwedigaethol.
Mae Gillian yn wirfoddolwr cymunedol a gwasanaethodd fel cynghorydd am 15 mlynedd ac fel hyrwyddwr ar gyfer hyfforddiant gwaith ieuenctid o fewn nifer o sectorau. Ers 2009 mae Gillian wedi datblygu partneriaethau strategol i gefnogi mynediad a dilyniant ar gyfer dysgwyr gyda nifer o Sefydliadau Addysg Uwch yn cynnwys CMU, USW, TSD a Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam.
Yn bleidiwr dros bobl ifanc a'r rhai sy'n gweithio gyda hwy, angerdd allweddol Gillian yw ehangu cyfranogiad a mynediad i ddysgwyr llai traddodiadol sydd eisiau symud ymlaen i addysg uwch.
Mae ei diddordebau'n cynnwys cerdded, theatr ac adeiladau hanesyddol.