Picture of staff member

Rwyf wedi bod yn nyrs gymwysedig ers 2004, ar ôl cwblhau fy nghwrs nyrsio ym Mhrifysgol Wrecsam. Ar ôl cymhwyso mewn nyrsio oedolion, bûm yn gweithio ar ward lawfeddygol yn Ysbyty Wrecsam Maelor, ac yna bûm yn gweithio mewn Uned Gofal Dwys i Oedolion am 8 mlynedd. Wedyn, bûm yn gweithio fel uwch-nyrs staff yn Ysbyty Glan Clwyd, ar yr Uned Newyddenedigol, lle datblygais ddiddordeb ysol mewn gofal Newyddenedigol. Drwy gydol fy ngyrfa fel nyrs, rwyf wedi bod yn fentor i fyfyrwyr nyrsio. Cefais flas mawr ar hynny ac arweiniodd at fy rôl gyfredol fel Darlithydd Nyrsio Oedolion ym Mhrifysgol Wrecsam, lle caf rannu fy sgiliau a’m gwybodaeth gyda nyrsys y dyfodol.

Yn fy amser hamdden, rwy’n mwynhau treulio amser gyda fy nheulu, yn ogystal â cherdded a marchogaeth.

Cymdeithasau Proffesiynol

Cymdeitha Ariennir gan
Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth Maes Oedolion