Dr Jason Woolley

Darllenydd mewn Cyflogadwyedd

Picture of staff member

Ymunodd Jason â Phrifysgol Wrecsam fel aelod staff rhan amser, o Brifysgol Metropolitan Manceinion (MMU) lle bu’n Arweinydd Rhaglen ac yn Uwch Ddarlithydd. Noddwyd PhD Jason (cyfansoddiad yn y swyddfa) drwy broses gystadleuol gan MYRIAD (Manceinion) a ddyfarnwyd gan MMU yn 2011. Cwblhawyd ei Radd Feistr mewn Technoleg Cerdd Digidol ym Mhrifysgol Keele yn 200,1 ac mae ei radd gyntaf mewn Cerddoriaeth a Hanes. Mae Jason wedi bod yn Uwch Gymrawd o’r Academi Addysg Uwch ers 2017.

Mae ef wedi cefnogi Israddedigion i Raddedigion yn llwyddiannus ac mae ganddo nifer o gyflawniadau PhD fel Goruchwyliwr a Chyfarwyddwr Astudiaethau, ac mae wedi gweithio fel rhan o dimau goruchwylio PhD yn y Royal Northern College of Music. Mae Jason wedi bod mewn swydd Cyfadran ar gyfer Cyflogadwyedd, lle cefnogodd staff i gyflawni profiad myfyriwr gwell i sicrhau Cyflogadwyedd a Chanlyniadau Graddedigion gwell. Mae Jason wedi bod yn arholwr ac yn gynghorydd allanol ar gyfer Prifysgol Gorllewin Llundain, Prifysgol Coventry, Prifysgol Nottingham Trent (Confetti), York St John, Prifysgol Dwyrain Llundain, Point Blank (Llundain), Prifysgol Middlesex a Phrifysgol Chichester. Mae ef hefyd wedi goruchwylio prosiectau PG MBA ym Mhrifysgol Aston, yn ogystal â gweithio fel goruchwyliwr israddedig ac ôl-raddedig i’r Royal Birmingham Conservatoire.

Mae Jason yn ymchwilydd gweithredol a bu’n Gymrawd Ymchwil gwadd ym Mhrifysgol Wrecsam cyn derbyn swydd barhaol. Diddordebau ymchwil Jason yw cyflogadwyedd ac ymarfer stiwdio.  Mae gan Jason brosiectau ymchwil cydweithredol parhaus gyda'r Royal College of Music yn Stockholm.

Mae gan Jason hefyd brofiad sylweddol o'r diwydiant. Y tu hwnt i’w swydd rhan amser ym Mhrifysgol Wrecsam, mae Jason yn parhau i weithio o stiwdio recordio yn Shropshire o’r enw Wanderlust Sound. Dyluniwyd y Stiwdio gan Chris Walls ac mae ganddo hen gonsol SSL a Recordiwr Tâp Otari Aml-Drac. Mae Jason yn Hyfforddwr Arystedig Avid ar gyfer Pro Tools. Mae cleientiaid stiwdio wedi cynnwys Waves Audio Ltd, Mascot, EFPI Records, Slam, Tuff Enuff, Fortuna Pop, Music Sales, Rockschool a Trinity College a The Audio Hunt.

Mae gan Jason brofiad sylweddol o’r diwydiant, o greu a chefnogi creadigaeth Cerddoriaeth a Sain ar gyfer y Cyfryngau o fy stiwdio broffesiynol fy hun, o'r enw Wanderlust Sound (www.wanderlustsound.co.uk). Mae cleientiaid y gorffennol wedi cynnwys Fortuna Pop, SLAM, ChickFlicks, Fidelo, Mediafisch, Popcorn Video, RSL Awards (Rockschool yn flaenorol), EFPI, Tombed Vision a Trinity College London. Mae ei gynyrchiadau wedi cael eu darlledu ar y Radio, gan gynnwys Radio 6 a Jazz FM, ac mae’n parhau i berfformio fel Gitarydd mewn Lleoliadau Llawr Gwlad a gwyliau mwy fel Shiiine On. Mae hobïau a diddordebau Jason yn cynnwys loncian, gwylio a chwarae pêl-droed.

Diddordebau Ymchwil

Cyflogadwyedd, Ymarfer Stiwdio.

Prosiectau Ymchwil

Teitl Rôl Disgrifiad Dyddiad
Ymchwilwyr ar ddiwedd gyrfa (LCR): Cynnig aml-gyfrwng gwerthfawr ar gyfer cynhyrchu cerddoriaeth fodern? Cyd-ymchwilydd Archwilio panio LCR fel dull hyfyw o fynd i’r afael â llif gwaith cymysgedd modern. 2021 - 2023
Cynhyrchu Cerddoriaeth Ddigidol gydag Agwedd ‘Analog’. Archwilio effaith Gorddewis. Cyd-ymchwilydd Ymchwilio ‘gorddewis’ yng nghyd-destun cynhyrchu sain yn y stiwdio 2023 - 2024
Llif gwaith Cynhyrchu Cyfryngau Digidol mewn diwydiant ac addysg: A yw ‘gorddewis’ yn cyflwyno heriau yrfaoedd cynaliadwy yn y diwydiant cynhyrchu cyfryngau? Cyd-ymchwilydd Ymchwiliad pellach o orddewis yng nghyd-destun cynhyrchu sain stiwdio. 2024 - 2025
Ydym ni’n siarad yr un iaith? Yn alinio terminoleg cyflogadwyedd rhwng prifysgolion, myfyrwyr a chyflogwyr Arweinydd Gweinyddol, Awdur Cyntaf Prosiect Ymchwil Cynradd 2025

Cydweithwyr

Enw Rôl Cwmni
Juhani Hemmila Cyd-ymchwilydd, Uwch Ddarlithydd KMH, Royal College of Music, Sweden
Sam Rolland Uwch Ddarlithydd mewn Peirianneg Awyrennau Prifysgol Abertawe
Dr Sara Jones Uwch Ddarlithydd Iechyd y Cyhoedd Prifysgol Abertawe
Caitlin Marks Cynghorydd Gyrfaoedd Prifysgol Caerdydd

Cyhoeddiadau

Blwyddyn Cyhoeddiad Math
2024 LCR: A Valuable Multichannel Proposition for Modern Music Production?, Innovation in Music. 
Hemmilia, J and Woolley, J.
Pennod llyfr
2023 Embedding employability into the curriculum - Wrexham University, Unpacking the 3Es – a national perspective A Case Study Series commissioned by HEFCW 2023. 
jason Woolley;Lucy Jones
Pennod llyfr
2021 The cultural politics of using technology to support the aesthetic in jazz record production, Journal on the Art of Record Production. 
Jason Woolley
Cyhoeddiad y Gynhadledd
2021 Musicians’ work: Creativity, Community and Insecurity in Decent Work: Opportunities and Challenges, Emerald Publishing UK. [DOI]
woolley, J and Christie, F.
Pennod llyfr

Anrhydeddau a Gwobrau

Dyddiad Teitl Corff Dyfarnu
1993 BA (Anrh) Y Dyniaethau Prifysgol Metropolitan Caerdydd
2001 MA Technoleg Cerdd Ddigidol Prifysgol Keele
2025 PhD Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Cymdeithasau Proffesiynol

Cymdeithas Swyddogaeth
Undeb y Cerddorion Aelod
Music Producers Guild Aelod

Pwyllgorau

Enw Disgrifiad Dyddiad
URDSubC URDSubC 2023 - 2025
Pwyllgor Moeseg FACE Adolygiad a chanllawiau Moeseg 2023

Techneg ac ymarfer Stiwdio Sain, dulliau ymchwil, cyfansoddiad, cyflogadwyedd.

Rhaglenni/Modiwlau wedi'u Cydgysylltu

Teitl Pwnc
Stock Media Asset Design CMT438
Introduction to Audio Skills CMT435
Research Methods CMT522
Location Recording CMT615
Industry Collaboration CMT706
Digital Media Techniques (Sound) CMT705
Digital Media Techniques (Music) CMT703
Research Methods for the Creative Industries CMT709
Media Project CMT707
Professional Studies CMT708
Harmonic Visions: Integrating Sound and Sight in Film CMT712

Myfyrwyr Ôl-raddedig Presennol

Enw Gradd
Dmitrii Iarovoi PhD

Myfyrwyr sydd wedi graddio’n ddiweddar

Blwyddyn Enw Gradd Teitl Traethawd Ymchwil
09/02/2025 Steffan Owens PhD ‘Sensorimotor Synchronisation and Entrainment in Musical Timekeeping: Metronome Configurations and Preliminary Implications for Music Education’.