Jayne Williams

Darlithydd mewn Addysg Gynradd gyda SAC

Picture of staff member

Yn wreiddiol o Lerpwl, rydw i wedi byw yng Nghymru ers dros 30 o flynyddoedd.

Rydw i wedi bod o fewn y sector addysg ac ysgolion yng Nghymru ers dros 20 mlynedd, fel athrawes ac arweinydd addysgol, gyda fy swydd ddiweddaraf fel Pennaeth yn Sir y Fflint.

Mae gen i radd B.A. Anrh mewn Addysg Gynradd gyda SAC, hefyd TAR mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth, C.P.C.P a gradd Meistr mewn Arweinyddiaeth Addysgol.

Rwy’n fam brysur i bedwar o blant, mae gen i ddau ŵyr a dau gi llawn bywyd! Yn yr amser rhydd sydd gen i, rwy’n mwynhau bod yn fyfyrwraig fy hun, yn ymchwilio ar gyfer fy rolau a dysgu gydol oes.