Dr Jixin Yang

Darllenydd mewn Cemeg Deunyddiau

Picture of staff member

Derbyniodd Dr Jixin Yang ei BSc o Brifysgol Nanjing (Nanjing, China) yn 1996 ac MSc o Academi Gwyddorau Tsieina (Beijing, Tsieina) yn 1999. Yna daeth i’r DU i astudio yn yr Ysgol Gemeg, Prifysgol Nottingham. Ar ôl graddio yn 2003, gweithiodd fel cymrawd ymchwil ôl-ddoethurol yn Nottingham am 6 mlynedd arall, gan ganolbwyntio ar faes cemeg deunyddiau.

Symudodd Dr Yang i swydd darlithydd ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam yn 2009, ac fe’i dyrchafwyd i uwch-ddarlithydd yn 2011. Erbyn hyn mae’n ymgymryd â gwaith dysgu ac ymchwil israddedig ac ôl-radd mewn cemeg deunyddiau.

Mae Dr Yang wedi cyhoeddi tros 50 o erthyglau ymchwil hyd yn hyn mewn cyfnodolion a adolygir gan gymheiriaid gyda chyfanswm o dros 1,300 o gyfeiriadau. Mae’n Gemegydd Siartredig (CChem), yn Athro Gwyddoniaeth Siartredig (CSciTeach), Aelod o’r Gymdeithas Gemeg Frenhinol (MRSC) ac Uwch Gymrawd yr Academi Addysg Uwch (SFHEA).

Mae Dr Yang yn un o arweinyddion llinyn ymchwil yng Nghyfadran y Celfyddydau, Gwyddoniaeth a Thechnoleg ac yn eistedd ar sawl pwyllgor academaidd ar lefel y brifysgol. Hefyd mae’n aseswr panel ar gyfer y Gymdeithas Gemeg Frenhinol, ac yn gwerthuso ceisiadau ail-ddilysu i fod yn Athro Gwyddoniaeth Siartredig (CSciTeach) ac yn aelod o Bwyllgor Adran Leol Gogledd Cymru Cymdeithas Gemeg Frenhinol gan gynrychioli Prifysgol Glyndŵr Wrecsam.

Yn 2020 cyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Undeb y Myfyrwyr ar gyfer Darlithydd Gorau Cyfadran y Celfyddydau, Gwyddoniaeth a Thechnoleg. Yn 2021 ef oedd enillydd y wobr hon.