Judit Elias Masiques

Darlithydd mewn Seicoleg

Picture of staff member

Graddiais gyda BSc (Anrh) mewn Seicoleg o Barcelona, ac yna dilynais gwrs MSc mewn Seicoleg Glinigol Plant a’r Glasoed. Yna, bûm yn gweithio fel Seicolegydd Cynorthwyol yn Barcelona cyn symud i’r DU yn 2014. Tra’r oeddwn yn gweithio fel Seicolegydd Cynorthwyol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, dilynais gwrs MRes Ymchwil mewn Seicoleg ac yn ddiweddarach llwyddais i gwblhau fy ngradd PhD mewn Amseru Cymdeithasol mewn Awtistiaeth ym Mhrifysgol Bangor. Cefais fy nghyflwyno â’r radd yn 2024.

Rydw i wedi ymuno â Phrifysgol Wrecsam fel darlithydd yn 2024, tra byddaf yn parhau â’m hymchwil i Anhwylderau Sbectrwm Awtistig a therapïau ar gyfer plant ag anawsterau cyfathrebu ar y cyd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Yn fy amser hamdden, rydw i’n mwynhau treulio amser gyda’r teulu, yn ogystal â darllen, chwarae gemau fideo a rhoi mwythau i Spock, fy nghath.

Diddoredebau Ymchwil

Mae fy ymchwil yn canolbwyntio ar awtistiaeth, yn arbennig o ran datblygu amseru cymdeithasol a chyfathrebu dieiriau. Hefyd, rydw i’n arbenigo mewn defnyddio mesurau codio arsylwadol i ddadansoddi ymddygiad. Mae fy ngwaith yn cynnwys cynnal ymchwil gyda chleifion, ac mae gennyf brofiad mewn gwerthuso therapïau ar gyfer unigolion awtistig.

Cyhoeddiadau

Blwyddyn Cyhoeddiad Math
2022 Rhythmic Relating: Bidirectional Support for Social Timing in Autism Therapies, Front. Psychol. [DOI] Cyhoeddiad y Gynhadledd

Cymdeithasau Proffesiynol

Cymdeitha Ariennir gan
Cymdeithas Seicolegol Prydain Aelodaeth Graddedig

Cyflogaeth

Cyflogwr Swydd Hyd/O
BCUHB Seicolegydd Cynorthwyol 2017 - 2024

Addysg

Sefydliad Cymhwyster Pwnc Hyd/O
ISEP (University of Vic PgDip Seico-oncoleg 2010 -2011
Prifysgol Bangor PhD Seicoleg 2020 - 2024
Prifysgol Bangor MSc Ymchwil mewn Seicoleg 2015 - 2016
University of Barcelona BSc Seicoleg 2005 - 2010
Autonomous University of Barcelona MSc Seicopatholeg Glinigol Plant a Phobl Ifanc 2010 - 2012
Autonomous University of Barcelona PgDip Dylunio ac Ystadegau yn y Gwyddorau Iechyd 2012 - 2016

Ieithoedd

Ieithoedd Darllen Ysgrifennu Siarad
Catalaneg; Valencian Hyfedredd Brodorol / Dwyieithog Hyfedredd Brodorol / Dwyieithog Hyfedredd Brodorol / Dwyieithog
Saesneg Hyfedredd Proffesiynol Llawn Hyfedredd Proffesiynol Llawn Hyfedredd Proffesiynol Llawn
Sbaeneg; Castilian Hyfedredd Brodorol / Dwyieithog Hyfedredd Brodorol / Dwyieithog Hyfedredd Brodorol / Dwyieithog

Diddordebau Addysgu

Mae fy niddordebau addysgu’n canolbwyntio ar seicoleg glinigol, gyda phwyslais arbennig ar ddulliau therapiwtig mewn cwnsela a seicopatholeg plant a’r glasoed. Hefyd, mae gennyf brofiad addysgu mewn ysgrifennu gwyddonol a sgiliau cyfathrebu.

Rhaglenni/ Modiwlau wedi'u Cydlynu

Teitl Pwnc
Clinical Psychology PSY620
Therapeutic Approaches PSY766
Assessments in Psychological Practice PSY770