Julian Ayres

Darlithydd Addysg ac Arweinydd Edefyn Blwyddyn Sylfaen (addysg)

Picture of staff member

Cyn ymuno â Phrifysgol Wrecsam, cafodd Dr Julian Ayres brofiad helaeth ar draws amrywiol leoliadau addysgol. Bu’n cefnogi’r gymuned o bobl ddigartref drwy fenter yn Plymouth, ble bu’n dysgu Saesneg, mathemateg a llythrennedd digidol mewn Addysg Bellach. At hynny, bu’n gweithio i ddarparu datblygiad sgiliau i staff mewn amgylcheddau gwaith ac yn asesu athrawon, cymorthyddion dysgu, a staff cefnogol yng Nghymru a Lloegr.

Wrth addysgu, mae’n rhoi blaenoriaeth i ddatblygiad unigolion drwy wahaniaethu’n effeithiol, gan helpu myfyrwyr i weld perthnasedd eu dysgu er mwyn codi’u cymhelliant a’u hymroddiad. 

Treuliodd amryw o flynyddoedd yn hyrwyddo dulliau dysgu ac addysgu digidol hefyd. Bu ei arbenigedd yn Addysgwr Google yn allweddol yn ei rôl bresennol gyda’r tîm Addysg Ddigidol, ble mae’n cefnogi’r gwaith o wreiddio ALF yn y dosbarth. 

Cyflogaeth

Dyddiad Cyflogwr Swydd
2017-2024 Prif Wrecsam Uwch Ddarlithydd
2012-2017 Cyngor Wrecsam Swyddog datblygu addysg
2010-2012 Cyngor sir Amwythig Tiwtor Sgiliau Gweithredol
2009-2010 Shekinah Mission Tiwtor Sgiliau Allweddol

Addysg

Sefydliad Cymhwyster Dyddiad
Prifysgol Bolton Doethuriaeth mewn Addysg  2020-2024
Prifysgol Glyndwr MA mewn Addysg 2013-2017
Prifysgol Plymouth Diploma mewn Addysgu yn y Sector Dysgu Gydol Oes (Arbenigo mewn Llythrennedd) 2008-2009
Prifysgol Caerwysg BA (Anrhydedd) mewn Saesneg Iaith ac Ieithyddiaeth o fewn Astudiaethau Addysg 2004-2008

Dysgu seiliedig ar waith 1 (L4)
Dysgu, Addysgu, Asesu ac Adborth
Dysgu Proffesiynol Rhan 1
Iechyd Emosiynol, Iechyd Meddwl a Lles
Mentora a Hyfforddi mewn Addysg
Paratoi at eich Lleoliad
Arweinyddiaeth a Datblygiad Proffesiynol
Dysgu seiliedig ar waith 2 (L5)
Dysgu, Addysgu, Asesu ac Adborth
Dysgu Proffesiynol Rhan 1
Sgiliau Meddwl yn Feirniadol, Rhesymu a Dadlau
Arweinyddiaeth a Datblygiad Proffesiynol
Gwytnwch yn ystod AU a Thu Hwnt