Karen Leadbitter
Uwch Ddarlithydd mewn Therapi Lleferydd ac Iaith
Astudiais Therapi Iaith a Lleferydd ym Mhrifysgol Canolbarth Lloegr o 2003 tan 2006. Gweithiais fel Therapydd Iaith a Lleferydd yn BIPBC o 2006 tan 2024. Datblygais arbenigedd mewn gweithio gyda phlant ac oedolion sydd ag anghenion cymhleth ac anableddau dysgu, ac yn fwyaf diweddar bûm yn gweithio mewn lleoliad iechyd meddwl i gleifion mewnol. Rwyf hefyd wedi fy hyfforddi ac wedi gweithio fel Cyfryngwr Cofrestredig, yn cefnogi tystion bregus i gael mynediad at y system gyfiawnder.
Ymunais â thîm darlithio Therapi Iaith a Lleferydd Prifysgol Wrecsam yn 2023, ochr yn ochr â fy rôl BIPBC. Rwyf bellach yn gweithio pedwar diwrnod yr wythnos fel Uwch Ddarlithydd ar y rhaglen Therapi Iaith a Lleferydd ac yn parhau i fod wedi cofrestru gyda Choleg Brenhinol y Therapyddion Iaith a Lleferydd a’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal.