Karen Rhys Jones
Prif Ddarlithydd mewn Addysg
Cyn ymuno â Wrecsam, roedd Karen yn athrawes uwchradd a rheolwr cynnydd gyda chyfrifoldebau bugeiliol. Daeth i gydnabod pwysigrwydd lles mewn perthynas â dysgu, a natur amlddisgyblaethol lles.
Ym Mhrifysgol Wrecsam mae Karen yn brif ddarlithydd ac yn Arweinydd Addysg Gychwynnol i Athrawon; mae’n arwain ar y Rhaglen TAR Addysg Gynradd gydag athrawon Statws Athro Cymwysedig (SAC) ac mae’n arweinydd pwnc ar gyfer Addysg gorfforol. Roedd Karen yn allweddol ar gyfer sicrhau’r rhaglenni rhagorol Addysg Gynradd SAC, wedi eu rhyddfreinio gan St Mary’s, Twickenham, ac mae hi’n parhau i fwynhau gweithio â charfanau o athrawon dan hyfforddiant.
Mae Karen wedi dysgu ar sawl modiwl Addysg a Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, gan gyfrannu at raglenni israddedig ac ôl-radd.
Mae Karen yn Ymgynghorydd Llythrennedd Corfforol ar gyfer Chwaraeon Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan gyfrannu at brosiectau sy’n ymwneud â lles a llythrennedd corfforol gan gefnogi athrawon ac ymarferwyr (o fewn byd Addysg a thu hwnt) i ddatblygu cymhelliant, hyder, sgiliau a gwybodaeth unigolion i werthfawrogi, mwynhau a bod yn gyfrifol am eu gweithgaredd corfforol. Karen yw arweinydd Addysg a Hyfforddiant yr International Physical Literacy Association.
Mae Karen wrthi’n astudio ar gyfer ei Doethuriaeth Broffesiynol. Mae ei hymchwil yn ei galluogi i gael y wybodaeth gyfredol ddiweddaraf, yn cyfoethogi ei dealltwriaeth am y cysyniad llythrennedd corfforol, a chefnogi addysgu a dysgu myfyrwyr. Mae Karen yn aelod gweithredol o grŵp Ymchwil Prifysgol Wrecsam, yn gweithio ar amrywiaeth o brosiectau ymchwil a mentrau cydweithredol.
Mae hi’n mwynhau bod yn yr awyr agored, gan gyflwyno gweithdai wrth gerdded i gyfarfodydd adrannol, a thiwtorialau personol wrth gerdded, ar gyfer myfyrwyr
Cyhoeddiadau
Blwyddyn | cyhoeddiad | Math |
---|---|---|
2024 | Working with Uncertainty for Educational Change- part 2 Navigating curriculum uncertainty for teacher agencyfor , Routledge. [DOI] Sue Horder, Tomos Gwydion ap Sion, Lisa Formby and Karen Rhys Jones |
Pennod Lyfr |
2024 | Working with Uncertainty for Educational. Change Orientations for Professional Practice, Routledge. Sue Horder, Tomos Gwydion ap Sion, Lisa Formby, Karen Rhys Jones |
Pennod Lyfr |
Rhaglenni/Modiwlau wedi'u Cydlynu
Teitl | Pwnc |
---|---|
Lleoliad 3 | EDN606 |
Arwain a Rheoli Gweithwyr Addysg Broffesiynol | EDW712 |
Addysg Gorfforol Craidd 3 | PEQ6068 |
Cymraeg a'r Cwricwlwm i Gymru 2022 ar gyfer Ymarferwyr Addysgol | EDN408 |
Llesiant a Chadernid mewn Plentyndod Cynnar | ONLED15 |
Addysg Gorfforol Craidd 1 | PEQ4040 |
Tlodi ac Anfantais | EDW717 |
Iechyd Emosiynol, Iechyd Meddwl a Llesiant | EDW706 |
Mathemateg Graidd 1 | PEQ4037 |
Mathemateg Graidd 2 | PEQ5031 |
Addysg Gorfforol Craidd 2 | PEQ5034 |
Adeiladu Cwricwlwm Ehangach | PGP6040 |
Profiad Ysgol 1 | PEQ4034 |
Astudiaethau Proffesiynol 1 - Addysgu a Dysgu | PEQ4035 |