Karen Washington-Dyer
Uwch Ddarlithydd mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol
Mae Dr Karen Washington-Dyer yn Uwch-ddarlithydd ac Arweinydd Rhaglen ar gyfer y Rhaglen Radd MA Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol. Dechreuodd Karen ei gyrfa yng Ngwasanaeth Ieuenctid Wrecsam lle’r aeth yn ei blaen i ddod yn gydlynydd ardal. Yn ogystal â gweithio gyda phobl ifanc yn y gymuned, roedd Karen hefyd yn weithiwr ieuenctid mewn ysgol uwchradd yn Wrecsam, yn gweithio gyda phobl ifanc a oedd wedi cael eu diarddel o addysg prif ffrwd.
Yn dilyn hyn, aeth Karen i weithio gydag oedolion bregus a oedd yn dioddef o iechyd meddwl gwael, cyn mynd yn ei blaen i weithio gyda throseddwyr rhyw a oedd yn cael eu rhyddhau o’r carchar, i geisio eu hailsefydlu yn y gymuned, gan eu dwyn i gyfrif ar yr un pryd. Dechreuodd Karen ei gyrfa academaidd yn 2008 pan gofrestrodd ar y rhaglen BA (Anrh) Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam. Ar ôl graddio gydag anrhydedd dosbarth cyntaf, enillodd Karen ysgoloriaeth i wneud ei PhD. Dyfarnwyd y PhD yn 2016 ac mae’n ystyried y ffordd y mae datblygiad terfysgaeth ‘Newydd’ ers 9/11 wedi dylanwadu ar ganfyddiadau pobl o Islam. Daeth Karen yn ddarlithydd ar y rhaglen BA (Anrh) Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol yn 2014, ac yn 2018 daeth yn uwch-ddarlithydd ac arweinydd rhaglen ar gyfer y rhaglen MA Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam. Mae Karen yn addysgu ystod o fodiwlau ar y BA a’r MA, gan ganolbwyntio’n bennaf ar anghydraddoldeb cymdeithasol, troseddau casineb a therfysgaeth. Mae Karen hefyd yn aelod o dimau datblygu academaidd ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam, yn fwyaf blaenllaw gyda’r rhaglen mentora cyfoedion. Mae hi hefyd yn aelod o’r fforwm crefydd a ffydd ac mae wedi bod yn brif siaradwr yn un o gynadleddau’r gaplaniaeth. Mae gan Karen brofiad o weithio ar brosiectau ymchwil gwerth uchel; y profiad mwyaf diweddar oedd cyfrannu at ymchwil sy’n ystyried y profiad o ddigartrefedd, gyda gwrywod a benywod yn y System Cyfiawnder Troseddol. Mae Karen hefyd yn oruchwyliwr i nifer o fyfyrwyr PhD, yn ymdrin â nifer fawr o feysydd diddordeb, megis stelcio, dwyieithrwydd yn y system cyfiawnder troseddol, canfyddiadau o droseddwyr sy’n fenywod, ac ymddiriedaeth yn y gwasanaeth heddlu.