Katherine Rowlands
Gweinyddwr Seicoleg a Chyswllt Graddedig - Hyrwyddwr Gyrfaoedd
Ymunais â Phrifysgol Wrecsam ym 2020 lle ymgymerais â fy astudiaethau MRes (Dist) mewn Seicoleg, gan edrych ar iaith a delweddaeth modd penodol. Roeddwn i wedi dychwelyd at addysg uwch, yn dilyn nifer o flynyddoedd mewn diwydiant yn gweithio o fewn amrywiol rolau rhyngwladol, gan gynnwys AD, rheolaeth newid a hyfforddiant. Cwblheais fy ngradd BSc Seicoleg (Dosbarth Cyntaf) ym Mhrifysgol Caerdydd. Dechreuais fy ngyrfa mewn dadansoddi Rheoli Ansawdd o fewn y diwydiant perarogli a blas sydd wedi ysgogi fy niddordebau ymchwil mewn gwybyddiaeth modd penodol (arogleuol), maes rwy'n ei archwilio ymhellach drwy fy astudiaethau MPhil / PhD presennol.
Yn ddiweddar rwyf wedi ymuno gyda'r tîm Seicoleg fel Gweinyddwr Seicoleg, gan weithio'n rhan amser yn y rôl hon ochr yn ochr â fy astudiaethau MPhil / PhD ac rwy'n ddarlithydd sesiynol yn y rhaglen MSc Seicoleg ar-lein. Rwyf wedi gweithio yn y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd o fewn y brifysgol ers dechrau 2024 ac rwyf hefyd yn aelod gweithgar o'r gymuned ymchwil ym Mhrifysgol Wrecsam, ac wedi derbyn dyfarniad Datblygwr Ymchwil y Flwyddyn ar y cyd yn 2024.
Gwybyddiaeth arogli ac arogleuol. Seicoleg wybyddol a niwrowyddoniaeth, yn benodol, canfyddiad, iaith a chof. Methodolegau meintiol, gan gynnwys dulliau ymchwil ymddygiadol ar-lein a modelau cymysg.
Cymdeithasau Proffesiynol
Cymdeitha | Ariennir gan |
---|---|
Cymdeithas Seicolegol Prydain | Aelod Graddedig |
Addysg
Sefydliad | Cymhwyster | Pwnc | Hyd/O Dyddiad |
---|---|---|---|
Prifysgol Wrecsam | MRes (Dist) Seicoleg | Seicoleg | 09/2020 - 09/2022 |
Prifysgol Caerdydd | BSc Seicoleg (Anrh) | Seicoleg | 09/1997 - 06/2000 |
Coleg Cambria | Addysg a Hyfforddiant City & Guilds | Addysg a Hyfforddiant | 01/2018 - 01/2019 |