Katy Davies
Darlithydd mewn Ymarfer Adran Llawdriniaeth
Astudiais ym Mhrifysgol Wrecsam (neu NEWI fel yr oedd bryd hynny!) ar gyfer fy ngradd Baglor Nyrsio, gan gymhwyso yn 2006. Es ymlaen i gyflogaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fel nyrs staff yn y theatrau llawdriniaeth, gan symud ymlaen i fod yn Ddirprwy Arweinydd Tîm mewn anaestheteg ac adferiad. Rwy’n dal i gael fy nghyflogi gan yr ymddiriedolaeth iechyd, yn gwneud sifftiau banc yn y theatr llawdriniaethau er mwyn i mi allu cynnal fy sgiliau a chadw fy addysgu yn gyfredol ac yn berthnasol i’m myfyrwyr ODP.