Kirsty Le-Cheminant

Cynorthwyydd Addysgu Graddedig - Seicoleg

Picture of staff member

Ymunais â’r tîm Seicoleg ym mis Medi 2022 fel Cynorthwyydd Addysgu Graddedig. Gorffennais fy ngradd BSc Seicoleg (dosbarth cyntaf) ym Mhrifysgol Wrecsam yn 2021. Mae gennyf brofiad blaenorol yn y sector gofal a bûm yn gweithio i’r GIG am 10 mlynedd. Dechreuais fy astudiaethau MPhil/PhD presennol yn 2023, gan ganolbwyntio ar gydberthnasau sy’n pontio’r cenedlaethau. Hefyd, rwyf wedi bod yn gysylltiedig ag ymchwil a ariennir gan Gymdeithas Seicolegol Prydain lle bûm yn gweithio fel cynorthwyydd ymchwil, gan ymchwilio i’r effeithiau a ddeilliodd o blant yn darllen i gŵn a chŵn robotig.

Yn fy rôl fel Cynorthwyydd Addysgu Graddedig, rwy’n cynorthwyo i addysgu’r radd seicoleg gan ganolbwyntio’n arbennig ar ddulliau ymchwil a sgiliau astudio. Hefyd, rwy’n addysgu Cyfnod Allweddol 4 ar Raglen Ysgolheigion y Clwb Gwych. Rwy’n un o gymrodyr cyswllt yr HEA.

Anrhydeddau a Gwobrau

Dyddiad Teitl Corff Dyfarnu
01-05-2021
Gwobr Israddedig Blwyddyn Olaf Cymdeithas Seicolegol Prydain am Gyflawniad Cyffredinol
Cymdeithas Seicolegol Prydain
16-12-2019 Cynllun Cynorthwyydd Ymchwil Israddedig
Cymdeithas Seicolegol Prydain
Professional Associations

Professional Associations

Cymdeitha Ariennir gan
Cymdeithas Seicolegol Prydain corff proffesiynol

Addysg

Sefydliad Cymhwyster Pwnc Blwyddyn
Prifysgol Wrecsam PG Cert Confident Researcher Ymchwil 2023
Prifysgol Wrecsam Psychology MPhil/PhD Seicoleg 2023
Prifysgol Wrecsam BSc Psychology Hons Seicoleg 2018 - 2021

Ar hyn o bryd, rwy’n ymchwilio i werth gweithgareddau sy’n pontio’r cenedlaethau ar blant cyn oed ysgol ac oedolion hŷn, gan ddefnyddio dull cymysg.