Lee Mutch

Uwch Ddarlithydd mewn Therapi Galwedigaethol

Picture of staff member

Astudiodd Lee am radd BA Anrh mewn Athroniaeth ym Mhrifysgol Lerpwl, cyn cwblhau PGDIP mewn Iechyd trwy Alwedigaeth ym Mhrifysgol Brighton. Yna cwblhaodd MRES mewn Ymchwil Iechyd ym Mhrifysgol Lerpwl.

Mae Lee wedi meddu ar gymwysterau proffesiynol yn yr AMPS (Asesu Sgiliau Echddygol a Phrosesu) ac yn y Model VdT o Allu Creadigol.  Mae ganddo dros 16 mlynedd o brofiad fel therapydd galwedigaethol cymwys gan ddefnyddio'r Model Galwedigaeth Dynol yn ymarferol yn bennaf ac mae wedi gweithio mewn gwasanaethau iechyd meddwl fforensig, adsefydlu preifat dan glo ar gyfer menywod sydd â diagnosis o Anhwylder Personoliaeth ac mae ganddo brofiad helaeth o weithio mewn Uned Gofal Dwys Seiciatrig (PICU).  

Roedd yn aelod o Grŵp Ymchwil a Datblygu ar gyfer darparwr preifat cenedlaethol yn cynrychioli Therapi Galwedigaethol lle trafodwyd ceisiadau am gynigion ymchwil mae bwriad eu cynnal ar safleoedd cwmnïau, yn amrywio o iechyd meddwl i leoliadau ysgolion arbenigol. Ar hyn o bryd mae'n aelod o Bwyllgor Moeseg Ymchwil y Gyfadran Gwyddorau Cymdeithasol a Bywyd. 

Mae Lee yn mwynhau gweithgareddau awyr agored fel heicio a chanŵio yn ogystal â garddio a beicio.  Mae hefyd yn mwynhau ymweld â lleoedd newydd ac yn enwedig rhai o bwysigrwydd archeolegol.