Lisa yw’r Arweinydd Ymchwil Addysg ac mae’n helpu i gydgysylltu a monitro amrywiaeth o brosiectau a gaiff eu cynnal ar hyn o bryd o fewn yr adran. Mae hi hefyd yn aelod o sawl tîm ymchwil cydweithredol sy’n archwilio pynciau fel Addysgeg siarad, Ymwreiddio ymchwil ac ymholi mewn ysgolion, Ysgolion sy’n canolbwyntio ar y gymuned, Niwroamrywiaeth yn y gweithle a Dulliau sy’n ystyriol o drawma.
Cyn dod i weithio i Brifysgol Wrecsam, bu Lisa yn gweithio am dair blynedd ym Mhrifysgol Bangor, gan gynnal astudiaeth ymchwil dull cymysg yn ymwneud â siwrneiau diagnostig dynion a oedd newydd gael eu diagnosio â chanser y prostad yng Nghymru. Yn y byd addysg, mae Lisa wedi cyflwyno profiadau dysgu a gweithdai mewn amrywiaeth eang o sefydliadau, yn cynnwys ysgolion cynradd ac uwchradd, sefydliadau addysg bellach, clybiau ieuenctid, sefydliadau’r trydydd sector a charchardai.
Mae Lisa yn danbaid dros helpu i hwyluso newid er mwyn mynd i’r afael ag anghydraddoldebau ac anfantais ac ategu cynhwysiant a llesiant. Mae ei rolau blaenorol yn cynnwys gwaith ieuenctid, cymorth pontio i droseddwyr sy’n gadael y carchar, datblygu cymunedol mewn ardaloedd amddifad a hyfforddiant NLP, a hefyd bu’n arweinydd prosiect ar gyfer timau amlasiantaeth yn ymwneud â theuluoedd cymhleth mewn angen.
Prosiectau Ymchwil
Teitl | Rôl | Disgrifiad |
---|---|---|
Ymwreiddio Ymchwil ac Ymholi mewn Ysgolion | Ymchwilydd | Mae’r prosiect hwn, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn gweithio ar y cyd â chonsortiwm GwE a Sefydliadau Addysg Uwch eraill yng Nghymru. Mae’r prosiect yn ei drydedd flwyddyn erbyn hyn, a’r nod yw cynnig y modelau, y sgiliau a’r adnoddau angenrheidiol er mwyn i holl ysgolion Cymru allu dechrau datblygu eu siwrnai ymchwil ac ymholi eu hunain. |
Trafod Addysgeg | Ymchwilydd | Mae’r prosiect Trafod Addysgeg yn rhan o fenter a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae’r prosiect yn ei ail flwyddyn. Yn ystod y flwyddyn gyntaf, cynorthwywyd ysgolion i gyflwyno profiadau dysgu dilys trwy ddefnyddio crynodebau ymchwil, ac eleni byddwn yn archwilio i ba raddau y mae syniadau ac ymarfer addysgegol yn newid ar lefel genedlaethol, ynghyd â newidiadau yng ngwerthoedd, credau ac arferion yr ymarferwyr. |
Cymorth i staff Niwroamrywiol sy’n gweithio mewn Addysg Uwch yn y DU | Ymchwilydd | Bydd yr ymchwil yn archwilio llesiant a phrofiadau presennol staff niwroamrywiol sy’n gweithio mewn addysg uwch yn y DU. |
Dylunio sy’n Ystyriol o Drawma | Ymchwilydd | Archwilio Egwyddorion Dylunio sy’n Ystyriol o Drawma ym Mhrifysgol Wrecsam |
Cyhoeddiadau
Blwyddyn | Cyhoeddiad | Math |
---|---|---|
2023 | Integrating research & practice in schools: an emerging collaborative framework within Welsh education, ap Sion, Tomos G.;Formby, Lisa;Horder, Sue;Jones, Karen R. |
Cylchgronau |
2023 | Teaching and learning in the outdoors: the current state of outdoor learning in schools in Wales, French, Graham;Parry, David;Jones, Cath;McQueen, Robyn;Boulton, Pavla;Horder, Sue;Rhys-Jones, Karen;Formby, Lisa;Sheriff, Lisa;Sheen, Liz |
Cyhoeddiad Arall |
2023 | Grouping Practices for Learning Support, Conn, Carmel;Formby, Lisa;Greenway, Charlotte;Knight, Cathryn;Thomas, David V. |
Cyhoeddiad Arall |
2022 | Diagnostic Journeys in Prostate Cancer: In what ways can the accounts of men with prostate cancer increase understanding and improve care in Wales? A qualitative study of men with prostate cancer, | Cyhoeddiad Arall |
Corff Dyfarnu
Cymdeitha | Ariennir gan |
---|---|
BERA- The British Education Research Association | Aelod |
Pwyllgorau
Enw | Disgrifiad |
---|---|
Gweithgor y Concordat Datblygu Ymchwil | Aelod o weithgor y concordat |
Pwyllgor Moeseg Ymchwil Prifysgol Wrecsam | Aelod Pwyllgor |
Adolygydd neu Olygydd Cylchgronau
Enw'r Cyfnodolyn | Gweithgaredd |
---|---|
British Educational Research Journal | Adolygydd Cymheiriaid |
Gweithgareddau Allgymorth
Teitl | Disgrifiad |
---|---|
Profiadau dysgu dilys: crynodebau tystiolaeth Trafod Addysgeg | Rhestr chwarae sy’n anelu at gynorthwyo ymarferwyr addysgu i fyfyrio ac ymholi. Mae’n cynnwys casgliad o grynodebau tystiolaeth ymchwil, gyda chyflwyniad rhagarweiniol ar gyfer pob un.Gweithgareddau Proffesiynol Eraill |
Teitl |
---|
Talk Pedagogy Symposium presentation at BERA 2023 conference Co author and presenter of Talk Pedagogy project at the 2023 BERA conference. https://wrexham.ac.uk/blog/posts/education-bera-2023/ |