Graddiodd Lisa gyda Gradd mewn Nyrsio Plant yn 2005. Dros yr 20 mlynedd diwethaf, mae wedi gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau yng Ngogledd Orllewin Lloegr a Gogledd Cymru, yn cynnwys Pediatreg Acíwt a Hosbis i Blant, ond bu’n gweithio’n bennaf yn y gymuned gyda phlant a phobl ifanc a’u teuluoedd – hynny yw, plant a phobl ifanc ag anghenion gofal iechyd cymhleth ac a oedd yn ddibynnol ar dechnoleg.
Mae Lisa yn danbaid dros ei rôl o ran darparu gofal iechyd o’r radd flaenaf sy’n canolbwyntio ar gleifion, gan gynorthwyo plant a’u teuluoedd i fyw yn eu cartrefi eu hunain ac yn eu cymunedau lleol. Yn ddiweddar, dychwelodd at addysg uwch fel myfyriwr tra’r oedd hefyd yn gweithio’n glinigol, a llwyddodd i gwblhau ei Chymhwyster Ymarferydd Arbenigol mewn Nyrsio Cymunedol Plant a’i chymhwyster Rhagnodi Gan Nyrsys Annibynnol. Mae’n anelu at ddatblygu darpariaeth y gwasanaeth cymunedol ar gyfer plant sy’n ddibynnol ar dechnoleg trwy gynnig clinigau dan arweiniad nyrsys, fel y gellir darparu gofal yn nes at y cartref a gwella profiadau’r rhai sy’n defnyddio’r gwasanaeth yng Ngogledd Cymru.
Mae Lisa yn dymuno cael dylanwad cadarnhaol ar nyrsio yn y dyfodol. Ers iddi ddychwelyd at Addysg Uwch, mae’r dymuniad hwn wedi dwysáu mwy fyth ac mae hi wedi ysgwyddo rôl fel Darlithydd Nyrsio ym Mhrifysgol Wrecsam tra’n parhau i weithio yn ei rôl glinigol. Mae Lisa yn llawn cyffro o gael cyfrannu at siapio dyfodol nyrsio, gan wella profiad cleifion a gwella ansawdd gofal i blant a phobl ifanc yng Ngogledd Cymru.
Yn ei hamser hamdden, does dim byd yn well gan Lisa na cherdded bryniau a mynyddoedd yn yr awyr agored, chwilio am raeadrau gyda’i Cavapoo bach ac ymdrochi mewn dŵr oer.
Anrhydeddau a Gwobrau
Dyddiad | Title | Awarding Body |
---|---|---|
08-2022 | Cymhwyster Ymarferwyr Arbenigol mewn Nyrsio Cymunedol Plant | Prifysgol John Moors Lerpwl |
08-2022 | Presgripsiynu Annibynnol ac Atodol (V300) | Prifysgol John Moors Lerpwl |
08-2005 | Batchelor Nyrsio (Child Field) | Prifysgol Bangor |