Lisa Kennedy

Darlithydd mewn Dylunio

Picture of staff member

Addysg:
Dechreuodd taith academaidd Lisa gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf o’r ysgol ddylunio nodedig ym Mhrifysgol Swydd Hertford. Gan adeiladu ar y sylfaen hwn, aeth ati i astudio ymhellach, gan ennill TAR a gradd Meistr mewn Ymarfer Dylunio a chryfhau ei sgiliau a gwybodaeth yn y meysydd addysg a dylunio graffeg.

Nodwedd amlwg yng ngyrfa Lisa yw ei phrofiad addysgu eang ac amrywiol. Gan fanteisio ar ei harbenigedd fel dylunydd graffeg ers diwedd y 1990au, mae hi wedi symud drosodd yn ddidrafferth i’w rôl fel addysgwr. Mae Lisa wedi gweithio fel darlithydd mewn sefydliadau mawr eu bri, gan drosglwyddo ei chyfoeth o wybodaeth a phrofiad ymarferol i ddylunwyr y dyfodol.

Er mai ei hymrwymiad i addysgu sy’n cael blaenoriaeth, mae ymarfer proffesiynol yn parhau i fod yn rhan bwysig o waith Lisa. Yn sgil ei chyfnod mewn amrywiaeth o asiantaethau dylunio, yn gweithio gyda chleientiaid nodedig yn Llundain ac yng Nghaer, mae wedi cael profiadau amhrisiadwy yn y byd go iawn. Mae’r cyfuniad hwn o arbenigedd academaidd a diwydiannol yn galluogi Lisa i gynnig dealltwriaeth gynhwysfawr o arferion dylunio graffeg cyfoes i fyfyrwyr.

Mae meddylfryd entrepreneuraidd Lisa i’w weld yn yr asiantaeth hysbysebu a dylunio graffeg a sefydlodd ac y bu’n ei reoli am ddegawd. Mae’r profiad entrepreneuraidd hwn yn cyfoethogi ei haddysgu, wrth iddi rannu profiadau uniongyrchol o agweddau busnes y diwydiant dylunio, gan baratoi myfyrwyr ar gyfer realiti ymarfer proffesiynol.

Mae ei medrusrwydd creadigol yn ymestyn y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth. Mae hi wedi arddangos ei gwaith mewn orielau uchel eu parch, megis MOT Gallery yn Llundain, Galeri Caernarfon ac Oriel Sycharth. Yn ogystal, mae ei chyfraniadau i’r maes wedi eu cynnwys mewn cyhoeddiadau enwog, megis cylchgrawn Frieze, Design Week a LiveWire, sy’n cadarnhau ymhellach ei rôl fel ffigwr uchel ei pharch ym maes dylunio graffeg.

Mae Lisa yn aelod gweithgar o Gymdeithas Siartredig y Dylunwyr a’r IPA (y Sefydliad Ymarferwyr Hysbysebu), sy’n adlewyrchu ei hymrwymiad i gynnal safonau’r diwydiant a meithrin datblygiad proffesiynol ymhlith ei chyfoedion a myfyrwyr.

Er ei gyrfa ddisglair ac anrhydeddau niferus, mae Lisa’n parhau i fod yn hynod o frwdfrydig ynghylch addysgu a dylunio. Mae hi’n parhau i ysbrydoli a grymuso’r genhedlaeth nesaf o ddylunwyr trwy ei rôl fel darlithydd a thrwy weithredu ei chwmni ei hun, a1000words, lle mae hi’n parhau i arloesi a gwthio ffiniau dylunio graffeg.

Gyda’i chyfuniad cyfoethog o arbenigedd academaidd, profiad o’r diwydiant, a chraffter entrepreneuraidd, mae Lisa’n barod i greu effaith arbennig fel darlithydd dylunio graffeg, gan feithrin talentau arweinwyr dylunio y dyfodol a datblygu llwybrau’r diwydiant.

Rhaglenni/Modiwlau wedi'u Cydlynu

Teitl Pwnc
Creative Processes ARD309
Visual Investigation ARD315
Materials and Methods ARD316
Contextual Studies FY302
Digital Communication ARD480
Progression Project ARD310
Specialist Design Studies ARD419