Dr Liz Cade

Prif Ddarlithydd mewn Iechyd Perthynol

Picture of staff member

Ar hyn o bryd, mae Liz yn brif ddarlithydd iechyd perthynol, gan ganolbwyntio’n benodol ar ddatblygu ymchwil strategol a chynorthwyo cydweithwyr academaidd iechyd perthynol i feithrin capasiti a chynnyrch.

Yn gynnar yn 2020, camodd Liz i rôl arweinydd proffesiynol a phrif ddarlithydd yn y maes Therapi Galwedigaethol, gan ganolbwyntio’n bennaf ar astudiaethau israddedigion cyn-cofrestru. Roedd ganddi gyfrifoldebau strategol a gweithredol dros reoli’r maes ac mae wedi cynorthwyo ôl-raddedigion iechyd perthynol gyda modiwlau ymarfer uwch a goruchwyliaeth ymchwil.

Mae Liz wedi bod yn gysylltiedig â datblygu a chyflwyno’r rhaglen Therapi Galwedigaethol ers 2004 ac mae wedi bod yn gysylltiedig â cheisiadau ailddilysu llwyddiannus, achredu a chomisiynu contractau. Mae hi’n falch o fod wedi arwain rhaglen a lwyddodd i ennill sgôr uchel am fodlonrwydd myfyrwyr a chyflogadwyedd. Mae’n aelod proffesiynol o Goleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol ac mae wedi cofrestru gyda’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal.

Yn 2021, enillodd Liz Ddoethuriaeth mewn Gwyddor Iechyd gyda Phrifysgol Cymru ar ôl llwyddo i gwblhau ymchwil yn ymwneud â gwytnwch, gwahaniaeth unigol ac entrepreneuriaeth ar gyfer myfyrwyr mewn lleoliadau lle nad yw’r proffesiwn wedi ennill ei blwyf eto. Mae wedi cyhoeddi gwaith yn y British Journal of Occupational Therapy.

Cymhwysodd Liz ym 1987 ac mae wedi gweithio’n glinigol mewn lleoliadau iechyd corfforol ac iechyd meddwl yn awdurdodau iechyd Lerpwl a Chilgwri. Ym 1989, symudodd i’r maes gofal cymdeithasol a bu’n gweithio i Gyngor Bwrdeistref Cilgwri am 14 mlynedd a hefyd i Gyngor Swydd Gaer, cyn symud i rôl addysgol. Rhwng 1996 a 2001, ysgwyddodd rôl fel ymgynghorydd therapi mewn ymgyfreitha personol.

Mae maes ei harbenigedd clinigol yn ymwneud ag unigolion a chanddynt anabledd hirdymor, ynghyd â hwyluso annibyniaeth yr unigolion hynny yn bennaf trwy addasu cartrefi, darparu tai hygyrch, adsefydlu a darparu cyfarpar. Yn aml, mae gan aelodau’r grŵp hwn anghenion cymhleth oherwydd salwch a chlefyd cronig, ac maent yn elwa ar gael gwared â rhwystrau sy’n eu hatal rhag byw bywydau diogel ac ystyrlon. Mae Liz yn danbaid dros wyddorau galwedigaethol a’r gelfyddyd a’r wyddoniaeth sy’n perthyn i fyw-bob-dydd, yn ogystal ag iechyd y cyhoedd a lleihau anghydraddoldeb trwy oresgyn rhwystrau galwedigaethol.

Roedd Liz yn mwynhau mynd â myfyrwyr ar leoliad pan oedd yn glinigydd, ac yn 2004 ymgymerodd â rôl darlithydd ymarferydd ar y radd Therapi Galwedigaethol yma ym Mhrifysgol Wrecsam. Yn 2006 ysgwyddodd Liz rôl amser llawn yn y byd addysg ac mae wedi cynorthwyo’r tîm addysgu academaidd ochr yn ochr â’i rôl addysgu. Mae wedi cynorthwyo’r arweinydd addysg ymarfer i ddatblygu lleoliadau newydd ac amrywiol lle gall ein myfyrwyr gael profiad gwaith drwy gydol eu hyfforddiant. Yn awr, mae’n cynorthwyo cydweithwyr iechyd perthynol i ddatblygu ymchwil.

Mae Liz yn addysgwr hynod brofiadol sydd wedi bod yn gysylltiedig â datblygu’r rhaglen Therapi Galwedigaethol ers iddi gael ei rhoi ar waith yn 2004, a hefyd mae wedi mynd ati i ddilysu’r cwricwla newydd, yn cynnwys bodloni’r safonau sy’n ofynnol gan y Brifysgol a chyrff rheoleiddio proffesiynol. Mae wedi dal swyddi fel arholwr allanol gyda Phrifysgol Brunel, Prifysgol Derby, Prifysgol Caledonian Glasgow a Phrifysgol Ulster oddi mewn i raglenni therapi galwedigaethol (rhaglenni cyn-cofrestru ac ôl-radd fel ei gilydd).

Mae Liz yn mwynhau byw yn y wlad gyda’i theulu. Mae’n berchen ar geffyl y mae’n cystadlu gydag ef, a hefyd mae ganddi ddau sbaniel bywiog, gwenyn a rhywfaint o ieir.

 

Cyhoeddiadau

Blwyddyn Cyhoeddiad Math
2023 A propensity to thrive: Understanding individual difference, resilience and entrepreneurship in developing competence and professional identity, [DOI]
Cade, Elizabeth E
Cyfnodolyn a Adolygwyd gan Gymheiriaid
2021 A Propensity to Thrive: Occupational Therapy Students in Role-Emerging Placements through Understanding of Personality, Resilience and Entrepreneurship, 
Cade, Elizabeth E
Cyhoeddiad Arall
2012 The Learning Experience on Placement in The Occupational Therapy Handbook: Practice Education, M & K . 
Liz Cade, Tracy Polglase
Pennod Lyfr

Cymdeithasau Proffesiynol

Cymdeitha Ariennir gan
AU Ymlaen Cymrawd
Health and Care Professions Council Corff Rheoleiddio
British Association of Occupational Therapy Corff Proffesiynol
World Federation of Occupational Therapy Proffesiynol
Royal Society of Public Health Aelod
Royal College of Occupational Therapists Aelodaeth broffesiynol

Pwyllgorau

Enw Dyddiad
Panel Uniondeb Academaidd 2023
Cyngor yr Addysgwyr Therapi Galwedigaethol
Coleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol
2021
Pwyllgor Moeseg Ymchwil Prifysgol Wrecsam 2022

Cyflogaeth

Cyflogwr Swydd Dyddiad
Prifysgol Wrecsam Prif Ddarlithydd ac Arweinydd Proffesiynol 2020 - 2024
Prifysgol Glyndwr Wrecsam Uwch-ddarlithydd 2004 - 2020
Cyngor Gorllewin Swydd Gaer a Chaer Uwch-therapydd Galwedigaethol 2002 - 2006
Cyngor Bwrdeistref Cilgwri Uwch-therapydd Galwedigaethol 1989 - 2002
Awdurdod Iechyd Lerpwl / Awdurdod Iechyd Cilgwri Therapydd Galwedigaethol 1987 - 1989
Kirkpatrick Evans Personal Litigation Therapydd Ymgynghorol 1996 - 2001

Adolygydd neu Olygydd Cylchgronau

Enw'r Cyfnodolyn Gweithgaredd
British Journal of Occupational Therapy Adolygydd Cymheiriaid

Gweithgareddau Proffesiynol Eraill

Teitl Dyddiad
Arholwr Allanol Prifysgol Ulster 2023
Arholwr Allanol Prifysgol Caledonian Glasgow 2022
Arholwr Allanol Prifysgol Brunel 2014 - 2018
Arholwr Allanol Prifysgol Derby 2016 - 2022

Rhaglenni/ Modiwlau wedi'u Cydlynu

Teitl Pwnc
Ymchwil 3 OCC611
Lleoliad Ymarfer – Cynllunio OCC405
Cymhlethdod mewn Ymarfer OCC521