Louise Duff
Uwch Ddarlithydd Amgylchedd Adeiledig
Dechreuodd Louise ei gyrfa ym 1987 yn gweithio fel syrfëwr tir ac ers hynny mae wedi mwynhau gyrfa’n dylunio a goruchwylio cynlluniau Adenilliad Tir Heintiedig, cynlluniau Gwella Amgylchedd Canol Tref, cynlluniau Diogelwch Traffig ac yn olaf fel Uwch Beiriannydd a Chydlynydd Iechyd a Diogelwch yn dylunio gwelliannau i gynlluniau priffyrdd (A55, A470, A494) yn gweithio ar ran Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd Ddwyrain Cymru.
Mae Louise wedi bod yn dysgu cyrsiau Peirianneg Sifil ac adeiladu AP ac AU ers 2005.
Mae Louise yn cyfrannu tuag at gyflwyniad y rhaglenni gradd Rheolaeth Adeiladu a Thechnoleg Dyluniad Pensaernïol yn y brifysgol.
Yn aelod corfforaethol o Sefydliad Peirianwyr Sifil ac yn Llysgennad Adeiladu CITB, mae Louise yn weithgar wrth hyrwyddo’r diwydiant adeiladu i ysgolion lleol a cholegau.