
Dechreuodd fy niddordeb proffesiynol mewn iechyd meddwl yn 1995 pan gefais swydd fel cynorthwyydd nyrsio yn yr uned iechyd meddwl cleifion mewnol a oedd newydd agor (ar y pryd!) yn Wrecsam, Llwyn y Groes. Oherwydd fy mhrofiad personol i ac aelodau o’r teulu o anawsterau iechyd meddwl, buan y gwnaeth y swydd hon i mi sylweddoli fy mod wedi dod o hyd i yrfa yr oeddwn yn angerddol i’w dilyn, felly ym 1998, dechreuais fy hyfforddiant nyrs iechyd meddwl gyda Phrifysgol Bangor. Ar ôl cymhwyso, bûm yn gweithio yn y Gwasanaethau Defnydd Sylweddau yn Wrecsam tan 2013; maes ymarfer yr wyf yn falch o fod wedi gweithio ynddo ac fe wnes i gyfarfod â llawer o unigolion ysbrydoledig ar hyd y ffordd.
Symudais wedyn i weithio o fewn Gofal Sylfaenol Iechyd Meddwl yn Wrecsam a chanfod fy niddordeb mewn gwaith grŵp. Nid oes dim byd tebyg â dod â grŵp o bobl ynghyd o gefndiroedd amrywiol, a gwylio’r cysylltiadau’n datblygu o ddealltwriaeth ar y cyd o anawsterau bywyd. Yn ystod y cyfnod hwn yn fy mywyd y darganfyddais werth ymwybyddiaeth ofalgar a hunan-dosturi. Dechreuais ar daith bersonol gydag ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar dyddiol, ac ar ôl pedair blynedd o wreiddio’r arfer hwn yn fy mywyd fy hun, dechreuais Radd Meistr mewn Dulliau Seiliedig ar Ymwybyddiaeth Ofalgar gyda Phrifysgol Bangor yn 2017. Hunanethnograffeg hynod bersonol oedd fy nhraethawd ymchwil o fy mhrofiad fel menyw hoyw dosbarth gweithiol yn dod yn athrawes ymwybyddiaeth ofalgar.
Cefais swydd fel darlithydd nyrsio iechyd meddwl yma yn y brifysgol ym mis Ionawr 2023 sy'n dod â fy nghariad at bob peth iechyd meddwl a gweithio gyda grwpiau ynghyd. Rwy'n addysgu ar y modiwlau Hybu Ymddygiad Iach a Bod yn Agored i Niwed mewn Cymdeithas, yn ogystal â'r modiwlau Gofal Acíwt a Chronig ar draws yr Oes mewn Iechyd Meddwl a Chydlynu Cyfannol Gofal Cymhleth mewn Iechyd Meddwl, ar gyfer y rhaglenni BN, MSc, a Rhan Amser.
Rwy’n angerddol am godi lleisiau’r rhai o grwpiau a dangynrychiolir mewn addysg a gofal iechyd, gyda chysylltiad penodol â phobl o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol isel a’r gymuned LHDT. Mae gweld rhywun "fel chi" mewn swyddi pwerus canfyddedig yn hanfodol gan ei fod yn creu ymdeimlad o berthyn ac ysbrydoliaeth i'r rhai ohonom o gymunedau ymylol.
Y tu allan i’r gwaith, fe welwch fi’n treulio amser gyda fy mab ysbrydoledig, fy nghi, a’m teulu ehangach. Rwyf wrth fy modd yn gwersylla a cherddoriaeth, yn enwedig cerddoriaeth sy'n fyw ac yn uchel! Mae gen i chwaeth eclectig iawn! Un o fy hoff benwythnosau o’r flwyddyn gerddorol yw gŵyl Focus Wales yn Wrecsam.
Diddordebau Addysgu
Mae fy niddordebau addysgu yn cynnwys natur hanfodol y berthynas therapiwtig rhwng ymarferwr a defnyddiwr gwasanaeth, rhwng cydweithwyr, a rhwng darlithydd a myfyriwr. Rwyf hefyd yn angerddol am rôl tosturi ac yn arbennig hunan-dosturi o ran ein perthynas â ni ein hunain. Rwy’n awyddus i sicrhau bod gan ein myfyrwyr nyrsio ddealltwriaeth ddofn ac ystyrlon o’r effaith y gall trawma ei chael arnom ni i gyd a phwysigrwydd perthnasoedd cefnogol ac arweiniol yn ogystal â gallu trin ein hunain â thosturi.
O safbwynt maes pwnc iechyd meddwl, er bod gennyf ddiddordeb ym mhob pwnc iechyd meddwl, mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn pobl sy'n byw ag anhwylder defnyddio sylweddau, pobl y mae trawma perthynol yn effeithio arnynt (a allai gael diagnosis o "Anhwylder Personoliaeth"), a phobl sy'n byw gydag ADHD.
Rhaglenni/Modiwlau wedi'u Cydlynu
Teitl | Pwnc |
---|---|
Promoting Healthy Behaviours | NUR517 |
Health Vulnerability and Promoting Healthy Behaviours | NUR702 |
Holistic Co-ordination of Complex Care in Mental Health | NUR625 |