Fy enw i yw Mark Quilter, BN (Anrh), Tystysgrif Ôl-raddedig (Hwylusydd addysg ymarfer Prifysgol Wrecsam).
Yn debyg i nifer o bobl sy’n angerddol dros eu gyrfa, rwy’n gweithio ar fy ngorau pan rwy’n cael fy wynebu â her newydd a chyffrous. Rwyf wedi treulio bron i bedair blynedd ar ddeg yn gweithio fel nyrs, ac yn ystod y cyfnod hwnnw rwyf wedi cael profiad o weithio yn y gymuned fel nyrs ardal ac ar wardiau mewn ysbyty. Roeddwn hefyd yn ffodus i gael secondiad fel Hwylusydd Effeithiolrwydd Clinigol ar gyfer Meddygaeth, lle yr oedd rhaid cwblhau archwiliadau yn dilyn digwyddiadau ar draws yr Ymddiriedolaeth i benderfynu a oedd unrhyw newid neu welliant wedi ei wneud. Roedd y rôl hon yn cynnwys agweddau o reoli meddyginiaeth, megis: Cyfarfodydd Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru (AWMSG) a chyfarfodydd Ansawdd a Diogelwch. Roedd yn ofynnol i mi greu profforma ar gyfer casglu tystiolaeth gan staff, a dogfennaeth, a defnyddiwyd y dystiolaeth ar gyfer creu adroddiad gydag argymelliadau ar gyfer gwelliant. Rwy’n gweithio’n dda dan bwysau ac yn gallu cyrraedd terfynau amser, er enghraifft, ar gyfer nifer o’r archwiliadau ac adroddiadau a ysgrifennwyd roedd rhaid dod a gwybodaeth ynghyd a chyflwyno adroddiadau terfynol erbyn terfynau amser penodol.
Yn fwy diweddar, rwyf wedi ymgymryd â’r rôl Hwylusydd Addysg Ymarfer gyda Phrifysgol Wrecsam ar gampws Llanelwy. Mae’r rôl hon yn cynnwys paratoi myfyrwyr ar gyfer lleoliadau gwaith ymarferol, cwblhau archwiliadau ar wardiau i sicrhau bod y weithdrefn gywir ar gyfer myfyrwyr nyrsio ar waith, a rhoi cefnogaeth gyffredinol a goruchwylio myfyrwyr yn ystod sgiliau clinigol a darlithoedd.
Anrhydeddau a Gwobrau
Dyddiad | Teitl | Corff Dyfarnu |
---|---|---|
06-11-2024 | BN (Hons) Nursing | Prifysgol Glyndŵr |