Mary Corcoran

Darlithydd mewn Busnes

Picture of staff member

Rwy’n ddarlithydd busnes profiadol gyda chefndir mewn arweinyddiaeth academaidd, datblygu cwricwlwm a goruchwylio myfyrwyr. Ar hyn o bryd rwyf mewn swydd Darlithydd a Dirprwy ar y rhaglen MBA ym Mhrifysgol Wrecsam, lle rwy’n arwain ar fodiwlau busnes craidd fel Gweithredu Strategaethau, Newid Creadigol ac Arloesi, a Phrosiectau Ymchwil. Rwyf hefyd yn cydlynu taith traethawd hir ein myfyrwyr ôl-raddedig, gan sicrhau ymgysylltiad a chefnogaeth academaidd o safon uchel. 

Mae fy ngyrfa yn cynnwys swyddi mewn addysg uwch, recriwtio proffesiynol a bancio, lle datblygais ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy. Mae’r rhain yn cynnwys cynllunio strategol, ymgysylltiad rhanddeiliaid ac arweinyddiaeth tîm. Mae fy null addysgu yn canolbwyntio ar y myfyriwr, gan bwysleisio cynhwysiant a chymhwysiad ymarferol damcaniaethau busnes. Rwy’n brofiadol yng nghyd-destun cefnogi myfyrwyr rhyngwladol a hwyluso amgylcheddau dysgu ar-lein a seiliedig ar dechnoleg. 

Yn ogystal â’m haddysgu a’m profiad proffesiynol, rwy’n dilyn Doethuriaeth mewn Gweinyddu Busnes (DBA) ym Mhrifysgol Abertawe, yn canolbwyntio ar fentrau cymdeithasol. Mae fy nhaith academaidd hefyd yn cynnwys gradd Feistr mewn Gweinyddiaeth Fusnes (MBA), BA (Anrh) mewn Busnes a Thystysgrif CMI Lefel 5 mewn Rheolaeth ac Arweinyddiaeth, sy’n cyd-fynd â’m profiad ymarferol ac sy’n sail i’m hymrwymiad i ddysgu gydol oes

Mae fy niddordebau ymchwil yn canolbwyntio ar fentrau cymdeithasol a’u rôl yn y broses o feithrin datblygiad cynaliadwy ac effaith gymdeithasol. Mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn archwilio’r heriau strategol a gweithredol sy’n wynebu mentrau cymdeithasol, gan gynnwys llywodraethu, modelau cyllidebu ac ymgysylltiad rhanddeiliaid. Un o’r prif feysydd sydd o ddiddordeb yw archwilio sut mae'r sefydliadau hyn yn cydbwyso cenhadaeth gymdeithasol gyda chynaliadwyedd ariannol.   

Mae gennyf hefyd ddiddordeb mewn rolau arloesi o fewn mentrau cymdeithasol, gan gynnwys sut maent yn defnyddio technoleg a phartneriaethau cymunedol i greu a datblygu effaith gymdeithasol. Yn ogystal, rwy’n ymchwilio i groestoriad entrepreneuriaeth gymdeithasol a chyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol (CSR), gan ymchwilio i sut mae busnesau yn mabwysiadu modelau hybrid i gyflawni amcanion cymdeithasol ac amgylcheddol. 

Addysg

Sefydliad Cymhwyster Pwnc
Prifysgol Abertawe DBA Mentrau Cymdeithasol (2024 - 2028)
Prifysgol Wrecsam MBA Meistr mewn Gweinyddu Busnes  
Prifysgol Wrecsam PCET Addysg ôl-orfodol
Prifysgol Wrecsam BA (Hons) Busnes

Ieithoedd

Ieithoedd Darllen Ysgrifennu Siarad
Cymraeg Hyfedredd Brodorol / Dwyieithog Hyfedredd Proffesiynol Llawn Hyfedredd Proffesiynol Llawn
Saesneg Hyfedredd Brodorol / Dwyieithog Hyfedredd Brodorol / Dwyieithog Hyfedredd Brodorol / Dwyieithog

Rwy’n frwdfrydig dros ddarparu addysg ymarferol a difyr ym meysydd busnes a rheolaeth. Mae fy niddordebau addysgu yn cynnwys rheolaeth strategol, cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol (CSR), dadansoddi busnes a methodoleg ymchwil. Rwy’n mwynhau hwyluso profiadau dysgu cymhwysol yn arbennig, fel astudiaethau achos a phrosiectau dechrau busnes, sy’n galluogi myfyrwyr i gysylltu damcaniaeth ag arferion byd go iawn. 

Yn ogystal, mae gennyf ddiddordeb mewn cefnogi myfyrwyr i ddatblygu sgiliau dadansoddol hanfodol a’u harwain drwy uwch dechnegau ymchwil i gefnogi gwneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth. Mae gennyf hefyd ddiddordeb cryf mewn adnoddau dysgu sy’n cael eu gwella gan dechnoleg, fel fforymau Moodle a thiwtorialau rhyngweithiol, i gyfoethogi profiad dysgu’r myfyriwr. 

Profiad o Addysgu: 

Mae gennyf brofiad estynedig o addysgu myfyrwyr rhyngwladol ac ôl-raddedig, gyda ffocws ar fodiwlau lefel MBA. Rwy’n hwyluso amgylcheddau dysgu wyneb yn wyneb ac ar-lein, ac mae gennyf brofiad amlwg o addysgu pynciau busnes cymhleth mewn modd sy’n hygyrch ac yn berthnasol.  

Rwyf hefyd yn gwerthfawrogi pwysigrwydd ymarfer myfyriol mewn addysg, ac yn annog myfyrwyr i werthuso eu profiadau dysgu’n feirniadol a chymhwyso’r gwersi hyn yn eu cyd-destunau proffesiynol. Mae fy nghefndir mewn lleoliadau proffesiynol, ynghyd â’m harbenigedd academaidd, yn fy ngalluogi i ddarparu cwricwlwm sy’n ddamcaniaethol ac yn ymarferol. 

Rhaglenni/Modiwlau wedi'u Cydlynu

Teitl Pwnc
Dissertation BUS7B63
Implementing Strategies BUS7B49
Creative Change and Innovation BUS7B45