Matthew McDonald-Dick

Lecturer in Computing

Picture of staff member

Rwy’n gweithio fel Darlithydd Gemau a’r Cyfryngau ym Mhrifysgol Wrecsam ers 2022. Mae gennyf BSc (Anrh) ac MSc mewn Datblygu Gemau Cyfrifiadurol. Mae gennyf ddiddordeb mawr mewn dysgu peirianyddol a’i botensial i wella’r tirlun digidol yn y diwydiant Gemau a’r Cyfryngau ac rwy’n edrych ymlaen at astudio PhD yn y dyfodol, a fydd yn canolbwyntio ar y pwnc hwn.

Cyn imi ddechrau gweithio yn fy swydd bresennol, bûm yn gweithio fel darlithydd sesiynol tra’r oeddwn yn cwblhau fy nghymhwyster TAR (AHO), lle cefais brofiad gwerthfawr o ran addysgu mewn Addysg Uwch. Rwyf wedi addysgu amrywiaeth o bynciau, yn cynnwys mathemateg, rhaglennu, rhwydweithio a seiberddiogelwch. Ar hyn o bryd, rwy’n canolbwyntio ar raglennu gemau, dylunio lefelau, a deallusrwydd artiffisial.

Oddi allan i’r gwaith, rwy’n gwirioni ar Fformiwla Un. Rwyf hefyd wrth fy modd yn treulio amser gyda fy nghath, Spot, ac rwy’n mwynhau bod allan yn yr awyr agored.

Pwyllgorau

Enw Blwyddyn

Is-Bwyllgor Rhaglenni Academaidd

09/2022

Addysg

Sefydliad Cymhwyster Pwnc Blwyddyn/To
Glyndwr University BSc (Hons) Datblygu Gêm Gyfrifiadurol  
Glyndwr University MSc Datblygu Gêm Gyfrifiadurol  
Glyndwr University PGCE Tystysgrif Broffesiynol i Raddedigion mewn Addysg (PCET) 2021 - 2022

Gweithgareddau Proffesiynol Eraill

Teitl Disgrifiad
Gemau Talent Cymru; y rhaglen gyntaf yng Nghymru sy’n datblygu talent yn y byd gemau i gael ei hariannu’n genedlaethol, gan arbenigo mewn cefnogi a chreu stiwdios gemau indie cynaliadwy. 2021