Monty Kennard
Ymchwilydd Cyswllt - Prosiect Labordy Dysgu
Mae gan Monty Kennard radd mewn Economeg, Gwleidyddiaeth, a Chysylltiadau Rhyngwladol o Brifysgol Brookes, Rhydychen. Cwblhaodd ei hyfforddiant athro School Direct (TAR a SAC) yn Swydd Amwythig, cyn gweithio mewn ysgol gynradd yn Wrecsam tra’n ennill MSc mewn Cyfrifiadureg o Brifysgol Sunderland. Canolbwyntiodd ar rôl technoleg yn y maes addysg yn ei brosiectau ymchwil meistr, gan adlewyrchu ei ddiddordeb arbennig yn y ddau faes.
Yn awr, mae Monty wrth ei fodd yn cyfuno ei angerdd tuag at addysgu gyda’i frwdfrydedd tuag at dechnoleg ac ymchwil, gan ddod â dulliau arloesol i’r ystafell ddosbarth.
Mae Monty yn aelod o Grŵp Cydweithredol Cymru ar gyfer Dylunio Dysgu (WCLD), a’r Ganolfan Ymchwil Ryngwladol ar Dechnolegau Rhyngweithiol mewn Addysgu a Dysgu (CIRITTL), lle mae’n archwilio ymarfer arloesol mewn addysg drwy ddefnyddio technolegau trochol.
Diddordebau Ymchwil
Mae ymchwil Monty yn canolbwyntio ar groestoriadau addysg, technoleg a seicoleg, gyda diddordeb penodol yn y ffordd mae technoleg yn berthnasol i niwroamrywiaeth ac iechyd meddwl.
Mae prosiectau cyfredol Monty yn archwilio effaith technolegau trochol ar lythrennedd seicogymdeithasol, yn ogystal â’r ffyrdd y mae fframweithiau meddygol, cyfreithiol, cymdeithasol a’r rhai sy’n seiliedig ar hunaniaeth o awtistiaeth yn croestorri, yn gwrthdaro ac yn dylanwadu ar bolisi, ymchwil a phrofiad personol.
Fel aelod o’r WCLD (Grŵp Cydweithredol Cymru ar gyfer Dylunio Dysgu), mae Monty yn archwilio ymarfer arloesol mewn addysg drwy ddefnyddio technolegau trochol.
Addysg
| Sefydliad | Cymhwyster | Pwnc |
|---|---|---|
| Prifysgol Sunderland | MSc | Cyfrifiadureg |
| Prifysgol Caer | TAR | Cynradd |
| Prifysgol Rhydychen Brookes | BA(anrh) | Economeg, Gwleidyddiaeth, a Chysylltiadau Rhyngwladol |