Nataliia Luhyna
Swyddog Prosiect ASTUTE, Darlithydd Sesiynol mewn Peirianneg Fecanyddol
- Ystafell: Y Ganolfan Hyfforddi a Datblygu Deunyddiau Cyfansawdd neu C130
- Ffôn: +44 (0)1978 294432
- E-bost: n.luhyna@glyndwr.ac.uk
Derbyniodd Nataliia ein BEng (Anrh) mewn Peirianneg Fecanyddol ym Mhrifysgol Genedlaethol Chernihiv (Iwcrain) yn 2010. Ar ben-blwydd y Brifysgol yn hanner can mlwydd oed, fe’i henwyd fel un o’r myfyrwyr mwyaf nodedig ac fe ddyfarnwyd iddi Ddiploma Anrhydeddus, ‘Rhagoriaeth mewn Addysg’.
Ar hyn o bryd mae Nataliia yn ymgymryd ag ymchwil PhD mewn cineteg caledu nanogyfansoddion epocsi clyfar (ag iddynt sail garbon nanotiwb) gan ddefnyddio gwahanol dechnegau caledu (confensiynol, tonfedd microdon a radio). Mae wedi cyhoeddi ymchwil o safon a ganolwyd yn seiliedig ar gyfansoddion matrics ac mae wedi mynychu a chymryd rhan mewn cynadleddau yn y Deyrnas Unedig a thramor.
Mae Nataliia yn Ddarlithydd Sesiynol mewn Peirianneg Fecanyddol ac mae ar hyn o bryd yn gweithio tuag at ennill Cymrodoriaeth Gyswllt gyda’r Academi Addysg Uwch. Mae’n darparu gwahanol fodiwlau ar gyfer rhaglen Gradd Sylfaen Airbus FDEng, BEng (Anrh) a lefelau MSc mewn Peirianneg Awyrenegol/Mecanyddol ac yn goruchwylio prosiectau myfyrwyr sydd ar eu blwyddyn olaf yn y Ganolfan Hyfforddi a Datblygu Deunyddiau Cyfansawdd Uwch ym Mrychdyn.
Mae’n gweithio fel Swyddog Prosiect ASTUTE (Advanced Sustainable Manufacturing Technologies) ym Mhrifysgol Glyndwr i ddod a mwy o dechnolegau gweithgynhyrchu uwch i’r byd gweithgynhyrchu yng Nghymru. Mae Nataliia wedi gweithio gyda sawl menter gweithgynhyrchu (busnesau bach a chanolig eu maint) ar draws ardaloedd cydgyfeirio yng Nghymru.
Nataliia yw Arweinydd Rhaglen MSc Peirianneg Deunyddiau Cyfansawdd. Mae hi’n aelod o Gymdeithas Peirianneg Merched WES, ac yn cefnogi digwyddiadau STEM ar gyfer merched a menywod sydd eisiau astudio a dilyn gyrfaoedd mewn STEM.
Cyhoeddiadau
Blwyddyn | Cyhoeddiad | Math |
---|---|---|
2020 | Novel carbyne filled carbon nanotube - polymer nanocomposites. , [DOI] Luhyna N;Rafique R;Iqbal Sadia S;Khaliq J;Saharudin Mohd S;Wei J;Qadeer Q;Inam F |
Cyhoeddiad Arall |
Anrhydeddau a Gwobrau
Dyddiad | Teitl | Corff Dyfarnu |
---|---|---|
2016 | Cymrawd yr Academi Addysg Uwch | Higher Education Academy |
Rhaglenni/ Modiwlau wedi'u Cydlynu
Teitl | Pwnc |
---|---|
Materials and Manufacturing | ENG490 |
Engineering Futures – Research, Ethics, and Sustainability | ENG5A4 |
Composite Materials | ENG691 |
Advanced & Composite Materials | ENG742 |
Analysis, Testing & QA of Composites | ENG799 |
QA, Assembly and repair of composites | ENG758 |
Composite Manufacture, Assembly and Repair | ENG798 |
Materials and Environment | ENG4B4 |
Environmental & Sustainable Aspects of Composites | ENG7A1 |
The Skills You Need | FY301 |
Materials and Processes | ENG5AF |
Materials Engineering | ENG5A1 |