Nataliia Luhyna

Swyddog Prosiect ASTUTE, Darlithydd Sesiynol mewn Peirianneg Fecanyddol

Picture of staff member

Derbyniodd Nataliia ein BEng (Anrh) mewn Peirianneg Fecanyddol ym Mhrifysgol Genedlaethol Chernihiv  (Iwcrain) yn 2010. Ar ben-blwydd y Brifysgol yn hanner can mlwydd oed, fe’i henwyd fel un o’r myfyrwyr mwyaf nodedig ac fe ddyfarnwyd iddi Ddiploma Anrhydeddus, ‘Rhagoriaeth mewn Addysg’.

Ar hyn o bryd mae Nataliia yn ymgymryd ag ymchwil PhD mewn cineteg caledu nanogyfansoddion epocsi clyfar (ag iddynt sail garbon nanotiwb) gan ddefnyddio gwahanol dechnegau caledu (confensiynol, tonfedd microdon a radio). Mae wedi cyhoeddi ymchwil o safon a ganolwyd yn seiliedig ar gyfansoddion matrics ac mae wedi mynychu a chymryd rhan mewn cynadleddau yn y Deyrnas Unedig a thramor.

Mae Nataliia yn Ddarlithydd Sesiynol mewn Peirianneg Fecanyddol ac mae ar hyn o bryd yn gweithio tuag at ennill Cymrodoriaeth Gyswllt gyda’r Academi Addysg Uwch. Mae’n darparu gwahanol fodiwlau ar gyfer rhaglen Gradd Sylfaen Airbus FDEng, BEng (Anrh) a lefelau MSc mewn Peirianneg Awyrenegol/Mecanyddol ac yn goruchwylio prosiectau myfyrwyr sydd ar eu blwyddyn olaf yn y Ganolfan Hyfforddi a Datblygu Deunyddiau Cyfansawdd Uwch ym Mrychdyn.

Mae’n gweithio fel Swyddog Prosiect ASTUTE (Advanced Sustainable Manufacturing Technologies) ym Mhrifysgol Glyndwr i ddod a mwy o dechnolegau gweithgynhyrchu uwch i’r byd gweithgynhyrchu yng Nghymru. Mae Nataliia wedi gweithio gyda sawl menter gweithgynhyrchu (busnesau bach a chanolig eu maint) ar draws ardaloedd cydgyfeirio yng Nghymru.

Nataliia yw Arweinydd Rhaglen MSc Peirianneg Deunyddiau Cyfansawdd. Mae hi’n aelod o Gymdeithas Peirianneg Merched WES, ac yn cefnogi digwyddiadau STEM ar gyfer merched a menywod sydd eisiau astudio a dilyn gyrfaoedd mewn STEM.

Cyhoeddiadau

Blwyddyn Cyhoeddiad Math
2020 Novel carbyne filled carbon nanotube - polymer nanocomposites. , [DOI]
Luhyna N;Rafique R;Iqbal Sadia S;Khaliq J;Saharudin Mohd S;Wei J;Qadeer Q;Inam F
Cyhoeddiad Arall

Anrhydeddau a Gwobrau

Dyddiad Teitl Corff Dyfarnu
2016 Cymrawd yr Academi Addysg Uwch Higher Education Academy

Rhaglenni/ Modiwlau wedi'u Cydlynu

Teitl Pwnc
Materials and Manufacturing ENG490
Engineering Futures – Research, Ethics, and Sustainability ENG5A4
Composite Materials ENG691
Advanced & Composite Materials ENG742
Analysis, Testing & QA of Composites ENG799
QA, Assembly and repair of composites ENG758
Composite Manufacture, Assembly and Repair ENG798
Materials and Environment ENG4B4
Environmental & Sustainable Aspects of Composites ENG7A1
The Skills You Need FY301
Materials and Processes ENG5AF
Materials Engineering ENG5A1