Cyllid Y Gronfa Ffyniant Gyffredin

Mae Prifysgol Wrecsam wedi sicrhau Cyllid Y Gronfa Ffyniant Gyffredin (SPF) sy’n galluogi sefydliadau yn Wrecsam, Sir Ddinbych a Sir y Fflint i gael mynediad gwell i nifer o’n gwasanaethau trwy amrywiaeth o gynlluniau wedi’i ariannu:

Talebau Sgiliau ar gyfer Gweithdai a Chyrsiau Byr

Gall sefydliadau yn Wrecsam, Sir Ddinbych a Sir y Fflint gael Talebau Sgiliau o hyd at £1500 y cwmni pan gânt eu defnyddio tuag at ddatblygiad proffesiynol parhaus trwy ein rhaglen o weithdai a chyrsiau byr.

Mae Talebau Sgiliau yn cynnig  hyfforddiant i fusnesau yn y rhanbarth am llai o gost, neu wedi'i ariannu'n llawn, gyda’r cyfle i wella sgiliau eu gweithlu ag ennill mantais gystadleuol. Gall tîm Menter Prifysgol Wrecsam hwyluso amrywiaeth o opsiynau i roi cyflwyniad eang i bynciau y mae galw amdanynt trwy ein gweithdai proffesiynol a chyrsiau byr wedi'u targedu.

Darganfod mwy am ein gweithdai

Archwiliwch ein cyrsiau byr

I gael rhagor o wybodaeth am sut i gael Talebau Sgiliau er mwyn ariannu gweithdai neu gyrsiau byr, e-bostiwch y tîm ar enterprise@wrexham.ac.uk

Talebau Trosglwyddo Gwybodaeth (KTVs)

Mae’r cynigion KTV trwy SPF yn welliant sylweddol i gynlluniau presennol, gan ganiatáu i fusnesau yn Wrecsam, Sir Ddinbych a Sir y Fflint gael mynediad at hyd at 10 taleb fesul sefydliad, pob un yn werth £500, sy’n ddwbl y talebau sydd ar gael i fusnesau y tu allan i’r tair sir.

Mae hyn yn golygu y gall sefydliadau neu unigolion busnes bellach elwa o hyd at £5000 i gael mynediad at arbenigedd academaidd; p'un a ydynt yn cwmpasu cysyniad busnes newydd, yn treialu proses arloesol neu'n archwilio ymchwil a datblygu.

Gall KTVs leihau’r risg ariannol arferol sy’n gysylltiedig â mentrau o’r fath ac ysgogi cydweithio ac ymgysylltu pellach rhwng diwydiant a’r byd academaidd.

I ddarganfod mwy am gyrchu KTVs, e-bostiwch enterprise@wrexham.ac.uk

Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth Bach (KTPs Bach)

Mae KTPs Bach yn galluogi busnesau i recriwtio myfyriwr graddedig i'w tîm ar brosiect 3-6 mis, tra hefyd yn cael mynediad i hyd at £6000 o amser academaidd i gefnogi'r prosiect.

Mae ychwanegu cefnogaeth SPF yn golygu y gall busnesau yn Wrecsam, Sir Ddinbych a Sir y Fflint elwa o amser academaidd a chymorth ariannol o hyd at £380 yr wythnos tuag at gyflog eu graddedigion.

Siaradwch â ni am fanteision KTPs Bach, e-bostiwch enterprise@wrexham.ac.uk

Cymhwysedd ac argaeledd

Mae'r cyfleoedd ariannu uchod ar gael trwy Brifysgol Wrecsam i fusnesau sydd wedi'u lleoli yn ardal Wrecsam, Sir Ddinbych a Sir y Fflint. I elwa o’r cyllid rhaid cyrchu cyfleoedd ariannu cyn diwedd Rhagfyr 2024.

Rydym yn croesawu ymholiadau gan academyddion mewnol neu fusnesau allanol, cysylltwch â’r tîm Menter heddiw i wneud y gorau o’r cyfleoedd ariannu hyn â chyfyngiad amser.

Mae busnesau y tu allan i ardal Wrecsam, Sir Ddinbych a Sir y Fflint yn dal i allu cael mynediad at ein mentrau arloesi a chyfleoedd a ariennir, ond nid ar y symiau uchod a ddarperir trwy SPF.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost atom ar: enterprise@wrexham.ac.uk

Mentrau a chyllid eraill sydd ar gael

Talebau Trosglwyddo Gwybodaeth (KTVs)

Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (KTPs)

Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth Bach (KTPs Bach)

Partneriaethau SMART

partner logos