Natalie Fraser-Edwards
Darlithydd mewn nyrsio
Rydw i wastad wedi bod â natur ofalgar a meddwl chwilfrydig. Cyn dechrau gweithio fel nyrs, bûm yn ddigon ffodus i deithio’r byd gyda fy ngwaith. Wrth weld y byd, dysgais lawer o bethau gwerthfawr am wahanol ddiwylliannau, gan ddysgu sut i adnabod ac ategu amrywiaeth a chydraddoldeb. Deuthum i werthfawrogi mwy a mwy ar ein GIG, a’r profiadau hyn a’m harweiniodd i ddechrau gyrfa yn y proffesiwn nyrsio.
Ers cymhwyso’n nyrs gofrestredig, rydw i wedi gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau gofal megis gofal llawfeddygol yn y sector acíwt, gan symud ymlaen wedyn i arbenigo mewn gofal lliniarol mewn Hosbis leol yn Wrecsam. Mae gennyf ddiddordeb mawr mewn gofal diwedd oes – dyma faes nyrsio yr hoffwn ymchwilio ymhellach iddo.
Mae gweithio ‘ar lawr gwlad’ wedi fy ngalluogi i ennill gwybodaeth a dealltwriaeth sydd wedi
cyfoethogi fy sgiliau clinigol, yn ogystal â’m galluogi i ddeall profiadau darpar fyfyrwyr nyrsio, a chyda hyn rydw i’n cydnabod pa mor bwysig yw rhoi cymorth er mwyn annog nyrsys y dyfodol i ddathlu eu nodweddion unigol a chyrraedd eu potensial.
Mae addysgu nyrsys wastad wedi bod o ddiddordeb ysol imi. Wrth fyfyrio ar fy nghyfnod fel myfyriwr nyrsio, rydw i’n cofio rhai o’r heriau a oedd yn fy wynebu. Ond yn sgil y cymorth a gefais gan fy athrawon, roeddwn yn credu y gallwn gyflawni unrhyw beth y rhoddwn fy mryd arno. Mae’r meddylfryd hwn wedi aros gyda mi yn fy ngyrfa, ac yn awr braint yw cael trosglwyddo hyn i’r genhedlaeth nesaf. Rydw i newydd ddechrau fy nghwrs Tystysgrif Addysg i Raddedigion ym Mhrifysgol Wrecsam, a fydd yn fy nghynorthwyo i ddatblygu’n athro arloesol. Rydw i’n edrych ymlaen at ddysgu ffyrdd newydd o addasu fy sesiynau addysgu i’w llawn botensial, gan fynd ati ar yr un pryd i ennill gwybodaeth a dealltwriaeth werthfawr o’r dystiolaeth sy’n ategu ymarfer addysgu.
Anrhydeddau a Gwobrau
Dyddiad | Teitl | Corff Dyfarnu |
---|---|---|
2020 | 1st Class Honors Degree in Adult Nursing | Prifysgol Bangor |
Rhaglenni/ Modiwlau wedi'u Cydlynu
Teitl | Pwnc |
---|---|
Developing the Evidence Based Practitioner | NUR515 |
Innovations in Practice | NUR616 |