Mae Natalie yn ddarlithydd mewn Troseddeg ac mae’n ymgymryd â gradd PhD ar hyn o bryd. Mae ei hymchwil PhD yn archwilio sut y mae merched awtistig yn creu ac yn datblygu cyfeillgarwch yn ystod blaenlencyndod.
Cyn mynd i’r afael â’i gradd PhD, arferai Natalie weithio fel ymarferydd arbenigol mewn ysgol i blant awtistig. Yn y fan honno y taniodd ei diddordeb yn y maes, wrth iddi sylwi bod llawer llai o ferched yn cael eu diagnosio ag awtistiaeth o gymharu â bechgyn; a bod llai o ferched, o’r herwydd, yn cael gafael ar ddarpariaethau arbenigol.
Ar hyn o bryd, mae Natalie yn addysgu troseddeg ac mae ganddi ddiddordeb ysol mewn niwroamrywiaeth yn y system cyfiawnder troseddol.
Anrhydeddau a Gwobrau
Dyddiad |
Teitl |
Corff Dyfarnu |
2023 |
Cymrodoriaeth AU Ymlaen |
AU Ymlaen |
2022 |
Cymrawd Cyswllt AU Ymlaen |
AU Ymlaen |
Cyflogaeth
Cyflogwr |
Swydd |
Dyddiad |
Prifysgol Edge Hill |
Cynorthwyydd addysgu graddedig |
2021 - 2024 |
Addysg
Institution |
Sefydliad |
Pwnc |
Edge Hill University |
Gradd Baglor mewn Gwyddoniaeth |
Dadansoddiad Seicolegol o Ymddygiad Troseddol |
Edge Hill University |
Meistri
|
Seicoleg
|
Gweithgareddau Allgymorth
Teitl |
Disgrifiad |
Merched Awtistig a Chyfeillgarwch |
Darlith gyhoeddus gerbron Cymdeithas Estyn Prifysgol Southport yn crynhoi canfyddiadau fy ymchwil PhD. |
Merched Awtistig a Chyfeillgarwch |
Cyflwynwyd fy ymchwil PhD fel rhan o’r gynhadledd ‘Inspiring Inclusion’ a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Salford. |
Merched Awtistig a Chyfeillgarwch |
Trosolwg o’m hymchwil a gyflwynwyd gerbron myfyrwyr MA Astudiaethau Awtistiaeth ym Mhrifysgol Edge Hill. |
Awtistiaeth yn y System Cyfiawnder Troseddol |
Cyflwynodd drosolwg o’r heriau sy’n wynebu troseddwyr awtistig wrth iddynt fynd trwy’r system cyfiawnder troseddol – rhoddwyd y cyflwyniad hwn gerbron myfyrwyr MA Astudiaethau Awtistiaeth ym Mhrifysgol Edge Hill. |
Adeiladu Cymunedau Ymchwilwyr Ôl-radd i Wella eich Ymchwil: Trafodaeth Banel |
Bu’n aelod o’r panel i drafod y manteision sy’n perthyn i adeiladu cymunedau ymchwilwyr ôl-radd ledled prifysgolion a disgyblaethau. |