Peter Ellis-Tongwiis
Rwy'n Wyddonydd Biofeddygol sydd wedi cofrestru gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (CPIG). Mae gen i radd Baglor mewn technoleg Labordy Meddygol (KNUST-Ghana) a gradd Meistr mewn Gwyddor Fiofeddygol (Prifysgol Caer).
Cyn mynd ymlaen ymhellach gyda'm haddysg ym Mhrifysgol Caer, gweithiais fel gwyddonydd biofeddygol am dros 4 blynedd mewn gwahanol unedau h.y. trallwysiad gwaed a haematoleg, biocemeg, histoleg a microbioleg. Rwyf felly'n hyfedr mewn ystod eang o egwyddorion, technegau, ac offerwaith labordy
Roedd fy PhD yn archwilio sut all newidiadau mewn bio-farcwyr cleifion canser y Bledren fod yn gysylltiedig â chanser sy'n dychwelyd. Edrychodd yr ymchwil yn benodol ar rôl bio-farcwyr llidiol, yn ogystal â marcwyr tyfiant a angiogenesis mewn canser y bledren sy'n dychwelyd ac yn cynyddu. Gan roi nifer o dechnegau arbenigol ar waith fel Cemeg Imiwnohisto, 'Bioplex immunoassays' ac 'ELISA', mae sawl biofarciwr ym meinweoedd gwaed, wrin a phledren cleifion yn cael eu harchwilio.
Ar hyn o bryd, rwy'n wyddonydd ymchwil biofeddygol yn Uned Academaidd Maelor y Gwyddorau Meddygol a Llawfeddygol ym mwrdd iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC). Rwyf hefyd yn Uwch Gymrawd Ymchwil ym Mhrifysgol Wrecsam lle rwy'n addysgu a hefyd yn arwain ar sawl modiwl.
Cyhoeddiadau
Blwyddyn | Cyhoeddiad | Math |
---|---|---|
2021 | Optimisation and validation of immunohistochemistry protocols for cancer research, [DOI] Ella-Tongwiis, Peter;Makanga, Alexander;Shergill, Iqbal;Hughes, Stephen Fôn |
Cyfnodolyn a Adolygwyd gan Gymheiriaid |
2020 | The role of antibody expression and their association with bladder cancer recurrence: a single-centre prospective clinical-pilot study in 35 patients, BMC Urology, 20. [DOI] Ella-Tongwiis, Peter;Lamb, Rebecca May;Makanga, Alexander;Shergill, Iqbal;Hughes, Stephen Fon |
Cyfnodolyn a Adolygwyd gan Gymheiriaid |
2020 | The role of phagocytic leukocytes following flexible ureterenoscopy, for the treatment of kidney stones: an observational, clinical pilots-study, EUROPEAN JOURNAL OF MEDICAL RESEARCH, 25. [DOI] Stephen Fôn Hughes;Alyson Jayne Moyes;Rebecca May Lamb;Peter Ella-tongwiis;Nana Yaa Frempomaa Snyper;Iqbal Shergill |
Cyfnodolyn a Adolygwyd gan Gymheiriaid |
Cymdeithasau Proffesiynol
Cymdeitha | Ariennir gan | Blwyddyn |
---|---|---|
Institute of Biomedical Science | Cymrawd | 01/01/2019 |
Health & Care Professions Council | Aelod cofrestredig | 01/11/2017 |
Addysg
Sefydliad | Cymhwyster | Pwnc | Blwyddyn |
---|---|---|---|
University of Chester | Ph.D | Gwyddor Fiofeddygol | 01/02/2015 - 01/04/2020 |
Kwame Nkrumah University of Science and Technology | BSc | Technoleg labordy meddygol | 01/09/2004 - 01/05/2008 |
University of Chester | MSc | Gwyddor Fiofeddygol | 01/11/2012 - 01/11/2013 |