Dr Rebecca Upton

Ymchwilydd Ôl-ddoethurol - Dinasyddion Ecolegol

Picture of staff member

Mae Rebecca yn ymchwilydd gyda’r prosiect Dinasyddion Ecolegol yn Wrecsam, a hefyd mae’n Uwch-ddarlithydd mewn Cynaliadwyedd a Newid Ymddygiadol, Cymdeithasol a Systemau yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen (CAT). Cwblhaodd Rebecca ei hymchwil PhD gyda’r Sefydliad Cynaliadwyedd Byd-eang ym Mhrifysgol Anglia Ruskin. Ymchwiliodd i arferion addysgegol radical ym Mhrosiect Eden, Cernyw, gan archwilio’r effaith drawsnewidiol a gaiff addysg ecolegol gynaliadwy. Wrth ymchwilio, mae’n cefnogi ymchwil ansoddol trwy gyfrwng dulliau creadigol i archwilio materion cymhleth. Yn ei haddysgu, mae’n mynd ar drywydd dulliau dysgu dychmygus, ymgorfforedig a tharfol. Mae ganddi brofiad helaeth yn y sector elusennau a hefyd mewn swyddi ymchwil, ymgynghori, rheoli a logisteg, yn cynnwys rolau’n ymwneud â digwyddiadau a’r celfyddydau.

Prosiectau Ymchwil

Teitl Rôl Disgrifiad Dyddiadau
Dinasyddion Ecolegol
Ôl-ddoethurol Mae Rebecca yn ymchwilydd ôl-ddoethurol yng Nghyfadran y Celfyddydau, Gwyddoniaeth a Thechnoleg ar gyfer prosiect ymchwil pwysig sy’n werth £3.2m a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a Gwyddorau Ffisegol (EPSRC) oddi mewn i raglen Dinasyddiaeth Ecolegol y brifysgol (2023-2027). Mae’r rhaglen hon yn ymchwilio i ddulliau cynhwysol o ymdrin â gweithredu cadarnhaol dros yr hinsawdd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, gan adeiladu ymyriadau ac ymatebion a gaiff eu harwain gan ddefnyddwyr ac asiantaethau ar gyfer unigolion, cymunedau a sefydliadau, er mwyn grymuso arferion cynaliadwy. Mae prosiect y Rhwydwaith Dinasyddion Ecolegol+ yn hyrwyddo cyfleoedd a fydd yn galluogi pawb i fod yn Ddinasyddion Ecolegol trwy gyfrwng cymdeithas gynaliadwy a chynhwysol ac fe’i cynhelir mewn cydweithrediad â’r Coleg Celf Brenhinol a Sefydliad Amgylchedd Stockholm Prifysgol Efrog.  2023 - 2027

Anrhydeddau a Gwobrau

Dyddiadau Teitl Corff Dyfarnu
2023 PhD – Cynaliadwyedd Cymdeithasol Prifysgol Anglia Ruskin
2015 MSc – Seicoleg Amgylcheddol Prifysgol Surrey
2013 BSc (Anrh) – Dadansoddeg Busnes Prifysgol Caint

Cymdeithasau Proffesiynol

Cymdeitha Ariennir gan
Royal Society for the Arts Cymrawd
Schumacher Institute Cymrawd Nodedig