Rhiannon Griffiths-Williams
Darlithydd Nyrsio
Bu imi gwblhau fy hyfforddiant nyrsio cychwynnol ym Mhrifysgol Bangor yn 2000, gan symud ymlaen i astudio yn Prifysgol Wrecsam ar gyfer fy BSc Gwyddor Iechyd (Anrh.),
Diploma i Raddedigion (Ymarfer Arbenigol; nyrsio practis) ac MSc Gwyddor Iechyd.
Mae fy nghefndir clinigol yn cynnwys naw mlynedd yn gweithio ym meysydd gofal coronaidd a dibyniaeth fawr feddygol, ac yna deng mlynedd fel nyrs practis. Ar ôl cwblhau cymhwyster V300 presgripsiynu anfeddygol, roeddwn yn gallu ei ddefnyddio fel nyrs ar gyfer clinigau mân anhwylderau, rheoli clefydau cronig, iechyd teithwyr ac atal cenhedlu.
Fy rôl ddiweddaraf oedd fel nyrs cyswllt iechyd ar gyfer gwasanaeth anableddau dysgu oedolion, lle'r oeddwn yn gweithio ochr yn ochr â meddygfeydd teulu i gynyddu mynediad at archwiliadau iechyd. Roedd fy nhraethawd estynedig ar gyfer fy MSc yn edrych ar gydraddoldeb ym maes gofal iechyd i oedolion ag anableddau dysgu.
Mae gennyf dri o blant sy’n fy nghadw’n brysur iawn y tu allan i’r gwaith.