Richard Lewis

Technegydd Gwyddor Chwaraeon a Chymorth Myfyrwyr

Picture of staff member

Ymunodd Richard â’r Brifysgol yn 2018 fel Cynorthwyydd Myfyrwyr a Thechnegydd Gwyddorau Chwaraeon ar gyfer yr adran. Mae’n gyfrifol am gynnal safonau uchel y Labordai Chwaraeon a Gwyddorau Ymarfer a rhoi cymorth ychwanegol i fyfyrwyr.

Ar hyn o bryd, mae Richard yn astudio PhD mewn Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer. Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar strategaethau adfer ar ôl ymarfer corff, yn benodol felly strategaethau cywasgu ac oeri.

Cyn iddo ymuno â Phrifysgol Wrecsam, cwblhaodd Richard radd BSc (Anrhydedd) mewn Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer ym Mhrifysgol Edge Hill, ac aeth yn ei flaen i gwblhau MSc mewn Seicoleg Chwaraeon ac Ymarfer ym Mhrifysgol John Moores Lerpwl.

Ar ôl gorffen ei radd, bu Richard yn ymchwilio ym Mhrifysgol John Moores Lerpwl. Roedd ei ymchwil yn cynnwys amryfal brosiectau a aeth ati i archwilio strategaethau hyfforddi ac adfer mewn chwaraeon ysbeidiol. Roedd ei ymchwil yn cynnwys prosiect ar y cyd ag UEFA, a gyhoeddwyd yn 2020, lle’r aethpwyd ati i archwilio mynychder gemau penodol mewn pêl-droed ieuenctid.

Yn ychwanegol at ei amser yn ymchwilio, mae Richard hefyd yn brofiadol o ran rhoi cymorth Gwyddor Chwaraeon Gymhwysol i nifer o dimau chwaraeon proffesiynol, yn cynnwys Clwb Pêl-droed Lerpwl.

Prosiectau Ymchwil

Teitl Rôl Disgrifiad Blwyddyn
Yr effaith a gaiff dillad cywasgu ac oeri ar adfer ar ôl ymarfer corff. Ymchwilydd

Mae dillad cywasgu yn ddull a ddatblygwyd yn ddiweddar. Dywedir bod dillad cywasgu yn helpu’r corff i adfer trwy leihau chwydd yn y cyhyrau, trwy gynyddu llif gwaed i’r llecyn a gaiff ei gywasgu a thrwy leihau niwed/llid yn y cyhyrau. Er gwaethaf y manteision awgrymedig sy’n perthyn i ddillad cywasg o ran helpu’r corff i adfer, ni cheir argymhellion ymarferol clir ar gyfer eu defnyddio gan fod canlyniadau’r astudiaethau’n amrywio oherwydd gwahaniaethau yn y cyfranogwyr, y math o ymarfer corff dan sylw, gwahaniaethau o ran gwasgedd a hyd y cyfnod y defnyddiwyd dillad cywasgu. Ymhellach, fel arfer mae athletwyr yn defnyddio gwahanol strategaethau ar y cyd i gynorthwyo’u cyrff i adfer, e.e. cywasgu ac oeri – ond ni wyddys beth yw’r effeithiau.

10/2022
Astudiaeth Penio UEFA: Mynychder penio mewn pêl-droed plant a phobl ifanc mewn wyth gwlad yn Ewrop. Ymchwilydd Ymchwilio i fynychder penio mewn pêl droed plant a phobl ifanc. 08/2017 - 08/2019
Yr effaith a gaiff rhoi cryotherapi i’r holl gorff ar adfer ar ôl gwneud ymarfer corff ysbeidiol dwys Ymchwilydd Ymchwilio i effeithiau Cryotherapi fel therapi adfer ar ôl ymarfer corff dwys. Ymhellach, dadansoddi perfformiad ymarfer corff a phrosesau seicolegol cyn ac ar ôl ymarfer corff ysbeidiol dwys a Chryotherapi dilynol. 08/2017 - 08/2018

Cydweithwyr

Enw Rôl

Cwmni

Dr Chelsea Batty Prif ymchwilydd Prifysgol Wrecsam
Dr David Low Goruchwyliwr Prosiect

Prifysgol John Moores Lerpwl

Dr Rob Erskine Goruchwyliwr Prosiect

Prifysgol John Moores Lerpwl

Athro Barry Drust Goruchwyliwr Prosiect

Prifysgol Birmingham

Cyhoeddiadau

Blwyddyn Cyhoeddiad Math
2021 Engagement in familiarisation sessions of the 15-m multi-stage fitness test on estimated VO2max scores, Journal of Sport Sciences. 
Chelsea Moore;Richard Lewis;Christopher Wallace;Liam Mansell
Cyhoeddiad Cynhadledd
2020 The UEFA Heading Study: Heading incidence in children’s and youth’ football (soccer) in eight European countries Scandinavian Journal of Medicine and Science in Sports. [DOI] Cyfnodolyn a Adolygwyd gan Gymheiriaid

Cymdeithasau Proffesiynol

Cymdeitha Ariennir gan
British Association of Sport & Exercise Sciences (BASES) Aelod
Higher Education Academy Cymrawd

Pwyllgorau

Enw Dyddiad
Pwyllgor Moeseg Ymchwil 09/2023

Cyflogaeth

Cyflogwr Swydd

Dyddiad

Prifysgol Wrecsam Technegydd Gwyddor Chwaraeon a Chymorth Myfyrwyr 2018 - 2024

Prifysgol John Moores Lerpwl

Cynorthwy-ydd Ymchwil

2017 - 2019

Education

Institution Qualification Subject
Prifysgol Edge Hill Baglor Gwyddoniaeth (BSc) Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff (Cymhwysol)
Prifysgol John Moores Lerpwl Meistr mewn Gwyddoniaeth (MSc) Chwaraeon ac Ymarfer Corff Ffisioleg