Dr Saba Ishaq

Darlithydd mewn Cyfrifeg a Chyllid

Picture of staff member

Mae Dr Saba Ishaq yn dysgu Dadansoddeg Busnes, Hanfodion Busnes a Chyllid, Busnes Rhyngwladol a Masnach ac Adrodd Ariannol. Cwblhaodd ei PhD mewn Cyfrifeg ym Mhrifysgol Aston yn 2023, gyda thraethawd hir ar fynediad BBaChau at gyllid bancio Islamaidd ym Mhacistan. Cyn ymuno gyda Phrifysgol Wrecsam yn 2025 fel darlithydd mewn Cyfrifeg a Chyllid, gweithiodd fel Darlithydd Cyswllt mewn Cyfrifeg ym Mhrifysgol Coventry o 2023 i 2025.

Diddordebau Ymchwil

Mae fy niddordebau ymchwil yn canolbwyntio ar gyllid BBaCh, bancio Islamaidd, rhywedd a strwythurau cymdeithasol, gyda ffocws arbennig ar arferion cyfrifo ac adrodd ariannol BBaChau a phrofiadau entrepreneuriaid benywaidd, yn enwedig sut mae dynameg rhywedd yn dylanwadu ar fynediad at gyllid a gwneud penderfyniadau.

Anrhydeddau a Gwobrau

Dyddiad Teitl Corff Dyfarnu
2019 Dean’s Scholarship Aston University

Cymdeithasau Proffesiynol

Cymdeitha Ariennir gan
Academi Addysg Uwch Cymrawd

Cyflogaeth

Cyflogwr Swydd Blwyddyn
Coventry University Darlithydd Cynorthwyol 2023 - 2025
Prifysgol Wrecsam Darlithydd 2025 -

Addysg

Sefydliad Cymhwyster Blwyddyn
Aston University PhD 2019 - 2023

Adolygydd neu Olygydd Cylchgronau

Enw'r Cyfnodolyn Gweithgaredd
Qualitative Research in Financial Markets Adolygydd Cymheiriaid

Diddordebau Addysgu

Mae fy niddordebau addysgu yn cwmpasu cyfrifo, cyllid, llywodraethu corfforaethol, moeseg busnes, cynaliadwyedd, a dulliau ymchwil. Rwyf wedi dysgu ac arwain modiwlau mewn meysydd fel llywodraethu, moeseg, dadansoddi ariannol, cyllid rhyngwladol, adrodd ariannol, cyfrifo cynaliadwy, a dylunio ymchwil.  Ochr yn ochr â hyn, rwyf yn goruchwylio prosiectau a thraethodau hir myfyrwyr mewn cyfrifo, cyllid, a buddsoddi.

Rhaglenni/Modiwlau wedi'u Cydlynu

Teitl Pwnc
Business Analytics BUS495
International Business and Trade BUS5A11
Financial Reporting and Analysis BUS694
Fundamentals of business and Finance BUS397
International Financial Markets and Banking BUS7D2
Corporate Finance and Financial Management BUS7D1