Dr Sarah Dubberely
Prif Ddarlithydd / Arweinydd Proffesiynol – Peripatetig, Cyfiawnder Troseddol ac Ieuenctid
Dechreuodd Sarah ei gyrfa yn y maes Cyfiawnder Ieuenctid. Bu’n Gydlynydd Mentor Tîm Troseddau Ieuenctid Swydd Gaer a’r Ffederasiwn Ieuenctid, gan recriwtio, hyfforddi a chefnogi gwirfoddolwyr i weithio gyda throseddwyr ifanc ar draws y sir.
Ym mis Ebrill 2010, dyfarnwyd PhD i Sarah am draethawd ymchwil a archwiliodd ganfyddiad pobl ifanc o raglen Dug Caeredin a’u hymgysylltiad â hi, ac yn achos y rheini mewn lleoliadau diogel, goblygiadau’r cyfranogiad hwn ar gyfer eu hadsefydlu. Fel rhan o hyn, bu Sarah yn ymgysylltu’n uniongyrchol â 6 sefydliad diogel gwahanol ledled Cymru a Lloegr.
Roedd Sarah yn ddeiliad grant ac yn gyd-ymchwilydd, a oedd yn ymwneud â gwerthusiad cyllid Llywodraeth Cynulliad Cymru o wasanaethau digartrefedd i oedolion yn gadael carchar ag anghenion cymhleth.
Mae Sarah wedi goruchwylio nifer o draethodau ymchwil PhD yn llwyddiannus hyd at eu cwblhau, o Ddigartrefedd, Achosion Gofal Plant, Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a diwylliant sy’n ystyriol o drawma o fewn Cyfiawnder Ieuenctid. Mae nifer o fyfyrwyr hefyd i fod i gyflwyno yn y 12 mis nesaf. Mae Sarah yn arholwr allanol PhD profiadol, wedi iddi arholi ar draws y DU mewn ystod o bynciau o gyfiawnder ieuenctid, carcharu a digartrefedd.
Mae Sarah yn cynnal cysylltiadau cryf â Chyfiawnder Ieuenctid, ac yn aelod o Bwyllgor Cyswllt a Rhwydwaith Academaidd y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid yn ogystal â Bwrdd HWB Doeth Cymru. Yn 2022, roedd Sarah yn rhan o dîm o academyddion a adolygodd ac a ail-ddilysodd Meincnodau Pwnc QAA ar gyfer Troseddeg, gan gymryd rhan yn bennaf yn yr edefyn cyflogaeth.
Mae Sarah yn aelod o Fwrdd Ymddiriedolwyr Canolfan Merched Gogledd Cymru ac mae'n Academydd etholedig ar Fwrdd Llywodraethwyr Prifysgol Wrecsam.
Prosiectau Ymchwil
Teitl | Rôl | Disgrifiad | Dyddiad |
---|---|---|---|
Gwerthusiad o'r cynllun peilot prifysgol sy’n ystyriol o Drawma a Phrofiadau Niweidiol (TraCE) |
Tîm Gwerthuso |
Mae gan bawb ran i’w chwarae wrth i Gymru ddod yn genedl ACE (Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod) ac sy’n ystyriol o drawma (TrACE). Mae Hyb ACE Cymru wedi datblygu pecyn cymorth TrACE. Mae’n cynnwys amrywiaeth o offer i helpu unrhyw unigolyn, sefydliad, sector, neu system i fyfyrio ar eu harferion presennol, a datblygu strategaethau i gryfhau ACE a dulliau sy’n ystyriol o drawma. Mae Hyb ACE Cymru yn gweithio gydag amrywiaeth o sefydliadau ar draws gwahanol sectorau i dreialu’r pecyn cymorth gyda’r bwriad o’i ddysgu, ei siapio a’i addasu ar gyfer eraill. Ym Mhrifysgol Wrecsam, ni yw’r sefydliad peilot ar gyfer y sector addysg uwch ledled Cymru a Lloegr. Mae’n bwysig i ni ddeall a dysgu o’r dulliau rydym wedi’u defnyddio hyd yn hyn a nodi unrhyw effeithiau cynnar. Bydd cyfathrebu a rhannu’r rhain yn cefnogi sefydliadau eraill ar draws y sector ehangach gyda’u taith, yn ogystal â’n helpu ni i gadw’r momentwm i fynd a gwreiddio dulliau gweithredu sy’n ystyriol o TrACE ar draws y brifysgol a’r system gyfan. Nod y gwerthusiad hwn yw lledaenu’r gwersi a ddysgwyd a chyfres o argymhellion i arwain prifysgolion eraill a chymunedau ehangach wrth iddynt ddatblygu eu dull sy’n ystyriol o TrACE. |
01/2023 - 07/2023 |
Goruchwyliaeth fyfyriol rhwng cymheiriaid i gefnogi lles mewn perthynas â straen trawmatig eilaidd/trawma mechnïol ymhlith gweithwyr yr heddlu |
Cyd-ymchwilydd |
Bydd yr ymchwil yn archwilio gwerth goruchwyliaeth rhwng cymheiriaid ar wella lles yr heddlu. Cyflawnir hyn drwy ddefnyddio cyfweliadau un-i-un ansoddol gyda staff yr heddlu yn seiliedig ar effeithiolrwydd y model myfyriol rhwng cymheiriaid. Rydym yn ceisio gwerthuso’r model hwn o fewn Heddlu Gogledd Cymru i gynorthwyo diwylliant perthynol, a ddatblygwyd o ymchwil gyfyngedig ar ddylanwad trawma mechnïol a straen trawmatig eilaidd ar staff yr heddlu. | 01/2024 - 01/2025 |
Cyhoeddiadau
Blwyddyn | Cyhoeddiadau | Math |
---|---|---|
2020 | Preventing homelessness among women prison leavers in Wales, EUROPEAN JOURNAL OF CRIMINOLOGY. [DOI] Gorden, Caroline; Lockwood, Kelly; Madoc-Jones, Iolo; Dubberley, Sarah; Hughes, Caroline; Washington-Dyer, Karen; Wilding, Mark A.; Ahmed, Anya |
Cyfnodolyn a Adolygwyd gan Gymheiriaid |
2020 | Imaginary Homelessness Prevention with Prison Leavers in Wales, Social Policy and Society, 19. [DOI] Madoc-Jones, Iolo; Ahmed, Anya; Hughes, Caroline; Dubberley, Sarah; Gorden, Caroline; Washington-Dyer, Karen; Lockwood, Kelly; Wilding, Mark |
Cyfnodolyn a Adolygwyd gan Gymheiriaid |
2020 | Preventing homelessness among women prison leavers in Wales, [DOI] Gorden, Caroline; Lockwood, Kelly; Madoc-Jones, Iolo; Dubberley, Sarah; Hughes, Caroline; Washington-Dyer, Karen; Wilding, Mark; Ahmed, Anya |
Cyfnodolyn a Adolygwyd gan Gymheiriaid |
2019 | Rethinking Preventing Homelessness amongst Prison Leavers, [DOI] Madoc-Jones, Iolo; Hughes, Caroline; Gorden, Caroline; Dubberley, Sarah; Washington-Dyer, Karen; Ahmed, Anya; Lockwood, Kelly; Wilding, Mark |
Cyfnodolyn a Adolygwyd gan Gymheiriaid |
2018 | Rethinking preventing homelessness amongst prison leavers, EUROPEAN JOURNAL OF PROBATION, 10. [DOI] Madoc-Jones, Iolo; Hughes, Caroline; Gorden, Caro; Dubberley, Sarah; Washington-Dyer, Karen; Ahmed, Anya; Lockwood, Kelly; Wilding, Mark |
Cyfnodolyn a Adolygwyd gan Gymheiriaid |
2017 | 'A place to call our own: On the geographical and social marginalisation of homeless people, [DOI] Hughes, Caroline; Madoc-Jones, Iolo; Parry, Odette; Dubberley, Sarah |
Cyfnodolyn a Adolygwyd gan Gymheiriaid |
2017 | A place to call our own: perspectives on the geographical and social marginalisation of homeless people, JOURNAL OF ADULT PROTECTION, 19. [DOI] Hughes, Caroline; Madoc-Jones, Iolo; Parry, Odette; Dubberley, Sarah |
Cyfnodolyn a Adolygwyd gan Gymheiriaid |
2017 | A Literature Review of Transgender People in Prison: An ‘invisible’ population in England and Wales, Gorden, Caroline; Hughes, Caroline; Astbury-Ward, Edna M; Dubberley, Sarah |
Cyfnodolyn a Adolygwyd gan Gymheiriaid |
2016 | Encouraging signs: A qualitative evaluation of Review and Congratulate Panels in the Wrexham Youth Justice Team, Hughes, Caroline; Madoc-Jones, Iolo; Washington-Dyer, Karen; Dubberley, Sarah; Gorden, Caroline |
Cyhoeddiad Arall |
2015 | "Dangerous conversations": a case study involving language, EQUALITY DIVERSITY AND INCLUSION, 34. [DOI] Madoc-Jones, Iolo; Jones, Dawn; Parry, Odette; Dubberley, Sarah |
Cyfnodolyn a Adolygwyd gan Gymheiriaid |
2015 | Wake-up call: Achieving compliance with Youth Justice Orders, PROBATION JOURNAL, 62. [DOI] Dubberley, Sarah; Jones, Iolo Madoc; Parry, Odette; Graham, Karen; Roscoe, Karen |
Cyfnodolyn a Adolygwyd gan Gymheiriaid |
2015 | "Dangerous conversations”: a case study involving language, [DOI] Madoc-Jones, Iolo; Jones, Dawn; Parry, Odette; Dubberley, Sarah |
Cyfnodolyn a Adolygwyd gan Gymheiriaid |
2015 | Wake up Call: Achieving Compliance with Youth Justice Orders', [DOI] Dubberley, Sarah; Madoc-Jones, Iolo; Parry, Odette; Graham, Karen; Roscoe, Karen D |
Cyfnodolyn a Adolygwyd gan Gymheiriaid |
2014 | From celebrity criminal to criminal celebrity: the celebrification of sex crime in the UK, Madoc-Jones, Iolo; Gorden, Caroline; Dubberley, Sarah; Hughes, Caroline |
Cyfnodolyn a Adolygwyd gan Gymheiriaid |
2014 | The Reframing of Methodology: Revisiting a PhD Study, [DOI] Dubberley, Sarah |
Cyfnodolyn a Adolygwyd gan Gymheiriaid |
2012 | Homelessness in Wrexham: Contemporary patterns and profiles of homeless people with complex needs, Hughes, Caroline; Dubberley, Sarah; Anderson, Michael; Parry, Odette |
Cyhoeddiad Arall |
2011 | Mending fences: reparation and the reorientation of young people in the secure estate, Dubberley, Sarah; Parry, Odette; Baker, Sally-Ann |
Arall |
2010 | A Qualitative Study of The Duke of Edinburgh’s Award and Young Offenders in the Secure Estate, Dubberley, Sarah |
Cyhoeddiad Arall |
2010 | “Something We Don’t Normally Do”: A Qualitative Study of the Duke of Edinburgh’s Award in the Secure Estate, Dubberley, Sarah; Parry, Odette |
Arall |
Anrhydeddau a Gwobrau
Dyddiad | Teitl | Corff Dyfarnu |
---|---|---|
07-06-2010 | PhD | Prifysgol Cymru |
Cymdeithasau Proffesiynol
Cymdeitha | Ariennir gan |
---|---|
BCI Cymru | HWB DOETH |
Canolfan Merched Gogledd |
Bwrdd Ymddiriedolwyr |
BCI | Rhwydwaith Cyswllt Academaidd |
Pwyllgorau
Enw | Dyddiad |
---|---|
Bwrdd y Gyfadran |
2016 |
Bwrdd y Llywodraethwyr | 2023 |
Bwrdd Ymddiriedolwyr Canolfan Merched Gogledd Cymru | 2022 |
Strategaeth a Chyllid | 2024 |
Addysg
Sefydliad | Cymhwyster | Pwnc |
---|---|---|
Prifysgol Cymru | PhD | Doethur mewn Athroniaeth |
Prifysgol Bangor |
BA (Anrh) Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol |
Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol |
Prifysgol Bangor |
MA Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol |
Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol |
Rhaglenni/Modiwlau wedi'u Cydlynu
Teitl | Pwnc |
---|---|
Work Based Learning (Criminal Justice) | SOC576 |
Working in Custodial and Community Settings with People Who Have Offended | SOC571 |
Youth Justice | SOC660 |
Contemporary Crime and Justice | SOC735 |
Work Based Learning (Law) | LAW503 |
Working in Community and Custodial Settings with People who have Offended | SOC571 |
Negotiated Learning | SOC734 |
Criminal Law | SOC575 |
Youth Justice | SOC660 |
Myfyrwyr Ôl-raddedig Diweddar
Blwyddyn | Enw | Math o Radd | Teitl Traethawd Ymchwil |
---|---|---|---|
2023 | Tegan Brierley-Sollis | PhD |
Llywio Tonnau Tosturi Atebol: Astudiaeth ansoddol o'r diwylliant ystyriol o drawma sy’n datblygu o fewn Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Gogledd Cymru |
2020 | Wayne Cronin-Wojdat | PhD |
O’r anffurfiol i’r disgyblu: Plismona ‘niwsans gan ieuenctid’ ac ymddygiad gwrthgymdeithasol pobl ifanc ers canol y 1990au: Astudiaeth Ansoddol o safbwyntiau swyddogion heddlu |
2020 | Emma Palmer | PhD |
‘Aberth cyfiawnder wrth allor cyflymder’: Astudiaeth Ansoddol sy’n Archwilio Gweithredu’r Amserlen 26 Wythnos mewn Achosion Gofal |
2020 | Karen Southern | PhD |
Eich damnio’r naill ffordd neu’r llall - Defnyddio Lleoliadau Gofal Dydd ar gyfer Plant Ifanc: Astudiaeth Ansoddol o Gyfrifon Defnyddwyr Gwasanaeth, Darparwyr Gwasanaeth a Llunwyr Polisi. |