Dr Shubha Sreenivas
Darlithydd mewn Seicoleg Fiolegol
- Ystafell: M308
- Ffôn: 01978 294401
- E-bost: Shubha.Sreenivas@glyndwr.ac.uk
Fe wnes i fy PhD ym Mhrifysgol Bangor, ac roedd fy ymchwil yn canolbwyntio ar hunan-briodoli ymddangosiad yr wyneb fel rhagfynegydd cynnar o welliant mewn cyflwr hwyliau isel. Roedd hyn yn unol â’m gwaith ymchwil clinigol blaenorol (dan arweiniad yr Athro David Linden, Prifysgol Caerdydd) oedd yn ceisio deall y gweithgaredd ymddygiadol a niwral sy’n gysylltiedig ag anhwylderau hwyliau.
Wedi cwblhau fy PhD yn 2016, gweithiais gan fwyaf gyda Gwasanaethau Seicoleg Oedolion Hŷn ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) fel Seicolegydd Cynorthwyol (SC). Yn y rôl yma, roeddwn yn cynnal asesiadau niwroseicolegol i gefnogi diagnosis dementia, gan weithio gyda’r Timoedd Iechyd Meddwl Cymunedol. Cefais gyfle hefyd i weithio fel rhan o’r timoedd Iechyd Meddwl Oedolion i gynorthwyo gydag asesiad ar gyfer Cyflyrau Sbectrwm Awtistiaeth, a chysgodi Seicolegydd Clinigol yn Uned Strôc Ysbyty Glan Clwyd. Roedd y cyfleodd yma i gefnogi pobl hefyd yn caniatáu imi gymhwyso a dysgu mwy am seicoleg glinigol a niwroseicoleg. Fel Seicolegydd Cynorthwyol cefais gyfle prin i ymgymryd ag ymarfer mapio ar Ynys Môn ar anghenion anaddysgol disgyblion ar ddatganiad (2015-16), dan arweiniad Dr Susan Hamilton, Cyfarwyddwr Clinigol Gwasanaethau Plant Ardal y Gorllewin, BIPCC, ac adrodd ar hynny i Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Cyn cychwyn ar fy PhD, gweithiais fel Rheolwr Data yn Uned Treialon Clinigol Bangor. Yn y rôl yna, roeddwn yn cydlynu a goruchwylio’r gwaith o reoli data treialon aml-ganolfan amrywiol yn y DU, a datblygu gweithdrefnau gweithredu safonol ar gyfer rheoli data ar gyfer yr uned. Yn ychwanegol at hyn, mae gennyf ystod o brofiad gwaith yma yn y DU ac yn India, gan gynnwys dysgu, cysylltiadau cyhoeddus a newyddiaduriaeth. Rwy’n cefnogi elusennau, gan gynnwys gweithio gyda phobl ddigartref drwy gynnig cefnogaeth ymarferol ac uwchsgilio. Rwy’n mwynhau darllen a dysgu sgiliau newydd, boed hynny’n grefftau cartref neu ddawnsio. Yn fwy diweddar rydw i wedi dod i fwynhau garddio, ac mae hyn yn fy helpu i gadw fy nhraed ar y ddaear.
Rwy’n cefnogi’r Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (RNLI) gyda gweithgareddau codi arian (a gwirfoddoli fy ngŵr!) ac yn y gorffennol wedi gwirfoddoli gyda’r Ganolfan Ddydd yng Nghaergybi sy’n cefnogi pobl sy’n ddigartref i geisio am swyddi i oresgyn eu trafferthion. Yn fy amser hamdden ryw’n mwynhau darllen a choginio, ond mae teithiau cerdded natur/arfordirol yn galw pan fo’r tywydd yn braf. Rwyf hefyd yn mwynhau hwylio (pan fo’r gwynt islaw 5 milltir môr) a chaiacio. Mae bod yn griw llong i fy ngŵr wrth hwylio o amgylch Ynys Môn yn dal i fod yn un o’m llwyddiannau gorau! Rydw i hefyd yn mwynhau gwneud gwelliannau i’r cartref, ac yn gallu mynd dros ben llestri ar ôl gwylio Homes Under the Hammer.
Prosiectau Ymchwil
Teitl | Rôl | Disgrifiad | Dyddiad |
---|---|---|---|
Therapi anifeiliaid anwes yn defnyddio cŵn i reoli straen a gorbryder ymysg myfyrwyr prifysgol | Prif Ymchwilydd |
Yn hanesyddol, rydym wedi bod yn defnyddio anifeiliaid anwes fel therapi ategol ac mae wedi cael ei gydnabod yn ffurfiol ers y 1960au. Ers hynny, mae ei werth wedi ei gydnabod yn ffurfiol wrth reoli gofid emosiynol unigolion, ac fe ymchwiliwyd i therapi anifeiliaid fel ymyriad ar gyfer lleihau straen, rheoli gorbryder, a chynorthwyo gyda thrawma. Mae straen yn nodwedd gyffredin mewn bywyd, ond yn arbennig ymysg myfyrwyr prifysgol sy'n astudio addysg uwch ac ymdopi â bywyd fel oedolion ar yr un pryd. Felly, mae gan yr ymchwil hwn oblygiadau i Gymru a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol oherwydd mae Cymru yn mesur ffyniant nid yn unig mewn cyfoeth, ond mewn llesiant cymdeithasol. Mae goblygiad i gynorthwyo myfyrwyr drwy leihau eu straen a gwella eu llesiant, sy'n cynnig cyfle gwell iddynt ymgysylltu â'u gwaith academaidd hyd eithaf eu gallu. Mae hyn hefyd yn ymwneud â dod o hyd i ffyrdd newydd a symlach o wella llesiant myfyrwyr. Archwiliodd yr astudiaeth y profiad o ymwneud â therapi cŵn ymysg myfyrwyr prifysgol. Gwirfoddolodd yr elusen Therapy Dogs Nationwidear yn yr astudiaeth hon gyda'u gwirfoddolwyr a'u cŵn therapi gwych. Roedd rhai meini prawf cynhwysiant ar gyfer yr astudiaeth yr oedd yn rhaid i'r cyfranogwyr eu bodloni. • Roedd yn rhaid i'r cyfranogwyr fod yn fyfyrwyr presennol ym Mhrifysgol Wrecsam • Roedd yn rhaid i'r cyfranogwyr fod yn 18 oed neu'n hŷn. Mae rhai meini prawf eithrio hefyd, ac os oedd y cyfranogwyr yn bodloni'r meini prawf hynny, ni allant gymryd rhan yn yr astudiaeth hon. • Ofn cŵn • Bod ag alergedd i gŵn neu flew cŵn. Mesurwyd lles y cyfranogwyr ynghylch eu profiadau positif a negatif, cyflwr a nodwedd eu gorbryder, a'r straen a welwyd cyn ac ar ôl mynychu sesiwn therapi cŵn anwes. Cynigwyd y sesiynau gyda chŵn therapi i grwpiau hyd at bump o bobl am 15-20 munud. Mae canfyddiadau'r astudiaeth yn dangos gostyngiad sylweddol mewn cyflwr a nodwedd gorbryder, profiad positif gwell a llai o brofiad negyddol o ran eu llesiant. Mae'r straen a welwyd hefyd wedi lleihau'n sylweddol ar ôl y sesiwn therapi anifail anwes. Gobeithiwn y bydd y canfyddiadau hyn yn cynnig ffyrdd arloesol a hygyrch i gynorthwyo myfyrwyr mwy bodlon sy'n mynd drwy addysg uwch. |
01/12/2022 - 31/12/2023 |
Hunan-briodoli ymddangosiad wyneb: Cydberthnasau iselder ac ymateb i ymyrraeth gynnar | Prif Ymchwilydd (ymchwil PhD) | Mae wynebau dynol yn naturiol ddifyr ac yn arddangos amrywiaeth o giwiau wyneb y gellir eu hadnabod yn gywir fel cyflwr hwyliau neu nodweddion cynhenid. Gelwir y broses hon o roi ystyr i ymddygiadau neu signalau a welwn yn briodoliad. Pan gaiff hyn ei gyfeirio at yr hunan, rydym yn gwneud hunan-briodoliadau a phan gaiff ei gyfeirio at eraill, rydym yn gwneud priodoliadau cymdeithasol. Mae ymchwil flaenorol yn dangos bod priodoliadau'n cael eu heffeithio gan hwyliau a chyflyrau llesiant, a nodweddion personoliaeth. Roedd y gwaith hwn yn cynnwys cyfres o ymchwil, ac un ohonynt oedd cydweithrediad a ddangosodd ostyngiad mewn cywirdeb mewn ciwiau wyneb yn dilyn disbyddu tryptoffan. Mae gweddill y gyfres ymchwil a gynhaliwyd fel rhan o'm PhD yn cynnwys y canlynol. 1) Archwilio rhagfynegwyr iselder. 2) Datblygu tasg briodoli gan ddefnyddio wyneb yr hunan ac eraill. 3) Dibynadwyedd y dasg briodoli newydd: Mae mesur priodoliadau ymddangosiad wyneb gan ddefnyddio wyneb yr hunan ac eraill yn ddull newydd. Roedd yn bwysig bod yr hunan-briodoliadau a phriodoliadau cymdeithasol yn cael eu mesur yn ystyrlon ac yn gallu cael eu cymharu'n hawdd. 4) Ymchwilio i'r cysylltiad rhwng hunan-briodoliadau a phriodoliadau cymdeithasol ymddangosiadau wyneb, â hwyliau, llesiant a niwrotiaeth unigolyn. Mae difrifoldeb cynyddol symptomau iselder y cyfranogwyr, llesiant hedonig sy'n lleihau a niwrotiaeth cynyddol, yn gysylltiedig â cham-briodoliadau'r hunan ac eraill, ond nid yw'n effeithio ar briodoliadau arsylwyr annibynnol. Dangosodd cyfranogwyr hefyd dafluniad cymdeithasol clasurol yn seiliedig ar y tebygrwydd rhwng ei hunan-briodoliadu a phriodoliadau cymdeithasol. Dangosodd triongliad o hunan-briodoliadau, priodoliadau cymdeithasol a phriodoliadau arsylwr fod y cambriodoliadau a ddangoswyd gan gyfranogwyr sy'n profi iselder, yn benodol ar gyfer priodoliadau positif, wrth gynnal priodoliadau negyddol cyson fel arsylwyr annibynnol. Fodd bynnag, mae hunan-briodoliadau yn fwy sensitif i hwyliau, llesiant a nodweddion cynhenid na phriodoliadau cymdeithasol. Cyfrifwyd anghysondebau rhwng hunan-briodoliadau sylfaenol i ddangos hunan-negyddiaeth gynyddol sy'n gysylltiedig â difrifoldeb cynyddol symptomau iselder, niwrotiaeth, a llesiant hedonig sy'n lleihau, yn ogystal â hunan-anghysondeb cynyddol gyda llesiant hedonig sy'n lleihau. 5) Ymchwilio i'r newidiadau hydredol (11 wythnos) o hunan-briodoliadau mewn cyfranogwyr sy'n dioddef o iselder clinigol. Dangosodd canfyddiadau'r astudiaeth fod difrifoldeb gostyngol symptomau iselder yn gorgyffwrdd â hunan-negyddiaeth a hunan-anghysondeb llai, a hunan-bositifrwydd cynyddol. Dangosodd hefyd fod cynnydd mewn hunan-bositifrwydd a gostyngiad mewn hunan-negyddiaeth yn yr wythnos gyntaf yn rhagweld gostyngiad yn nifrifoldeb symptomau iselder yn wythnos 11. 6) Ymchwilio i newid mewn hunan-briodoliad ar ôl 8 wythnos o ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar. Dangosodd canfyddiadau'r astudiaeth gynnydd mewn hunan-bositifrwydd ar ôl wyth wythnos o ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar; ymarfer sy'n canolbwyntio ar brosesu hunangyfeiriol heb farnu er mwyn cynyddu hunan-bositifrwydd. | 01/10/2012 - 30/09/2016 |
Archwilio newidiadau mewn hyder plant ysgol gynradd: defnyddio cŵn darllen, cŵn robotig, a darllen fel arfer | Prif Ymchwilydd | Mae datblygu sgiliau llythrennedd cryf mewn plant yn un o dargedau allweddol Cwricwlwm i Gymru, gyda phwyslais ar ddefnyddio technegau dysgu arloesol i wella sgiliau darllen plant. Archwiliodd yr astudiaeth hon brofiad plant a'u hathrawon o saith ysgol gynradd ledled Gogledd Cymru wrth ddefnyddio ci darllen, ci robotig, a darllen fel arfer i wella sgiliau darllen. Nod yr astudiaeth oedd archwilio a oedd y tri senario a ddefnyddiwyd ar gyfer darllen yn cynnig profiadau gwahanol i blentyn, wrth iddynt ddysgu darllen. Cymhwyswyd maen prawf dethol i blant fod yn gymwys i gymryd rhan yn yr astudiaeth a oedd yn cynnwys sgoriau darllen sylfaenol yn syrthio rhwng 85-90. Neilltuwyd plant cymwys i'r senario darllen penodol a disgwylid iddynt ddarllen am 10 munud y dydd am dri diwrnod yr wythnos. Cynlluniwyd i'r ymyrraeth barhau am un flwyddyn academaidd. Er mwyn casglu profiadau darllen, cynhaliwyd cyfweliadau lled-strwythuredig gyda sampl o chwech o blant a chwech o athrawon a oedd yn ymwneud â gweithgareddau darllen ym mhob un o'r tri senario. Tynnodd dadansoddid thematig sylw at themâu o hyder a llesiant gwell, a mwynhad cyffredinol o ddarllen ym mhob senario. Nododd plant yn darllen i gi a chi robotig eu bod yn teimlo'n hyderus ynglŷn â cheisio darllen llyfrau na fyddent yn ceisio eu darllen fel arall. Mwynhaodd plant ddarllen yn y tri senario hefyd, ac maent yn cael yr amser un-i-un hwnnw gydag athrawon hefyd. Roedd gan athrawon rai amheuon ynghylch dealltwriaeth plant pan nad ydynt yn cael eu cywiro wrth ddarllen ond maent yn gwerthfawrogi manteision o blant yn teimlo'n hyderus i roi cynnig ar ddarllen. Mae angen ymchwiliad meintiol pellach i werthuso gwelliant mewn sgiliau darllen yn gywir. | 01/06/2019 - 30/09/2020 |
Adolygiad systematig o'r broses ddad-gytrefol o fewn ymchwil niwroseicolegol | Prif Ymchwilydd | Mae dad-gytrefu yn ymwneud â datgymalu dylanwad strwythurau cytrefol. Mae ymwybyddiaeth gynyddol o'r angen i ddad-gytrefu seicoleg er mwyn sicrhau perthnasedd damcaniaeth ac ymarfer. Yn y cyd-destun hwn, gallai dad-gytrefu olygu bod yn gynhwysol o'r rhai sydd fel arall wedi'u hymylu neu heb eu cynrychioli'n ddamcaniaethol ac yn empirig. Mae niwroseicoleg yn dibynnu ar asesiadau y gall iaith a chefndir diwylliannol ddylanwadu arnynt. Ar hyn o bryd, mae'r asesiadau a'r ymarfer yn cael eu deall fel rhai sy'n ymylu ymhellach ac yn creu naratif o unigolion o gefndiroedd lleiafrifol fel rhai 'israddol'. Er mwyn newid safbwyntiau o'r fath a bod yn fwy cynhwysol o bob cefndir, mae angen newid yn y broses o ymdrin ag asesiadau niwroseicolegol, eu cynnal a'u cyfleu. Nod yr ymchwil hwn yw adolygu cyfnodolion niwroseicolegol yn systematig i ddeall cynnydd y broses ddad-gytrefu. Meini prawf cynhwysiant yw adolygu erthyglau ymchwil, defnyddio asesiadau niwroseicolegol, wedi eu cyhoeddi rhwng 2020-24; sy'n adlewyrchu'r cyfnod gyda mwy o ddiddordeb mewn dad-gytrefu. Mae'r adolygiad yn ystyried pum ffactor: 1) Tarddiad y sampl, 2) Iaith yr astudiaeth, 3) Iaith gyntaf/ddewisol y cyfranogwr, 4) Demograffeg, 5) Cefndir diwylliannol. Gall casgliadau annog ymchwilwyr/ymarferwyr i ystyried dylanwad iaith a chefndir diwylliannol ar asesiadau niwroseicolegol, ac adolygu'r broses o gynnal a dehongli canlyniadau. | 01/05/2024 |
Cyhoeddiadau
Blwyddyn | Cyhoeddiadau | Math |
---|---|---|
2023 | Jump Girls-Female Jockey's Unique Stressors and Coping Strategies, [DOI] Losty, Ciara;Sreenivas, Shubha |
Cyfnodolyn a Adolygwyd gan Gymheiriad |
2019 | Meditation on the Soles of the Feet Practice Provides Some Control of Aggression for Individuals with Alzheimer's Disease, Mindfulness, 10. [DOI] Singh, Nirbhay N.;Lancioni, Giulio E.;Medvedev, Oleg N.;Sreenivas, Shubha;Myers, Rachel E.;Hwang, Yoon-Suk |
Cyfnodolyn a Adolygwyd gan Gymheiriad |
2018 | Meditation on the Soles of the Feet Practice Provides Some Control of Aggression for Individuals with Alzheimer’s Disease, [DOI] Singh, Nirbhay N.;Lancioni, Giulio E;Medvedev, Oleg N;Sreenivas, Shubha;Myers, Rachel E;Hwang, Yoon-Suk |
Cyfnodolyn a Adolygwyd gan Gymheiriad |
2017 | The role of serotonin in personality inference: tryptophan depletion impairs the identification of neuroticism in the face, Psychopharmacology. [DOI] Ward, Robert;Sreenivas, Shubha;Read, Judi;Saunders, Kate, E. A.;Rogers, Robert, D. |
Cyfnodolyn a Adolygwyd gan Gymheiriad |
2011 | Emotional faces and the default mode network, Neuroscience letters. [DOI] Sreenivas, S.;Boehm, S. G.;Linden, D. E. J. |
Cyfnodolyn a Adolygwyd gan Gymheiriad |
Anrhydeddau a Gwobrau
Dyddiad | Teitl | Corff Dyfarnu |
---|---|---|
2020 | Seicolegydd Siartredig | Cymdeithas Seicolegol Prydain |
2012 | Sylfaen Graddedigion ar gyfer Aelodaeth Siartredig | Cymdeithas Seicolegol Prydain |
2020 | Cymrawd yr Academi Addysg Uwch | Advance HE |
2025 | Cymrawd Cyswllt | Cymdeithas Seicolegol Prydain |
Corff Dyfarnu
Cymdeitha | Ariennir gan |
---|---|
Cymdeithas Seicolegol Prydain | Aelod Siartredig |
Ymchwilydd | Aelod |
Pwyllgorau
Enw | Dyddiad |
---|---|
Pwyllgor Colociwm Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar Cyflwyniad Cymdeithas Ddysgedig Cymru | 04/2025 - 07/2025 |
Cyflogaeth
Cyflogwr | Swydd | Blwyddyn |
---|---|---|
Bwrdd lechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr | Seicolegydd Cynorthwyol | 2016 - 2018 |
Prifysgol Bangor | Swyddog Cymorth Prosiectau Ymchwil a Chynorthwyydd Addysgu | 2013 - 2017 |
NWORTH, Uned Treialon Clinigol, Prifysgol Bangor | Rheolwr Data | 2010 - 2015 |
Prifysgol Bangor | Ccynorthwyydd Ymchwil | 2008 - 2009 |
Addysg
Institution | Sefydliad | Pwnc | Blwyddyn |
---|---|---|---|
Prifysgol Bangor | MSc Sylfeini Seicoleg Glinigol | Seicoleg Glinigol | 2007 - 2008 |
Mother Teresa Women's University | MSc Seicoleg | Seicoleg | 2004 - 2006 |
University of Calicut | MA Cymdeithaseg | Cymdeithaseg | 1998 - 2000 |
Barathiya Vidya Bhavan | Diploma Ôl-raddedig mewn Newyddiaduraeth | Newyddiaduraeth | 1995 - 1996 |
University of Calicut | BA Llenyddiaeth | BA Llenyddiaeth Saesneg a Hanes Prydain | 1992 - 1995 |
Prifysgol Bangor | PhD | Hunan-briodoli ymddangosiad wyneb: cydberthyn o iselder ac ymateb ymyrraeth gynnar (Seicoleg) | 2012 - 2016 |
Ieithoedd
Iaith | Darllen | Ysgrifennu | Siarad |
---|---|---|---|
Tamil | Dim Hyfedredd | Dim Hyfedredd | Hyfedredd Elfennol |
Welsh | Hyfedredd Gweithio Cyfyngedig | Hyfedredd Elfennol | Hyfedredd Elfennol |
English | Hyfedredd Brodorol / Dwyieithog | Hyfedredd Brodorol / Dwyieithog | Hyfedredd Brodorol / Dwyieithog |
Hindi | Hyfedredd Gweithio Cyfyngedig | Hyfedredd Gweithio Cyfyngedig | Hyfedredd Gweithio Cyfyngedig |
Malayalam | Hyfedredd Proffesiynol | Hyfedredd Gweithio Cyfyngedig | Hyfedredd Brodorol / Dwyieithog |
Adolygydd neu Olygydd Cylchgronau
Enw'r Cyfnodolyn | Gweithgaredd | Blwyddyn |
---|---|---|
Sage | Adolygydd Cymheiriaid | 12/2021 - 12/2021 |
Partneriaethau Ymgynghori a Throsglwyddo Gwybodaeth
Cleient | Disgrifiad | Blwyddyn |
---|---|---|
Aparito | Bûm yn cynorthwyo i ddadansoddi data ansoddol ac adrodd am ganfyddiadau ar gyfer astudiaeth a oedd yn archwilio anghenion pobl â chyflwr genetig prin, a’u gofalwyr – hynny yw, anghenion nad oeddynt yn cael eu diwallu. Cynhaliodd dau o fyfyrwyr seicoleg Prifysgol Wrecsam y dadansoddiad hwn dan fy ngoruchwyliaeth. Ariannwyd fy amser ymgynghori gan arian KTP. | 2019 - 2019 |
Gweithgareddau Allgymorth
Teitl | Disgrifiad | Sefydliad |
---|---|---|
Coedwig Ffosiliau Brymbo | Gwirfoddolwr yng Nghoedwig Ffosiliau Brymbo | Brymbo Heritage Trust |
Gweithgareddau Proffesiynol Eraill
Teitl | Blwyddyn |
---|---|
Arholwr Allanol ar gyfer Prifysgol Canterbury Christ Church | 2022 - 2026 |
Arholwr Allanol ar gyfer Prifysgol John Moors Lerpwl (ar gyfer Partneriaeth Coleg Nelson a Colne). | 2021 - 2023 |
Arholwr Allanol ar gyfer Prifysgol Oxford Brookes | 2024 - 2029 |
Rhaglenni/ Modiwlau wedi'u Cydlynu
Dysgu | Subject |
---|---|
Seicoleg Fiolegol | PSY755 |
Seicoleg Ddiwylliannol a Chymunedol | PSY774 |
Ymchwil mewn Seicoleg 1 | PSY772 |
Seicoleg Gwybyddol | PSY762 |
Dulliau Ymchwil Canolradd | PSY508 |
Seicoleg Fforensig | PSY609 |
Prosiect Bach mewn Seicoleg | PSY330 |
Prosiect Mini mewn Seicoleg | PSY330 |
Cyflwyniad i Seicoleg 1 | PSY332 |
Prosiect Ymchwil | PSY744 |
Seicoleg Fiolegol | PSY511 |
Dulliau Ymchwil | PSY750 |
Seicoleg Datblygiadol | PSY754 |
Asesiadau mewn Ymarfer Seicolegol ac Ymchwil | PSY770 |
Seicoleg Fiolegol | PSY503 |
Sgiliau Astudio ar gyfer Seicoleg | PSY406 |
Cyflwyniad i sgiliau dadansoddi data meintiol ac adrodd ar gyfer Seicoleg | PSY418 |
Cyflwyniad i sgiliau astudio ar gyfer Seicoleg | PSY419 |
Seicopatholeg Ar Draws Oes | PSY767 |
Ôl-raddedigion Presennol
Enw | Radd |
---|---|
Katherine Rowlands | PhD |